Malteg

Oddi ar Wicipedia
Malteg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathSicilian Arabic, Ieithoedd De Ewrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysŻejtun dialect, Qormi dialect, Maltralian Edit this on Wikidata
RhagflaenyddSiculo-Arabic Edit this on Wikidata
Enw brodorolMalti Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 482,880 (2012),[1]
  •  
  • 403,000 (2012 – Malta)[1]
  • cod ISO 639-1mt Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2mlt Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3mlt Edit this on Wikidata
    GwladwriaethMalta, Canada, Unol Daleithiau America, Awstralia, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioNational Council for the Maltese Language Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Wikipedia
    Wikipedia
    Argraffiad Malteg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

    Malteg yw iaith genedlaethol Malta ac yn un o ddwy iaith swyddogol yr ynys (Saesneg yw'r llall). Mae'n un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddi ryw 371,900 o siaradwyr. Malteg yw'r unig iaith Semitaidd sy'n cael ei hysgrifennu o'r chwith i'r dde ac sy'n defnyddio'r wyddor Rufeinig. Mae tua 60% o eirfa'r iaith yn Semitaidd, gyda'r gweddill at ei gilydd yn dod o ieithoedd Romawns ac Eidaleg Sicilia yn bennaf. Daw'r rhan fwyaf o'r eirfa "sylfaenol" o wreiddiau Semitaidd, ac mae'r geiriau sy'n ymwneud â llywodraeth a dysg yn dod o Eidaleg Sicilia e.e. dar yw "tŷ", ond skola yw "ysgol". Mae wedi benthyg nifer o eiriau o'r Saesneg sy'n ymwneud â byd gwaith e.e. strajk ("streic"), union, leave a bonus.

    Mae llawer yn ystyried Malteg fel tafodiaith o Arabeg ond mae Malteg yn agos iawn i Aramaeg. Mae hi'n debyg mai Malteg yw'r iaith fodern agosaf i'r iaith roedd Iesu Grist yn ei siarad.

    Y ddogfen hynaf mewn Malteg yw "Il Cantilena", cerdd o'r 15g a luniwyd gan Pietro Caxaro. Am ganrifoedd, iaith lafar yn unig oedd Malteg, gydag Arabeg yn gwasanaethu fel iaith lenyddol, ac yn ddiweddarach, Eidaleg. Eidaleg oedd yr iaith swyddogol ar yr ynys tan 1936 pan ddaeth Malteg a Saesneg yn swyddogol.

    Ymadroddion cyffredin[golygu | golygu cod]

    • Bonġu! : Bore/P'nawn da! (cynaniad; bonjw)
    • Bonswa! : Noswaith dda!
    • Il-lejl it-tajjeb! : Nos da! (cynaniad; il-leil it-taieb)
    • Saħħa! : Da boch chi!
    • Ċaw! : Hwyl (fawr)! (cynaniad; shâw)
    • Skużi! : Esgusodwch fi!
    • Skużani! : Mae'n flin gen i!
    • Jekk jogħġbok! : Os gwelwch chi'n dda! (cynaniad; iec iôjboc)
    • Grazzi (ħafna)! : Diolch (yn fawr)! (cynaniad; gratsi haffna)
    • Iva : ie/oes/do etc.
    • Le : na

    Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

    1. 1.0 1.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/