Sgwrs:Corea

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Corea/Korea[golygu cod]

Gan y dylid dilyn sillafiad yr Atlas Newydd Cymraeg De Korea a Gogledd Korea dylai'r sillafiad fod.

Yr egwyddor yw y dylid cadw at y sillafiad cynhenid onid oes yna enw a sillafiad Cymraeg yn dradoddiadol.

All rhywun newid hwn. Diolch

Draig Goch20 - Wyf cael "Corea" oddi wrth yr Geiriadur Pocket Modern yn Cymraeg a Saesneg. Dwi cytuno gyda "Korea" a "Corea" yn gyda'i gilydd.

Hm. O'n i'n meddwl fod Corea yn weddol gyffredin, ond chi sy'n iawn -- mae newyddion y BBC yn defnyddio Korea'n fwy aml na Corea. (Gyda llaw, Draig Goch20, gallwch lofnodi'ch neges gyda '~~~~' ar y diwedd, yn hytrach na theipio'ch enw drwy'r amser. Mae hyn yn rhoi'r dyddiad a'r amser hefyd.) Gareth 17:56, 14 Aws 2004 (UTC)

Diolch

Draig goch20 21:32, 25 Meh 2005 (UTC)

Ond pa gysondeb, Llywelyn? Os ydym am dderbyn hyn bydd rhaid fynd ati i newid y categoriau i gyd hefyd, am y categoriau Corea, De Corea a Gogledd Corea. Oes angen creu gwaith ychwanegol? Mae'r drafodaeth uchod yn dyddio o bum mlynedd yn ôl... Dwi ddim yn gweld y pwynt, a deud y gwir. Anatiomaros 22:44, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
ON Mae 'na awr neu ddwy o waith i rywun os am newid y categoriau i gyd: gweler Categori:Corea a'r holl is-gategoriau. Anatiomaros 22:46, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Anatiomaros. Roedd Corea a Korea'n cael eu defnyddio, felly roedd yn rhaid cysoni. Roedd y drafodaeth wedi ochri gyda Korea ac felly mi newidiais i'r defnydd i Korea. Yr un yw'r dadleuon er bod 5 mlynedd wedi mynd heibio. Dwi hefyd wedi dechrau newid Rhyfel Corea i Rhyfel Korea, fel y gweli. Os nad ydym yn defnyddio'r Atlas Newydd Cymraeg fel safon yna beth wyt ti'n ei awgrymu?
Y ddadl am amser, awr neu ddwy; mae'n well cael ychydig o erthyglau da, safonol na llwyth o gachu! Llywelyn2000 22:53, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Llywelyn bach, meddwl am yr amser oeddwn i yn bennaf, gan fod dadl dros y ddwy ffurf (gyda llaw, mae'r Atlas Cymraeg yn hynod o anghyson yn ei ddewis o enwau lleoedd hefyd, ond mater arall yw hynny). Ac mae'n berthnasol fod y drafodaeth uchod yn dyddio o bum mlynedd yn ôl; pe bai cytundeb rhwng rhai ohonom ni, heddiw, basa hynny ddim yn broblem, cyn belled â bod rhywun yn gwirfoddoli i wneud y gwaith ar y categoriau, er mwyn cysondeb. Ac yn yr amser mae'n cymryd i wneud hynny, wele dwy erhygl dda, safonol yn cael ei sgwennu, efallai... ;-) Anatiomaros 23:01, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Ha! Dwi'n gwybod am ffaeleddau babi rhen Dafydd Orwig, ond i ble arall y trown? Beth ddywed CBAC? Doeddwn i ddim eisiau ailgodi'r ddadl, ond gan dy fod yn swnio'n eitha pendant a chry dy farn ynglyn a hyn, gad i ni adael y drafodaeth yn agored am wythnos i eraill ymateb. Beth bynnag ydy canlyniad y drafodaeth mi wna i'r gwaith llafur ar y cysoni, beth bynnag y canlyniad: Corea neu Korea. Llywelyn2000 23:09, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Ia, hynod o anghyson, ac mae hynny'n creu problemau mawr i ni, wrth gwrs. Dyma ni ar ddiwedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif a dal heb enwau safonol ar wledydd y byd (heb sôn am enwau daearyddol eraill!). Anobeithiol! Os ydym yn cytuno ar Korea - neu Corea! - does dim problem gennyf, mi âf gyda barn y mwyafrif. Diolch am wirfoddoli i wneud y gwaith ar y categorïau, ond sylwer mae'n gallu bod yn waith llafurus i gael pob dim i'r gorlan - am fod sawl is-gategori o fewn is-gategoriau eraill ayyb - ac ail-greu'r system sydd gennym yn barod. Wna'i helpu os daw i hynny, ond dwi'n dal i feddwl fod gennym ni reitiach bethau i'w wneud. Hwyl, Anatiomaros 23:30, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
