Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd

Oddi ar Wicipedia
Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro arfog, Gwrthdaro ethnig Edit this on Wikidata
Lladdwyd140,500 Edit this on Wikidata
Rhan oIsrael–Palestine relations, Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganintercommunal conflict in Mandatory Palestine Edit this on Wikidata
LleoliadIsrael, Gwladwriaeth Palesteina, Palesteina Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGwrthdaro Israel-Gaza, 1948 Palestine War, Rhyfel Chwe Diwrnod, Rhyfel Yom Kippur, Palestinian insurgency in South Lebanon, Intifada Cyntaf Palesteina, Ail Intifada'r Palesteiniaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd: Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd
Baneri Israel (chwith) a Phalesteina
Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza ac Ucheldiroedd Golan

Anghydfod rhwng Gwladwriaeth Israel a'r Palesteiniaid yw'r gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. Mae'r ddwy genedl yn hawlio yr un tir ac mae'r gwrthdaro'n ffurfio rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, sef gwrthdaro gwleidyddol a milwrol eangach rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae'r gwrthdaro wedi bod yn ffactor ganolog yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol ers creu gwladwriaeth Israel yn 1948 pan orfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina, ffoedigaeth a adnabyddir gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة‎ "Y Drychineb").

Ceisiwyd ateb dwy-wladwriaeth, sy'n golygu creu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol ochr yn ochr ag Israel. Ar hyn o bryd, yn ôl nifer o arolygon barn, cytuna'r mwyafrif helaeth o Israeliaid a Phalesteiniaid taw ateb dwy-wladwriaeth yw'r ffordd orau i ddod â therfyn i'r gwrthdaro.[1][2][3] Ystyrir y Lan Orllewinol a Llain Gaza gan y mwyafrif o Balesteiniaid fel tir ar gyfer gwladwriaeth, barn a gefnogir gan y mwyafrif o Israeliaid.[4] Cefnogir ateb un-wladwriaeth gan ychydig o academyddion; mae'r syniad hwn yn galw ar Israel, Llain Gaza, a'r Lan Orllewinol i ffurfio un wladwriaeth sy'n cynnwys y ddwy genedl gyda hawliau cyfartal i bawb.[5][6] Fodd bynnag, mae anghytundeb sylweddol ynglŷn â ffurf unrhyw gytundeb terfynol a hefyd ynglŷn â'r lefel o hygrededd mae'r naill ochr yn ei weld yn y llall wrth gadw at ymrwymiadau sylfaenol.[3]

Whose People? Wales, Israel, Palestine; Gwasg Prifysgol Cymru 2012

Mae ymatebion eraill i'r sefyllfa yn cynnwys cael gwared ar Wladwriaeth Israel yn gyfan gwbl a chreu gwladwriaeth newydd yn cynnwys tiriogaeth Israel, Llain Gaza a'r Lan Orllewinol yn ei lle; dyma hen safbwynt Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO) a safbwynt presennol Hamas ac eraill. Ar y llaw arall mae rhai Israeliaid sy'n arddel Seioniaeth eithafol yn credu yn y syniad o greu "Israel Fwyaf" a fyddai'n ymestyn o lannau afon Ewffrates i Gwlff Suez, heb le i wladwriaeth Balesteinaidd o gwbl.

Heddwch o'r tu allan[golygu | golygu cod]

Ymglymir nifer o chwaraewyr lleol a rhyngwladol yn y gwrthdaro. Y prif bleidiau sy'n trafod yw llywodraeth Israel, a arweinir gan Benjamin Netanyahu, a'r PLO, a arweinir gan Mahmoud Abbas.

Un o'r protestiadau yn erbyn ymosodiadau Israel ar drigolion Llain Gaza, Ionawr 2008.

Cyflafareddir y trafodaethau swyddogol gan grŵp rhyngwladol o'r enw'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol, a gynrychiolir gan gennad arbennig, sy'n cynnwys yr Unol Daleithiau, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. Chwaraewr pwysig arall yw'r Cynghrair Arabaidd, sydd wedi cynnig cynllun heddwch gwahanol. Yn hanesyddol mae'r Aifft, un o'r aelodau a sefydlodd y Cynghrair Arabaidd, wedi bod yn chwaraewr allweddol a blaenllaw yn y trafodaethau.

