Aramaeg
Gwedd
| Enghraifft o: | genetic unit, iaith |
|---|---|
| Math | Northwest Semitic |
| Rhagflaenwyd gan | Old Aramaic |
| Olynwyd gan | Chaldean Neo-Aramaic |
| Enw brodorol | ܠܫܢܐ ܐܪܡܝܐ |
| Nifer y siaradwyr | |
| System ysgrifennu | Aramaic alphabet |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0ycv |
| Thesawrws y BNCF | 21 |
| Quora | Aramaic-1 |

Mae Aramaeg yn iaith Semitaidd sy'n perthyn i gangen orllewinol y grŵp hwnnw o ieithoedd.
Roedd gan yr iaith Aramaeg wyddor 22 llythyren, neu gymeriad, a osododd y cynseiliau ar gyfer gwyddorau'r Hebraeg ac Arabeg.
Daeth Aramaeg i gael ei defnyddio ar raddfa eang yng nghyfnod olaf yr Ymerodraeth Fabilonaidd. Erbyn amser yr ymerodr Darius I Aramaeg oedd iaith swyddogol yr Ymerodraeth Bersiaidd ac yn lingua franca y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol, o orllewin Persia i Alecsandria yn yr Aifft.
Yn ystod y cyfnod rhwng yr Alltudiaeth yn Babilon (tua 605 CC) hyd at ddechrau'r cyfnod Islamaidd, cymerodd Aramaeg le'r Hebraeg fel iaith lafar yr Iddewon. Aramaeg felly oedd iaith Iesu o Nasareth a'i ddisgyblion.