Llangïan
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.827°N 4.532°W ![]() |
Cod OS | SH295288 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae Llangïan ( ynganiad ) yn bentref ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, gerllaw Afon Soch a fymryn i'r gogledd-orllewin o Abersoch. Enillodd y pentref wobr y pentref taclusaf yng Nghymru nifer o weithiau yn ystod y 1950au a'r 1960au.[angen ffynhonnell]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r eglwys yn gysylltiedig â theulu Nanhoron, ac mae cofeb ynddi i'r Capten Timothy Edwards a fu farw o dwymyn ar fwrdd llong yn 1780. Rhoddodd ei weddw, Catherine Edwards dir i godi'r Capel Newydd i'r Piwritaniaid cynnar.
Ym mynwent yr eglwys mae carreg fedd o'r 5ed neu'r 6g, gydag arysgrif Lladin arni: MELI MEDICI / FILI MARTINI / IACIT. Gellir ei gyfieithu fel "(Carreg) Melus y meddyg, mab Martinus. Mae'n gorwedd (yma)". Mae cael cyfeiriad at broffesiwn yr ymadawedig yn brin iawn ar y cerrig beddi cynnar hyn, a dyma'r unig gyfeiriad at feddyg sydd wedi goroesi o'r cyfnod yma yn Ynysoedd Prydain.
Brodor o Langïan oedd y llenor a'r hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1
- Parry, Gruffudd (1960) Crwydro Llŷn ac Eifionydd' (Llyfrau'r Dryw)
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014