Dechreuodd y trafodaethau heddwch diweddaraf yn Annapolis, UDA, ym mis Tachwedd 2007. Amcan y trafodaethau hyn oedd ennill penderfyniad terfynol erbyn diwedd 2008.[7] Cytunodd y pleidiau fod chwe mater craidd, neu "statws terfynol", sydd angen eu hateb:[8][9][10] statws Jerwsalem, ffoaduriaid Palesteinaidd, aneddiadau Israelaidd, diogelwch, ffiniau a dŵr.

Y chwaraewyr mewnol[golygu | golygu cod]

Ers 2006, holltir yr ochr Balesteinaidd gan wrthdaro rhwng y ddwy brif garfan: Fatah, y blaid fwyaf, a Hamas. O ganlyniad, rhennir y diriogaeth a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (llywodraeth dros dro Palesteina) rhwng Fatah yn y Lan Orllewinol a Hamas yn Llain Gaza. Mae hyn yn faen tramgwydd oherwydd ystyrid Hamas yn fudiad terfysgol gan Israel a nifer o wledydd eraill[11][12][13] felly er gwaethaf i'r blaid ennill etholiadau democrataidd yn 2006, ni chaniaeteir iddi fod yn rhan o'r trafodaethau swyddogol.

O fewn cymdeithas Israelaidd a Phalesteinaidd, mae amrywiaeth eang o farn a safbwyntiau ar y gwrthdaro a'r broses heddwch. Mae hyn yn amlygu'r rhaniadau sy'n bodoli nid yn unig rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid, ond hefyd ymhlith ei gilydd.

Un o brif nodweddion y gwrthdaro ers iddo dechrau yw'r lefel o drais, gyda byddinoedd rheolaidd, grwpiau parafilwrol a chelloedd terfysgol i gyd yn ymladd. Nid aelodau'r lluoedd arfog yn unig a leddir; mae colledion enfawr o ran sifiliaid y ddwy ochr.

Niferoedd[golygu | golygu cod]

Dyma'r niferoedd sydd wedi'u lladd neu eu hanafu gan y ddwy ochr; daw'r ffigurau canlynol oddi wrth 'The Office for the Coordination of Humanitarian Affairs for the occupied Palestinian territory' (OCHAoPt).

Niferoedd a laddwyd neu a anafwyd; oddi wrth OCHAoPt[14]
(niferoedd y plant dan 18 sydd yn y cromfachau)
Blwyddyn Marwolaethau Anafiadau
Palesteiniaid Israeliaid Palesteiniaid Israeliaid
2005 216 (52) 48 (6) 1,260 (129) 484 (4)
2006 678 (127) 25 (2) 3,194 (470) 377 (7)
2007 396 (43) 13 (0) 1,843 (265) 322 (3)
2008 887 (347) 34 (6) 2,325 (556) 819 (10)
2009 1,059 (90) 11 (1) 6,401 (2,393) 112 (1)
2010 87 (9) 8 (0) 1,572 (342) 177 (2)
2011 117 (14) 16 (8) 2,143 (442) 120 (2)
2012 259 (45) 7 (0) 4,677 (1,082) 571 (2)
2013 39 (5) 6 (0) 3,992 (1,251) 151 (8)
2014 2,327 (567) 88 (4) 17,533 (4,710) 2,708 (413)
2015 174 (32) 26 (0) 14,639 (2,732) 313 (17)
2016 108 (37) 12 (1) 34,64 (1,048) 210 (13)
2017 77 (14) 17 (0) 8,449 (1,205) 157 (5)
2018 299 (57) 13 (0) 31,259 (6,427) 117 (7)
2019 137 (27) 10 (1) 15,491 (5,557) 123 (8)
2020 30 (9) 3 (0) 2,751 (425) 58 (1)
2021 .. .. .. ..
Cyfanswm 6,890 (2950) 337 (29) 120,993 (28,637) 6,819 (503)

Plant Palesteinaidd[golygu | golygu cod]

