Arabeg
Arabeg | ||
---|---|---|
العربية/عربي/عربى al-ʻarabiyyah/ʻarabī | ||
al-ʿArabiyyah yn Arabeg ysgrifenedig (sgript Naskh) | ||
Ynganiad IPA | /al ʕarabijja/, /ʕarabiː/ | |
Siaredir yn | Gwledydd y Gynghrair Arabaidd, Israel, Iran, Twrci, Eritrea, Mali, Niger, Tsiad, Senegal, De Swdan, Ethiopia, cymunedau Arabeg yn y Byd Gorllewinol | |
Cyfanswm siaradwyr | 295 miliwn (2010)[1] | |
Teulu ieithyddol |
| |
System ysgrifennu | Yr wyddor Arabeg Breil Arabeg Yr wyddor Syrieg (Garshuni) Yr wyddor Hebraeg (Judaeo-Arabeg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Mae Arabeg safonol yn iaith swyddogol mewn 27 gwlad | |
Rheoleiddir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ar | |
ISO 639-2 | ara | |
ISO 639-3 | ara | |
Wylfa Ieithoedd | – | |
Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (العَرَبِيةُ), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g. Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]
Heddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n Arabeg Lenyddol.[3]
Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.
Yr wyddor Arabeg
[golygu | golygu cod]- Prif: Yr wyddor Arabeg
Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.
Cytseiniaid
[golygu | golygu cod]Dyma'r cytseiniaid a ddefnyddir mewn Arabeg safonol, gan ddefnyddio'r Gwyddor Seinegol Ryngwladol
Gwefusol | Deintiol | Llafnol-Deintiol | Ôl-orfannol/ Taflodol |
Felar | Tafodigol | Argegol | Glotol | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
di-bwyslais | pwysleisiol | |||||||||
Trwynol | m | n | ||||||||
Ffrwydrol | Di-lais | t̪ | tˤ | k | q | ʔ | ||||
Lleisiol | b | d̪ | dˤ | d͡ʒ | ||||||
Ffrithiol | Di-lais | f | θ | s̪ | sˤ | ʃ | x ~ χ | ħ | ||
Lleisiol | ð | z̪ | ðˤ | ɣ ~ ʁ | ʕ | ɦ | ||||
Rhotig | r | |||||||||
Dynesol | l | (ɫ) | j | w |
Gramadeg
[golygu | golygu cod]Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.
Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:
- كَتَبْتُ katabtu 'Ysgrifenais'
- كَتَّبْتُ kattabtu 'Gofynais i rywbeth gael ei ysgrifennu'
- كَاتَبْتُ kātabtu 'Bûm yn llythyru'
- أَكْتَبْتُ 'aktabtu 'Copïais'
- اِكْتَتَبْتُ iktatabtu 'Tanysgrifiais'
- تَكَاتَبْنَا takātabnā 'Buon ni'n llythyru â'n gilydd'
- أَكْتُبُ 'aktubu 'Dw i'n ysgrifennu'
- أُكَتِّبُ 'ukattibu 'Dw i'n gofyn i rywbeth gael ei ysgrifennu'
- أُكَاتِبُ 'ukātibu 'Dw i'n llythyru'
- أُكْتِبُ 'uktibu 'Dw i'n copïo'
- أَكْتَتِبُ 'aktatibu 'Dw i'n tanysgrifio'
- نَتَكَتِبُ natakātabu 'Dan ni'n llythyru â'n gilydd'
- كُتِبَ kutiba 'Ysgrifennwyd'
- أُكْتِبَ 'uktiba 'Copïwyd'
- مَكْتُوبٌ maktūbun 'Ysgrifenedig'
- مُكْتَبٌ muktabun 'Copïedig'
- كِتَابٌ kitābun 'llyfr'
- كُتُبٌ kutubun 'llyfrau'
- كَاتِبٌ kātibun 'awdur'
- كُتَّابٌ kuttābun 'awduron'
- مَكْتَبٌ maktabun 'desg, swyddfa'
- مَكْتَبَةٌ maktabatun 'llyfrgell, siop lyfrau'
- ac ati.
