Corea

Oddi ar Wicipedia
Corea
조선/朝鮮 (Gogledd Corea)
한국/韓國 (De Corea)

Mathrhanbarth, cenedl, gwlad wedi'i hollti Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGoryeo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd219,155 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Japan, Y Môr Melyn, Môr Dwyrain Tsieina Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMôr y De Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.3167°N 127.2333°E Edit this on Wikidata
Map
Mynyddoedd Seoraksan, Corea

Gwlad hanesyddol a thiriogaeth ddaearyddol a diwylliannol yn Nwyrain Asia, i'r dwyrain o Tsieina ac i'r gorllewin o Japan, yw Corea. Ers y 1950au fe'i rhennir yn ddwy wladwriaeth, sef Gweriniaeth De Corea a Gweriniaeth Pobl Democrataidd Corea. Gwlad Gomiwnyddol yw Gogledd Corea a rhwng Mehefin 1950 a Gorffennaf 1953 bu rhyfel rhwng y ddwy wlad fel rhan o'r Rhyfel Oer.

Dawnswraig draddodiadol yn 2008 yn Seoul, Gweriniaeth Corea.

Hanes Corea[golygu | golygu cod]

Meddiannodd Siapan Corea o 1910 hyd at 1945 pan "ymroddodd" Siapan tua diwedd yr ail ryfel byd. Derbyniwyd yr ymroddiad gan yr Undeb Sofietaidd yng ngogledd y wlad, a gan yr Unol Daleithiau yn y de. Wrth i'r llywodraeth Sofietaidd a llywodraeth yr Unol Daleithiau fethu cytuno ar ddyfodol y wlad, Syngman Rhee ddaeth yn arweinydd y De cyfalfol a'r Capten Kim Il Sung yn arweinydd y Gogledd sosialaidd.

Rhyfel Corea[golygu | golygu cod]

Gyda'r bwriad o ail uno'r wlad o dan ei arweiniaeth ymosododd lluoedd Kim Il Sung ar y De yn 1950. Dechreuodd Rhyfel Corea gyda goresgyniad Inchon ar 25ain o Fehefin. Daeth Prydain a'r Unol Daleithiau i mewn yn filwrol ar ochr y De tra bu'r Gogledd yn mwynhau cefnogaeth yr Undeb Sofietaidd dan Stalin a Gweriniaeth Pobl Tsieina dan Mao Zedong. Arwyddwyd cadoediad rhwng y Gogledd a'r Unol Daleithiau ar rhan yr CU yn Panmunjeom yn 1953 a chrewyd ffin cadoediad yn ardal anfilwrol (DMZ - Demilitarised Zone) hyd Lledred 38 rhwng y De a'r Gogledd, tua'r un lle a'r ffin cyn y rhyfel. Yn dechnegol, mae'r ddwy wlad yn dal mewn rhyfel.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Mae Gweriniaeth De Corea (prifddinas: Seoul) dan ei harlywydd Lee Myung-bak yn wlad ddemocrataidd heddiw, ond mae'r Gogledd yn parhau i fod yn wlad Stalinaidd ar linellau'r hen Undeb Sofietaidd dan ei harweinydd Kim Jong-un a'i lywodraeth yn Pyongyang.