Bachwen (siambr gladdu)
Gwedd
| Math | cromlech |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.018909°N 4.375248°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | CN008 |
Mae cromlech Bachwen yn garnedd gellog, sef math arbennig o siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw Clynnog Fawr yng Ngwynedd.
Nid oes sicrwydd ynglŷn â sut i ddosbarthu'r siambr gladdu yma, ond credir ei bod yn siambr porth. Bu cloddio yma yn 1876 ond nid oes cofnod i lawer gael ei ddarganfod. Nodwedd fwyaf diddorol Bachwen yw y marciau sydd wedi eu cerfio ar ran uchaf y maen capan, er bod y cen ar y maen yn eu gwneud yn anodd i'w gweld.
Gellir cyrraedd at y siambr gladdu trwy gymeryd y llwybr sy'n arwain hebio ochr ddeheuol eglwys Clynnog, troi i'r dde wedi cyrraedd y ffordd, ac yna dilyn llwybr ar y chwith gyferbyn a fferm Bach-wen ei hun.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