Yn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sef Britain-Palestine All Party Parliamentary Group) mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn.[15] Dywed yr Adroddiad mai o flaen llysoedd milwrol caëdig y daw'r plant i'w dedfydu.[16] Mae'r Adroddiad yn nodi fod sytem cwbwl wahanol i blant Israelaidd. Mae plant Palesteinaidd mor ifanc â deuddeg oed yn cael eu herlyn yn y llysoedd milwrol, ond 14 yw lleiafswm oedran plentyn Israelaidd i gael ei erlyn mewn llys sifil. Ni erlynir plant Israelaidd mewn llysoedd milwrol. Nid oes hawl gan blant Palesteiniaidd i'w rhieni (na chyfreithwyr) i fod yn bresennol. Mae'r gwahaniaeth rhwng plant y ddwy genedl hefyd yn aruthrol o ran y cyfnod y gellir eu dal mewn carchar heb fynd o flaen y llys: 40 diwrnod i Israeliad, 188 diwrnod i Balesteiniad.[17]

Dywed yr Adroddiad hwn gan gyfreithwyr o Wledydd Prydain:

...those who have been identified as offenders or suspects are arrested by soldiers, usually in night-time

raids on their homes are blindfolded, and, with their wrists painfully bound behind them, are then transported to interrogation centres, sometimes face-down on the floor of military vehicles. The majority are verbally and / or physically abused and, without being informed of their right to silence or the right to see a lawyer, are sometimes held in solitary confinement, pressured to inculpate themselves and others, and are often made to sign statements which they cannot read because they are written in Hebrew.

Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (Defence for Children International). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddeddfau Rhyngwladol.[18] Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bod yn cael eu poenydio.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Khouri, Rami G. (21 Ebrill, 2008). America through Arab eyes. International Herald Tribune. Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  2. (Saesneg) Hamas won't go away. The Economist (31 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Yr Athrawon Ephraim Yaar a Tamar Hermann (11 Rhagfyr, 2007). Just another forgotten peace summit. Haaretz. Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  4. Dershowitz, Alan. The Case for Peace: How the Arab-Israeli Conflict Can Be Resolved. Hoboken: John Wiley & Sons, Inc., 2005 ISBN 047004585X
  5. (Saesneg) Judt, Tony (23 Hydref, 2003). Israel: The Alternative. The New York Review of Books, Cyfrol 50, Rhifyn 16. Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  6. Tilley, Virginia. The One-State Solution. University of Michigan Press,2005 ISBN 0472115138
  7. (Saesneg) New Mid-East peace drive launched. BBC (28 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  8. (Saesneg) Declaration of Principles on Interim Self-Government Arrangements, Article V, Section 3, Oslo, Medi 13 1993. United States Institute of Peace. Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  9. (Saesneg) Joint Understanding Read by President Bush at Annapolis Conference. Adran Wladwriaethol yr Unol Daleithiau (27 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  10. (Saesneg) Condoleezza Rice's Remarks at the Annapolis Conference. Adran Wladwriaethol yr Unol Daleithiau (27 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  11. (Saesneg) The Financial Sources of the Hamas Terror Organization. Gweinyddiaeth Materion Tramor Israel (30 Gorffennaf, 2003). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.
  12. (Saesneg) Country Reports on Terrorism 2005. Adran Wladwriaethol yr Unol Daleithiau (Ebrill 2006). Adalwyd ar 15 Awst, 2008.PDF
  13. (Saesneg) COUNCIL DECISION of 21 December 2005. Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Adalwyd ar 15 Awst, 2008.PDF
  14. The Humanitarian Monitor, December 2007 Archifwyd 2008-02-16 yn y Peiriant Wayback., tables on pages 5 and 7, all numbers refer to casualties of the direct conflict as defined therein (page 23).
  15. [1] Archifwyd 2013-01-03 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Richard Burdon AS); adalwyd 06/12/2012
  16. [2] Archifwyd 2012-10-14 yn y Peiriant Wayback. Children in Military Custody: Guiding Principles, Mehefin 2012; adalwyd 06/12/2012
  17. [3] Archifwyd 2012-10-14 yn y Peiriant Wayback. Children in Military Custody, Mehefin 2012; tudalen 7; adalwyd 06/12/2012
  18. "Palestinian Prisoners Day 2009: Highest number of children currently in detention since 2000". 18 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-04. Cyrchwyd 2012-12-06. Text "Amddiffyn Plant Rhyngwladol: Adran Palesteina" ignored (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]