Ieithoedd neu Dafodieithoedd
[golygu | golygu cod]Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.
Grwpiau Tafodieithol
[golygu | golygu cod]- Arabeg yr Aifft (oddeutu 55 miliwn o siaradwyr)
- Arabeg y Lefant (tua 21 miliwn o siaradwyr) yn Libanus, Syria, Gwlad Iorddonen, Palesteina, Cyprus, a Thwrci.
- Arabeg y Maghreb, neu "Darija" (oddeutu 70 miliwn o siaradwyr) ym Moroco, Algeria, Tiwnisia, a Libia. Mae perthynas agos gyda'r iaith Falteg hefyd.
- Arabeg Irac (oddeutu 32 miliwn o siaradwyr yn Irac, gyda rhagor yn nwyrain Syria a de-orllewin Iran).
- Arabeg Khūzestān yn Iran
- Arabeg Khorosan yn Iran
- Arabeg Swdan (tua 17 miliwn o siaradwyr yn Swdan a de'r Aifft)
- Arabeg Juba yn Ne Swdan ac yn rhannau deheuol Swdan
- Arabeg y Gwlff (oddeutu 4 miliwn o siaradwyr), yn Coweit, Bahrain, rhannau o Oman, arfordir dwyreiniol Sawdi Arabia a rhannau o'r Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar, yn ogystal â Bushehr a Hormozgan yn Iran.
- Arabeg Oman, a siaradir yng nghanolbarth y wlad.
- Arabeg Hadhramaut (oddeutu 8 miliwn o siaradwyr) yn Hadhramaut ac ar wasgar.
- Arabeg Iemen (oddeutu 15 miliwn o siaradwyr yn Iemen a de Sawdi Arabia). Mae'n debyg i Arabeg y Gwlff.
- Arabeb Najd neu Bedawi (10 miliwn o siaradwyr). Yn ogystal â'r siaradwyr yn Sawdi Arabia, dyma iaith mwyafrif dinasyddion Qatar
- Arabeg Hijaz (6 miliwn o siaradwyr), gorllewin Sawdi Arabia
- Arabeg y Sahara, a siaradir yn rhannau o Algeria, Niger a Mali
- Arabeg Baharna (600,000 o siaradwyr), ymysg y Shïa yn Bahrain a Qatif, a rhywfaint yn Oman. Mae'n wahanol i Arabeg y Gwlff mewn sawl ffordd.
- Iddew-Arabeg, neu Qәltu. Wrth i Iddewon mudo i Israel, lleihaodd defnydd Iddew-Arabeg rhannau eraill o'r byd Arabeg ei iaith, ac mae bellach dan fygythiad.
- Arabeg Tsiad (hefyd yn rhannau o Swdan, De Swdan, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Niger, Nigeria a Camerŵn)
- Arabeg Canolbarth Asia, dan fygythiad yn Wsbecistan, Tajicistan ac Affganistan.
Ymadroddion Cyffredin
[golygu | golygu cod]Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.
- عربية : Arabiyya : Arabeg
- ويلزي : wailzi : Cymraeg
- لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru
- إنكليزي : 'inglizi : Saesneg
- ! مرحبا : marHaban! : Helo!
- ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".)
- ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!
- ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch!
- كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae?
- ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!
- ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!
- ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!
- ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!
- ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da!
- ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da!
- ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi!
- ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!
- ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.
- ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!
- ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!
- ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!
- ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch
- ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i!
- نعم : nAm : ïe / do / oes, etc.
- ﻻ : la' : nage / naddo / nag oes, etc.
- ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!
- ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!
- ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nationalencyklopedin: "Världens 100 största språk 2010" - 100 o'r Ieithoedd Mwyaf y Byd yn 2010
- ↑ "World Arabic Language Day". UNESCO. 18 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.
- ↑ "Arabic language." Encyclopædia Britannica. 2009. Encyclopædia Britannica Online. Adalwyd 29 Gorffennaf 2009.