Mao Zedong
| Mao Zedong | |
|---|---|
|
| |
| Ganwyd |
Mao Zedong 26 Rhagfyr 1893 Shaoshan |
| Bu farw |
9 Medi 1976 Achos: Trawiad ar y galon Zhongnanhai |
| Dinasyddiaeth |
Gweriniaeth Pobl Tsieina, Republic of China (1912–1949), Brenhinllin Qing |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth |
Gwleidydd, Bardd, Ysgrifennwr, athronydd |
| Swydd |
Chairman of the Communist Party of China, Chairman of the Central Military Commission of Communist Party of China, Chairman of the National Committee of the Chinese People's Political Consultative Conference, President of the People's Republic of China |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am |
Llyfr Coch Bach |
| Gwaith nodedig |
Llyfr Coch Bach |
| Plaid Wleidyddol |
Plaid Gomiwnyddol Tsieina |
| Mudiad |
Marxism–Leninism, Agrarismo |
| Tad |
Mao Yichang |
| Mam |
Wen Qimei |
| Priod |
Luo Yixiu, Yang Kaihui, He Zizhen, Jiang Qing |
| Plant |
Mao Anying, Mao Anqing, Mao Anlong, Yang Yuehua, Li Min, Li Na |
| Llofnod | |
|
| |
Mao Zedong (hefyd Mao Ze-dong neu Mao Tse-tung) (Tsieineeg 毛泽东 neu 字润之
ynganiad ) (26 Rhagfyr, 1893 – 9 Medi, 1976) oedd arweinydd y Chwyldro Tsienëaidd ac arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Cynnwys
Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei eni i rieni gwerinol yng nghefn gwlad Hunan. Erbyn 1920 roedd yn proffesu Marcsiaeth a helpodd sefydlu Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn 1921. Erbyn diwedd y 1920au roedd yn arweinydd herwfilwrol yn ymladd yn erbyn y Guomindang (Plaid Genedlaethol Tsieina), oedd dan arweinyddiaeth Chiang Kai-Shek.
Yr Orymdaith Hir[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1931 daeth yn gadeirydd sofiet Jianxi. Pan orfodwyd y Comiwnyddion i ffoi o Jianxi yn 1934 fe'u harweinwyd gan Mao ar yr Orymdaith Hir. Rhoddwyd pris o $250,000 ar ei ben gan y llywodraeth. Pan gyrhaeddodd Yan'an yn 1935 roedd yn cael ei gydnabod fel un o arweinyddion pennaf y Blaid Gomiwnyddol.
Y Rhyfel Gwladgarol Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ôl i'r blaid honno ymuno â'i hen elynion y Guomindang i ymladd yn erbyn lluoedd Siapan yn ystod Rhyfel Tsiena a Siapan (1937 - 1945), a elwir weithiau "Y Rhyfel Gwladgarol Mawr", a gorchfygu'r goresgynwyr, ail-gychwynodd y rhyfel cartref. Dan arweinyddiaeth Mao ac eraill gorchfygwyd y Guomindang a ffoasant i Daiwan i ffurfio llywodraeth mewn alltudiaeth ar yr ynys honno.
Cyhoeddi Gweriniaeth Pobl Tsieina[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1949 cyhoeddodd Mao, a oedd erbyn hynny'n Gadeirydd y Blaid Gomiwnyddol, Weriniaeth Pobl Tsieina. Roedd ysgrifau gwleidyddol Mao yn cael eu derbyn fel sylfaen athronyddol y wladwriaeth newydd a'i llywodraeth gomiwnyddol ac ar eu sail sefydlwyd comiwnau a'r Naid Fawr Ymlaen.
Y Chwyldro Diwylliannol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddiswyddodd Mao fel cadeirydd swyddogol y blaid yn 1958, ond mewn gwirionedd bu iddo gadw llawer o rym. Daeth yn ffigwr canolog yn y Chwyldro Diwylliannol yn ystod y 1960au pan welid ei lun a'i Lyfr Coch Bach ymhob man.
Yr olyniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Pan fu farw yn 1979 ceisiodd ei drydedd wraig Jiang Qing ("Madam Mao") a'i chefnogwyr gymryd drosodd y blaid a'r wlad ond roeddent yn aflwyddianus a chymerodd Hua Guo Feng le Mao fel arweinydd.
|