Cromlech

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hunebed D27 yn Borger-Odoorn, Yr Iseldiroedd
Dolmen da Aboboreira, Baião, Portiwgal
Dolmen Er-Roc'h-Feutet yn Carnac, Llydaw
Cromlech Ganghwa yn Ne Corea

Heneb cynhanesyddol o feini neu gerrig mawr yw cromlech, sy'n air Cymraeg ac sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg. Defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno a rhai ieithoedd eraill lle mae'n gallu golygu unrhyw heneb fegalithig a siambrau claddu. Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig).

Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu neolithig ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu dwyn i ffwrdd dim ond y meini mawr sy'n aros.

Fel rheol mae cromlech yn cynnwys tri neu ragor o feini wedi'u gosod ar eu sefyll yn y ddaear gyda maen clo drostynt. Mae eu maint yn amrywio; y gromlech fwyaf yng Nghymru yw cromlech Pentre Ifan yn Sir Benfro.

Traddodiadau a damcaniaethau hynafiaethol[golygu]

Gyda threigliad amser daeth pobl ddiweddarach i gysylltu cromlechi a'r Arallfyd neu'r Tylwyth Teg a cheir ystorfa werthfawr o chwedlau llên gwerin a thraddodiadau sy'n ymwneud â chromlechi yng Nghymru a gwledydd eraill. Yng Nghymru ceir sawl enghraifft o roi enwau fel 'Llety'r Filiast' arnynt — roedd milgwn yn anifeiliaid cysegredig gan y Celtiaid sy'n cael ei chysylltu â'r Byd Arall ac Angau, e.e. Cŵn Annwn — ac fe'i cysylltir hefyd â beirdd neu'r brenin Arthur.

Yn y cyfnod modern cynnar daeth hynafiaethwyr rhamantaidd i gysylltu cromlechi â'r Derwyddon, gan gredu eu bod yn allorau ac yn fannau aberthu.

Dosbarthiad cromlechi[golygu]

Tueddir i gysylltu cromlechi â thirwedd y gwledydd Celtaidd (yn arbennig Cymru, Llydaw ac Iwerddon), ond ceir cromlechi mewn nifer o lefydd ar draws Ewrop, gogledd Affrica a rhannau o Asia. Ceir cromlechi ar gyfandir Ewrop yn yr Iseldiroedd, Sbaen a'r Almaen a lleoedd eraill. Ceir nifer fawr o gromlechi mewn rhannau o Rwsia. Yng ngogledd Affrica ceir enghreifftiau da ar yr arfordir yn Nhunisia ac Algeria. Yn Asia mae'r enghreifftiau mwyaf trawiadol i'w cael mor bell i ffwrdd â De India a Corea.

Ewrop[golygu]

Ceir siambrau claddu Megalithig o arfordir y Môr Baltig a Môr y Gogledd, hyd at Sbaen a Portiwgal yn y de. Yn yr Iseldiroedd ceir y siambrau claddu Hunebedden sy'n dyddio o ganol y cyfnod Neolithig ac yn perthyn i'r diwylliant Funnelbeaker (4ydd fileniwm CC).

Yn y gwledydd Celtaidd o gwmpas Môr Iwerddon ceir cromlechi yn ne-ddwyrain a gorllewin Iwerddon (e.e. ardal y Burren a Connemara), Cymru a Chernyw. Ceir enghreifftiau hefyd yng ngogledd Iwerddon lle mae'n bosibl eu bod yn perthyn i'r un cyfnod â'r carneddi llys. Credir fod y cromlechi hyn wedi datblygu o fath o gladdfeydd cist cynharach. Fel ag yn achos Cymru, ceir nifer o draddodiadau a chwedlau am y meini hyn.

Yn ardal Carnac, yn Llydaw, ceir rhai dwsinau o gromlechi (dolmen). Mae enghreifftiau eraill yn Ffrainc yn cynnwys Passebonneau a des Gorces ger Saint-Benoît-du-Sault.

Yn Sbaen ceir cromlechi yn Ngalicia (e.e. Axeitos), Catalonia (e.e. Romanyà de la Selva a Creu d'en Cobertella) ac Andalusia (e.e. Cueva de Menga). Ceir nifer o gromlechi ym Mhortiwgal yn ogystal.

Y gromlech fwyaf yn Ewrop yw Dolmen Browneshill yn Swydd Carlow, yn Iwerddon. Mae ei maen clo yn pwyso tua 150 tunnell.

Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol[golygu]

Yng Ngogledd Affrica ceir cromlechi bychain yn Algeria a Thunisia. Yn y Dwyrain Canol ceir rhai yn Syria a Gwlad Iorddonen.

Eurasia[golygu]

Ceir tua 3000 o gromlechi a strwythurau megalithig eraill yn ardal ogledd-orllewin y Caucasus yn ne Rwsia, a darganfyddir rhagor o enghreifftiau yn y mynyddoedd bob blwyddyn.

Asia[golygu]

Ceir nifer o gromlechi a siambrau claddu yng Nghorea, sy'n dyddio o tua'r mileniwm cyntaf C.C. Mae'r gromlech yn Ganghwa yn perthyn i ddosbarth cromlechi'r gogledd, ac o siâp pen bwrdd. Ei maen clo yw'r mwyaf yn Ne Corea, yn mesur 2.6 wrth 7.1 wrth 5.5 medr. Amcangyfrifir fod tua 30,000, o gromlechi a siambrau claddu yn Nghorea (De a Gogledd), sef tua 40% o'r cyfanswm yn y byd.

Ceir nifer o gromlechi yn nhalaith Kerala, yn ne-orllewin India. Un safle yw'r un ger Marayoor, Kerala, yn ymyl pentref bychan Pious Nagar (Alinchuvad). Mae'r cromlechi hyn yn digwydd mewn grwpiau o rhwng dau a phedwar o gromlechi ac ymddengys eu bod ar gyfer aelodau o'r un teulu. Ceir rhai cannoedd o grwpiau tebyg yn ardal Kerala.

Mae ynys Sumba yn nwyrain Indonesia yn nodedig am fod yn un o'r ychydig leoedd yn y byd lle mae traddodiad o gladdu meirwon mewn cromlechi yn parhau.

Gweler hefyd[golygu]