Mis Medi Du

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mis Medi Du
Lleoliad {{{lleoliad}}}

Mae Mis Medi Du (Saesneg: Black September; Arabeg: أيلول الأسود) yn cyfeirio at y gwrthdaro a ddechreuodd ar 12 Medi 1970, pan dechreuodd Deyrnas Hashimaidd y Brenin Hussein o Iorddonen o'r Iorddonen gyrchoedd milwrol yn erbyn y Sefydliad Rhyddid Palesteina (PLO), oedd dan arweiniad Yasser Arafat, i adfer awdurdod y frenhiniaeth yn y wlad yn dilyn sawl ymgais Palesteinaidd i ddymchwel Hussein, gyda'r help i ryw raddau o fyddin Syria.[1] Yn dilyn y mis Medi waedlyd, enwyd mudiad terfysgol Palesteinaidd yn Mis Medi Du - Black September - dyma'r mudiad a geisiodd herwgipio ac a laddodd athletwyr Israelaidd yng Ngemau Olympaidd 1972 yn ninas München, Gorllewin yr Almaen. Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at y cyrch wreiddiol yn erbyn y PLO yn 1970.

Yn sgil y trais ar y naill ochr a'r llall, lladdwyd sawl mil o bobl ar y ddwy ochr, yn bennaf sifiliaid Palesteinaidd.

Daeth y gwrthdaro rhwng byddin yr Iorddonen a'r PLO yn rhemp a pharhaodd tan fis Gorffennaf 1971, pan ddiarddelwyd Arafat a'i gefnogwyr o Wlad yr Iorddonen a chael lloches yn Libanus o dan amddiffyniad Syria.

Penodwyd Prif Weinidog Tunisia, Bahi Ladgham, yn gyfryngwr ac yn gymodwr rhwng yr Iorddonen a'r Palestiniaid yn ystod yr argyfwng hwn.

Cyd-destun hanesyddol a chronoleg digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Map yn dangos lleoliadau sylweddol y fedayeen yn yr Iorddonen cyn Medi 1970, a chyrch Syria

Yn y 1960au hwyr, sefydlodd carfan Fatah o'r PLO yn Iorddonen "gwladwriaeth o fewn gwladwriaeth" yng Gwlad Iorddonen: nifer gynyddol o tollbyrth milwrol dan reolaeth milwyr fedayin Palesteinaidd; casgu trethi; a gwrthod Palestiniaid i deithio gyda phlatiau trwydded Jordanian ar eu cerbydau, ac ati. Roedd rhanbarthau o'r Iorddonen lle roedd y Palestiniaid yn gwrthod awdurdod y Brenin Hussein ar gynnydd ac yn cryfhau.

O'r ardaloedd Palesteinaidd hyn, byddai'r PLO yn cipio ac yn ymosod ar weddill Gwlad Iorddonen ac Israel.

Dyma'r adeg pan oedd Yasser Arafat yn galw'n agored am ddymchwel y frenhiniaeth Hasimitiaid, gan ddibynnu ar y ffaith bod 75% o boblogaeth Gwlad Iorddonen yn Balestiniaid i ryw raddau neu'i gilydd. Roedd y Brenin Hussein yn daer am gyfaddawd gyda'r PLO i dawelu'r sefyllfa ond gwrthododd Arafat yr ymdrechion hyn i gyfryngu.

Yn ogystal ag ymdrechiol Arafat i'w danseilio roedd Hussein hefyd yn ceisio cyfaddawdu a heddwch gydag Israel. Datblygwyd "Cynllun Rogers" a addawau ddiwedd ar weithrediadau milwrol Iorddonen yn erbyn y Israel, a heddwch hefyd rhwng yr Aifft ac Israel.

Roedd Fatah a'r Ffrynt Poblogaidd ar gyfer Rhyddhau Palesteina (PFLP) Georges Habache yn ystyried bod Cynllun Rogers hwn yn frad i achos y Palesteiniaid. Ar ddechrau 1970 penderfynodd y Brenin Hussein leihau dylanwad Arafat a'r fedayin (milwyr guerrilla y Palesteiniaid) yn yr Iorddonen. Gyda hyn datblygodd y sefyllfa yn sydyn a pheryglus iawn.

