Clynnog Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clynnog Fawr
Clynnog.JPG
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Clynnog Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0209°N 4.3647°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH414496 Edit this on Wikidata
Cod post LL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae Clynnog Fawr ("Cymorth – Sain" ynganiad ), weithiau Clynnog-fawr neu "Clynnog" i'r trigolion, yn bentref a chymuned (wrth yr enw swyddogol Clynnog) ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Mae Clynnog Fawr ar ffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, cyfeiriad OS SH415500. Yn 1991 yr oedd y boblogaeth yn 130.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif Clynnog mewn safle strategol bwysig, ar ben gogleddol y llwybr hawddaf trwy'r mynyddoedd rhwng arfodir deheuol ac arfordir gogleddol Llŷn. Bu nifer o frwydrau yn y cylch, yn cynnwys Brwydr Bron yr Erw yn 1075 pan orchfygwyd ymgais gyntaf Gruffudd ap Cynan i ddod yn frenin Gwynedd gan Trahaearn ap Caradog a Brwydr Bryn Derwin yn 1255 pan orchfygodd Llywelyn ap Gruffudd ei frodyr Owain a Dafydd i gymeryd meddiant o holl deyrnas Gwynedd.

Mae siambr gladdu Neolithig Bachwen rhwng y pentref a'r môr.

Eglwys Sant Beuno[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Eglwys Sant Beuno

Y prif adeilad o ddiddordeb yn y pentref yw Eglwys Sant Beuno, sy'n adeilad anarferol o fawr i bentref o faint Clynnog. Dywedir fod clas mynachol wedi ei sefydlu gan Beuno yma yn nechrau'r 7c. Datblygodd i fod yn sefydliad pwysig, ac mae rhai o lawysgrifau Cyfraith Hywel Dda yn nodi fod gan abad Clynnog hawl i sedd yn llys brenin Gwynedd. Cofnodir fod yr eglwys wedi ei llosgi gan y Daniaid yn 978 ac yn ddiweddarach llosgwyd hi eto gan y Normaniaid. Erbyn diwedd y 15g yr oedd yn eglwys golegol, un o ddim ond chwech yng Nghymru. Roedd yr eglwys yn arosfan bwysig i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, ac mae'n cynnwys Cyff Beuno, hen gist bren wedi ei naddu o un darn o onnen, a ddefnyddid i gadw rhoddion y pererinion. Yma hefyd mae "Maen Beuno" sydd yn ôl yr hanes yn dwyn olion bysedd Beuno ei hun. Tu allan yn y fynwent mae deial haul sy'n cael ei ddyddio rywbryd rhwng diwedd y ddegfed ganrif a dechrau'r ddeuddegfed ganrif.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith enwogion o Glynnog mae dau a fu'n Gatholigion blaenllaw yn yr 16g, sef:

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Clynnog Fawr (pob oed) (997)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Clynnog Fawr) (698)
  
73.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Clynnog Fawr) (689)
  
69.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Clynnog Fawr) (149)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]