A deud y gwir, mae hyn yn rhan o hen hen ddadl. Wyt ti wedi gweld y rhestr yma - Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg? Mae i gyd yn dibynnu ar ba "awdurdod" a dderbynnir ond mae'n amlwg o'r rhestr fod anghysondebau hyd yn oed yn achos yr enwau a gynigir gan unrhyw un "awdurdod", yn enwedig yr Atlas Cymraeg, a Bwrdd yr Iaith i raddau hefyd. Pam ydy'r olaf yn defnyddio dwy 'c' yn yr enw 'Moroco', er enghraifft, yn groes i deithi'r iaith a'r ddau awdurdod arall hefyd (Moroco sy gennym ni; ffurf Saesneg ydy 'Morocco'). Cyn belled ag y mae Corea/Korea yn y cwestiwn, mae'r Atlas a'r Bwrdd yn derbyn y ffurf Saesneg Korea (Duw a wyr pam!) tra bod Geiriadur yr Academi yn rhoi'r Cymreigiad call 'Corea'. Mae gan y rhan fwyaf o'r ieithoedd eu ffurfiau nhw o'r enw (gweler y dolenni rhyngwici yma), gyda nifer ohonyn nhw'n defnyddio 'C' yn lle 'K', e.e. y Ffrangeg 'Corée'. Hefyd, mae'n deud uchod "Yr egwyddor yw y dylid cadw at y sillafiad cynhenid onid oes yna enw a sillafiad Cymraeg yn dradoddiadol." Iawn te, beth ydy sillafiad cynhenid 'Corea'? Rhaid i ti fedru darllen Corëeg: nid 'Korea' (na 'Corea' ayyb chwaith) yw'r sillafiad cynhenid. Dwi'n methu deall pam ein bod yn defnyddio'r ffurfiau Saesneg "Afghanistan" a "Pakistan" ar y Wici chwaith, gan fod y Cymreigiadau 'Affganistan' a 'Pacistan' mor naturiol (mae'r Academi yn cytuno ond mae'r Atlas a'r Bwrdd yn derbyn yr enwau yn eu gwisg Saesneg, am ryw reswm). Mi weli di fod yna sawl enghraifft arall ar y rhestr. Cyn belled ag y mae'r Wici yn y cwestiwn mae'n rhaid i ni dderbyn un ffurf oherwydd y system. Mae pobl yn anghytuno, mae'n amlwg. A fedrem ni fforddio treulio amser ac adnoddau prin ar newid yr enwau sydd gennym (a'u dadnewid wedyn efallai!)? O leia mi ddylem ni drafod unrhyw newid yn gyntaf cyn bwrw ati i wneud hynny. Mae 'na ddadl dros newid rhai o'r enwau sy gennym ni (cael Affganistan yn lle "Avg-hanistan" er enghraifft!), ond dylem ni ddim gwneud hynny ar chwarae bach am ei fod yn golygu cymaint o waith. Wyt ti'n cytuno fod hynny'n gwneud synnwyr, Llywelyn? Anatiomaros 16:36, 11 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi cael hyd i'r trafodaethau cynharach, Llywelyn, os ydyn nhw o ddiddordeb i ti: Sgwrs:Gwledydd y byd a Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y Byd (math o archif yw'r un olaf, hyd at 2007). Anatiomaros 22:25, 11 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Roeddwn i'n ymwybodol o'r sgwrs y cyfeiri di ati, ac at y rhestr enwau yma. Sylwa hefyd fod Bwrdd yr Iaith yn cytuno gyda'r Atlas yn y cyswllt yma. Y rhan bwysicaf ohono yn fy marn i ydy (a mi wna i ddyfynnu Dyfrig rwan):

Bu gweithgor o chwechh o arbenigwyr yn gweithio dros bedair blynyedd yn datblygu ac yn cytuno ar bolisi golygyddol - pwy ydyn ni i gwestiynnu ei barn.