Mis Medi 1970[golygu | golygu cod y dudalen]

Bomio'r tri awyren ym maes awyr "Dawson's Field", Zarca gan yr fedayin o flaen y wasg ryngwladol, 12 Medi 1970

Ar 1 Medi 1970, dihangodd y Brenin Hussein ymgais i'w fomio gan y Palesteinaid. Ar 6 Medi, ceisiodd y PFLP herwgipio pedwar awyren: methodd un ymgais (herwgipio awyren El Al rhwng Amsterdam-Efrog Newydd gan grŵp dan arweiniad Leila Khaled), ond llwyddwyd gyda'r tri awyren arall gan lanio ar gyn-faes awyr 'Dawnson' yr Awyrlu yn Zarca. Gelwir y llawdriniaeth hon yn "Dawson's Field Diversions".

Datganodd Georges Habache: "Y cyfan rydyn ni ei eisiau yw ymladd Israel a dim byd arall. Ond mae trefn yr Iorddonen yn ystyried bod ein hunig bresenoldeb yn y wlad yn berygl iddi (...) I ni, mae'r Brenin Hussein yn arweinydd adweithiol, arweinydd cyflwr adweithiol ac felly'n rhwystr. Ac i lwyddo yn ein chwyldro, rhaid i ni ddileu'r rhwystr hwn." Ar 10 Medi, ymosododd byddin yr Iorddonen ar y gwesty lle'r oedd 125 o fenywod a phlant o'r Gorllewin (Ewrop a Gogledd America) wedi eu carcharu gan y PFLP a'u rhyddhau.

Ar 12 Medi 12 1970, yn Dawson Field, lle cadwyd gwystlon Iddewig ac Israel, ffrwydrodd yr PFLP y tri awyren wag o flaen y wasg ryngwladol.

Dyma'r digwyddiad a gychwynnodd Mis Medi Ddu o ddifri gan fod awdurdod Hussein yn gyfangwbl yn cael ei thanseilio. Ar 16 Medi dyfarnodd reolaeth filwrol ('martial law') dros y wlad.

Ar 17 Medi 1970, ymyrrodd byddin yr Iorddonen yn drwm yn erbyn y fedayin, a dechrwyd gyda'r magnelwyr yr Iorddonen yn bomio gwersylloedd ac adeiladau ffoaduriaid oedd yn gartref i sefydliadau'r Palesteiniaid. Ar ôl 10 diwrnod o saethu, difethwyd a lloriwyd y gwersylloedd a bu'n rhaid i sefydliadau Palestina gymryd lloches yn Libanus a hyd yn oed yn Israel - roedd yn mae gan rai o filwyr Yasser Arafat groesi'r ffin i Israel na chael eu lladd gan filwyr Iorddonen. Ffodd Arafat, wedi ei guddio fel menyw yn cario babi, diolch i gymorth asiant Tunisiaidd Mohamed Akbouchi, a anfonwyd dan orchymyn Bahi Ladgham.

Danfonodd Syria gerbydau arfog i'r ffin i helpu'r Palestiniaid, ond ceisiodd Hussein am gymorth gan yr Unol Daleithiau ac unrhyw un oedd yn barod i atal Syria rhag ymyrryd. Ymatebodd Israel i gais yr Iorddonen am gymorth drwy anfon awyrennau i efelychu ymosodiadau ar danciau Syria. Ildiodd byddin Syria gan throi am adref a roi'r gorau i filwyr Arafat.

Ar 27 Medi 1970, llwyddodd Arlywydd yr Aifft, Nasser, i gymodi rhoddwyd gorau i ymladd rhwng Iorddonen a'r PLO.

Mantolen a chanlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw nifer y dioddefwyr Palesteinaidd y "Mis Medi Ddu" yn hysbys yn union. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio o 3,500 (ffynonellau Iorddonen) i 10,000 marw a mwy na 110,000 wedi'u clwyfo (ffynonellau Palesteinaidd). Dywed Hamit Bozarslan: "(...) amcangyfrifir bod yr ymgyrch torfol yn 3,500 wedi marw, gan gynnwys llawer o sifiliaid, a 10,000 wedi'u hanafu."[2]

Roedd sefydlu màs ymladdwyr Palesteinaidd yn Lebanon, gwlad fregus yn wleidyddol, yn un o ffactorau sbarduno rhyfel cartref Libanus.

Llofruddiodd sefydliad Black September, Prif Weinidog Iorddonen, Wasfi Tall ym mis Tachwedd 1971, a chynhaliodd Gemau Olympaidd Munich yn gwystlon ym 1972.[3]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://books.google.co.uk/books?id=JtrCoUf7wCsC&redir_esc=y
  2. Nodyn:Ouvrage
  3. « Black September », International Encyclopedia of the Social Sciences, 2008, Encyclopedia.com, 2 juin 2011, http://www.encyclopedia.com.