Libanus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am y pentref yng Nghymru, gweler Libanus, Powys; am ddefnyddiau eraill, gweler Libanus (gwahaniaethu).
Libanus
Beirutcity.jpg
Coat of arms of Lebanon.svg
الجمهوريّة اللبنانيّة
Flag of Lebanon.svg
Math gwlad, gwladwriaeth sofran, Un o wledydd môr y canoldir Edit this on Wikidata
Prifddinas Beirut Edit this on Wikidata
Poblogaeth 4,467,390 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 22 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
Anthem Anthem Genedlaethol Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Saad Hariri Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2, UTC+03:00, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Gwlad Libanus Edit this on Wikidata
Arwynebedd 10,452 ±1 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Syria, Israel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 33.83333°N 35.76667°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Senedd Libanus Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
arlywydd Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Michel Aoun Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Saad Hariri Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $51,844 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $8,808 Edit this on Wikidata
Arian punt Libanus Edit this on Wikidata
Wrth gefn 55,411,532,096 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 6 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.714 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.757 Edit this on Wikidata

Gwlad fach fynyddig yn y Dwyrain Canol ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Libanus neu Libanus (Arabeg: الجمهورية اللبنانية). Mae'n ffinio â Syria i'r gogledd a'r dwyrain a gyda Israel i'r de. Mae baner Libanus yn cynnwys delwedd cedrwydden Libanus yn wyrdd yn erbyn cefndir gwyn gyda stribed coch llorweddol ar y brig a'r gwaelod.

Cafodd y wlad ei henw oddi wrth gadwyn Mynydd Libanus, sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de am tua 160 km i'r dwyrain o'r arfordir. Mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewn Aramaeg.

Prif ddinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes Ddiweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd Libanus ei hanibyniaeth 22 Tachwedd 1943, gan gadw ffiniau Libanus Fawr (1920 - 1926), wedi misoedd o brotestio. Ymddangosodd arweinwyr megis Béchara el-Khoury a Riad El Solh, a datblygodd y syniad o gyfamod cenedlaethol ble fyddai'r system wleidyddol yn gweithio'n drawsgymunedol, gyda'r Arlywydd yn dod o'r gymuned fwslemaidd a'r Prif Weinidog o'r gymuned gristnogol er enghraifft.

Cyfeirid at y wlad fel "Swistir y Dwyrain Canol" rhwng y 1950au a'r 1970au, oherwydd presenoldeb nifer o fanciau, wrth i economi Libanus ddatblygu'n gyflym ochr yn ochr ag isadeiladwaith a'r wladwriaeth, yng nghyfnodau Camille Chamoun a Fouad Chéhab yn arlywyddion.

Ar yr un pryd, roedd Libanus hefyd yn wynebu tensiynau cymdeithasol, ynghyd â chanlyniadau creu gwladwriaeth Israel. Mudodd 120,000 o Balesteiniaid i'r wlad o 1948 ymlaen. Tynnwyd Libanus fesul dipyn i'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, yn enwedig wedi diwedd y 1960au gyda Chytundeb Cairo a Mis Medi Du. Ystyrir i'r cytundeb gwthio'r wlad tua'r rhyfel cartref a barodd rhwng 1975 a 1990, gyda chymysgedd o ffactorau gwleidyddol, crefyddol a'r maffia.

Meddianwyd Libanus gan Syria wedi Cytundeb Taëf ym 1989, gan barhau felly nes 2005. Ansefydlog bu hanes cynnar Ail Weriniaeth Libanus, gyda'r gwrthdaro yn 2007 a 2008, ac eto yn 2014-2016 cyn ethol Michel Aoun yn arlywydd. Ochr yn ochr â hynny, mae'r wlad yn parhau i wynebu problemau sylweddol o'i hamgylch, gan gynnwys rhyfel gydag Israel yn 2006 yn ogystal â Gwrthryfel Syria.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Arabeg yw'r brif iaith gyda Ffrangeg yn ail iaith swyddogol. Mae Libanus yn adnabyddus yn y Dwyrain Canol am ei chymdeithas gymysg, ond mae'n wlad a rwygir gan wahaniaethau crefyddol hefyd, gyda tua hanner y boblogaeth yn Gristnogion o sawl enwad a'r hanner arall yn Fwslimiaid.

Ar un adeg cyfeirid at Beirut fel "Paris y Lefant" a nodweddid gan ei bywyd cosmopolitaidd, soffistigedig. Mae'n aros yn un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf y Byd Arabaidd, yn enwedig ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a newyddiaduraeth.

Mae coginio a bwyd Libanus yn enwog hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Lebanon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.