Sumba
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 611,422 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Swnda Lleiaf |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10,711 km², 891.932 km² |
| Uwch y môr | 604 metr |
| Gerllaw | Cefnfor India |
| Cyfesurynnau | 9.72833°S 120.00111°E |
![]() | |
Ynys yn Indonesia yw Sumba. Saif i'r de-ddwyrain o ynys Sumbawa, ac mae'n cael ei gwahanu oddi wrth ynys Flores gan Gulfor Sunda. I'r dwyrain mae ynys Timor. Mae arwynebedd yr ynys yn 11,153 km², a'r boblogaeth yn 611,422 (2005). Y dref fwyaf ar yr ynys yw Waingapu, gyda phoblogaeth o tua 10,000. Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Dwyrain Nusa Tenggara.
O ran crefydd, mae tua 25% - 30% o'r boblogaeth yn animistiaid, a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn Gristionogion. Mae'r ynys yn nodedig am fod yn un o'r ychydig leoedd yn y byd lle mae traddodiad o gladdu meirwon mewn cromlechi yn parhau.


