Georgia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mae'r erthygl yma am y wlad. Am y dalaith o'r Unol Daleithiau, gweler Georgia (talaith UDA)
Georgia
Greater coat of arms of Georgia.svg
Sakartvelo
Flag of Georgia.svg
Arwyddair ძალა ერთობაშია Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Georgians Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Prifddinas Tbilisi Edit this on Wikidata
Poblogaeth 3,729,500 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1008 Edit this on Wikidata
Anthem Tavisupleba Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Mamuka Bakhtadze Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+04:00 Edit this on Wikidata
Nawddsant Siôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Georgeg, Abchaseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd 69,700 ±1 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Armenia, Aserbaijan, Rwsia, Twrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 42.017°N 43.733°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Cabined Georgia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Senedd Georgia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Georgia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Giorgi Marghvilashvili Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Georgia Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Mamuka Bakhtadze Edit this on Wikidata
LocationGeorgia.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $15,159 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $3,796 ±0.01 Edit this on Wikidata
Arian Georgian lari Edit this on Wikidata
Chwyddiant 1.8 ±0.1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.816 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.754 Edit this on Wikidata

Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Aserbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.

Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Georgia

Hanes Cynnar Georgia tan 1991[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Georgia
Cwpan Bedia o'r Brenin Bagrat III, 999 AD
Hen Georgia - Colchis ac Iberia

Gelwid Georgia Colchis ac Iberia gan y Groegwyr. Roedd y wlad yn frenhiniaeth sefydlog yn y canrifoedd CC. Yma oedd cartref y Cnu Aur a geisiodd Jason a'i Argonautiaid.

Brenn Iberia Mirian III sefydlodd Cristnogaeth yn Georgia yn AD 327.
Brenin David yr Adeiladwr, mynachlog Shio-Mgvime
Brenhines Tamar a'i thad George III o'r mynachlogdy Betani)
Brenhines Tamar ar furlun o fynachlogdy Vardzia
Brenhiniaeth Georgia ar ei orau, 1184-1225

Daeth y wlad dan y Rhufeinwyr fel 'cleient' am 400 mlynedd. Wedi derbyn cristnogaeth tyfodd yn wlad annibynnol. Ildiodd y wlad i'r Arabiaid yn y 7ed ganrif am gyfnod, Yn AD 813, tywysog Ashot I dechreodd y dynasti Bagrationi a barhaodd am 1,000 mlynedd. Unodd gorllewin a dwyrain Georgia dan Bagrat V (1027-72). Erbyn y 12ed ganrif roedd Georgia yn rheoli dros Armenia, arfordir gogledd Twrci a rhan o Aserbaijan, dyma'r "Oes Aur' dan y brenin David a'i Wyres y Frenhines Tamar.

Cymerwyd Tblisi yn 1226 gan y Brenin Kwarezmid (Persiaid) Mingburnu cyn syrthio i'r Mongoliaid yn 1236 ac ailfeddianwyd y wlad dan Timur yn 1386 a 1404. O'r 16g ymlaen rhannwyd Georgia rhwng Byzantium a Persia. Arhosodd dan Persia tan i'r brenin Heraclius II dod i rym fel brenin annibynnol yn 1762.

Ugain mlynedd ar ôl i Heraclius dod yn frenin daeth dylanwad y Rwsiaid yn gryfach, sefyllfa a barodd ddwy ganrif tan 1991 - heblaw cyfnod byrhoedlog 1918-21. O fewn ffiniau y Georgia presennol mae tiroedd a roddodd i Georgia gan y Rwsiaid (ond bod nhw i gyd wedi dod dan Georgia yn y 12ed ganrif hefyd.)

Hanes Diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 9 Ebrill, 1991 yn syth ar ôl datgymalu'r USSR, cyhoeddodd Georgia ei hannibyniaeth. Ar 26 Mai, 1991 etholwyd Zviad yn Arlywydd ond cododd coup d'état rhwng 22 Rhagfyr 1991 a 6 Ionawr 1992 gyda rhyfel cartref a barodd hyd at 1995. Dychwelodd Eduard Shevardnadze yn ei ôôl i Georgia yn 1992 ac etholwyd ef yn Arlywydd yn 1995.

Yn fuan wedyn dechreuodd dwy ranbarth o'r wlad: sef Abkhazia a De Ossetia gweryla â'r llywodraeth ganolog a throdd cweryl yn ymladd. Roedd Rwsia'n ochri gyda'r ddwy ranbarth a oedd yn ceisio eu hanibyniaeth eu hunain. Llwyddodd y ddwy i gael lled-annibyniaeth oddi wrth Georgia. Yn y rhyfel hyn, lladwyd dros 250,000 o Georgiaid yn y ddwy ranbarth.

Yn 2003, yn dilyn twyll yn yr etholiadau, gwthiwyd Shevardnadze (a etholwyd yn 2000) o'r neilltu gan Chwyldro'r Rhosod ac etholwyd Mikheil Saakashvili yn ei le yn 2004.

Gan fod y wlad wedi ochri gyda Chechniya yn yr Ail Ryfel Chechen, dirywiodd ei pherthynas gyda Rwsia. Ar yr un pryd, dechreuodd yr Unol Daleithiau ei harfogi.

Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i fewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn Rhyfel De Ossetia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:

  1. Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill
  2. Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor
  3. Caniatáu cymorth dyngarol
  4. Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol
  5. Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
  6. Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Georgia cities01.png
Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Georgia

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Georgia

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]