Dyma'r canllawiau y maent wedi dilyn a rwyn dyfynnu

" Gwledydd" (a) lle bo enw traddodiadol Cymraeg ei ddefnyddio. e.e. Ariannin, seland Newydd (b) Cymreigio ambell enw neu ran o enw e.e. Gogledd Korea (c) Lle nad oes enw Cymraeg nac ymgais i Gymreigio'r enw (i) Gwyddor Rufeinig - cadw'r sillafiad cywir gan gynnwys yr acenion e.e. Brasil, Mexico (ii) Gwyddor Anrufeinig - cadw'r fersiwn ryngwladol a arddelir gan y gwledydd e.e. Afghanistan, Kuwait, Saudi Arabia

Diwedd y dyfynnu.

Efallai, er cysondeb, y dylem ychwanegu colofn arall i'r tabl gwledydd: ffurf a fabwysiadir gan Wicipedia. NEU: dderbyn ein bod yn defnyddio UN o'r colofnau; a mi faswn i'n awgrymu ein bod yn defnyddio sillafiad Bwrdd yr Iaith. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb. Ond y cwestiwn mawr ydy (fel y gofyni di): oes gennym ni'r amser i wneud y fath newid? Llywelyn2000 08:52, 12 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Nes ein bod wedi dod i gytundeb, dwi am ddadwneud fy ngolygiadau parthed Korea. Ysywaeth, "Methwyd a dadwneud y golygiad oherwydd gwrthdaro â golygiadau cyfamserol." Fedrith rywun eu dadwneud drosta i plis. Llywelyn2000 09:03, 12 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Er gwybodaeth, mae gennym ein rhestr enwau gwledydd yma, a Korea, De Korea a Gogledd Korea sydd ar hwnnw. Gweler hefyd sgwrs pellach yn [caffi]. Llywelyn2000 23:20, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Iawn felly, wyt ti am i ni fod yn gwbl hurt a newid Irac i Iraq, fel mae doethwyr yr Atlas yn awgrymu? Dwi ddim yn gweld y pwynt mewn hyn o gwbl. Anatiomaros 23:49, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Mae rhai pobl yma yng Nghorea yn gwrthod i sillafu'r enw Saesneg efo 'K', yn hytrach yn parhau i ddefnyddio sillafiad Saesneg o'r 19eg ganrif, sef 'Corea'. Maent yn cyhuddo Japan o safoni'r sillafiad Saesneg i 'Korea' fel bod Japan o'u blaenau mewn trefn yr wyddor Saesneg/Rhufeinig. Gwelwch yma (http://en.wikipedia.org/wiki/Names_of_Korea) i ddarllen mwy. Gwelwch yno hefyd esboniad bod enw'r wlad yn cael ei sillafu efo 'C' yn yr ieithoedd Celtaidd (a'r Rhufeinaidd). Credaf fod sillafu Corea yn Gymraeg efo 'K' yn hollol anghywir. Cymrodor 12:08, 12 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Bydd hi ddim yn syndod i ti gael gwybod mod i'n cytuno! Ond cafwyd dadl boeth am hyn ac enwau Seisnigaidd eraill a argymhellir gan "arbennigwyr" honedig y bobl mewn swyddi bras sy'n fod i warchod a hybu'r iaith Gymraeg ond sy'n gwneud hynny trwy ddweud wrth bawb i ddefnyddio enwau Saesneg yn lle Cymraeg (rhan yn unig o'r ddadl faith sydd uchod). Mae'r ffrae a gododd rhyngof a chyfranwr arall oherwydd hyn yn ddŵr dan y bont erbyn hyn, ond dydwi ddim eisiau gwyntyllu'r marwydos trwy symud yr erthygl fy hun. Diddorol yw'r ffeithiau uchod am sillafiad Corea/Korea yn y wlad ei hun, ond hyd yn oed pe bai pob iaith arall heblaw'r Gymraeg yn defnyddio 'K' ni fyddai hynny'n ddadl dros ddewis ffurf Seisnigaidd yn lle'r un Gymraeg naturiol. Dwi'n meddwl bod hi'n hen bryd i ni symud hyn ond gadawaf i rywun arall wneud hynny, os nad oes gwrthwynebiad. Anatiomaros 22:39, 12 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]