Alexandria
Math | dinas â phorthladd, bwrdeistref, dinas fawr, polis, dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alecsander Fawr |
Poblogaeth | 4,870,000 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | Egypt Standard Time, Daylight saving time in Egypt |
Gefeilldref/i | Bratislava, Casablanca, Constanța, Durban, Kazanlak, Kanpur, Yevlakh, Gyumri, Odesa, Shanghai, St Petersburg, Thessaloníci, Jeddah, Kuching, Le Mans, Bwrdeistref Limassol, Cleveland, Bengasi, Baltimore, Maryland, Paphos |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Yr Aifft Isel |
Sir | Alexandria Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 2,523 km² |
Uwch y môr | −1 metr |
Cyfesurynnau | 31.1975°N 29.8925°E |
Cod post | 21500 |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
- Mae hyn yn erthygl am y ddinas adnabyddus yn yr Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw Alexandria, gweler Alexandria (gwahaniaethu).
Alexandria (hefyd Alecsandria weithiau yn Gymraeg) (Groeg: Aλεξάνδρεια, Copteg: Ⲣⲁⲕⲟⲧⲉ Rakotə, Arabeg: الإسكندريه Al-Iskandariya, Arabeg yr Aifft: اسكندريه Eskendereyya), (poblogaeth o tua 3.5 i 5 miliwn), yw dinas fwyaf ond un yr Aifft, a'i phorthladd mwyaf.
Ymestyn Alexandria am tua 20 milltir (32 km) ar hyd arfordir Môr y Canoldir yng nghanolbarth gogledd yr Aifft. Mae'n gartref i'r Bibliotheca Alexandrina, Llyfrgell Newydd Alexandria, ac mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig oherwydd y pibellau olew a nwy naturiol sy'n cyrraedd yno o Suez.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Henfyd, roedd Alexandria yn un o'r dinasoedd enwocaf yn y byd am ei dysg a'i hadeiladau ysblennydd. Cafodd ei sefydlu yn 331 CC gan Alecsander Fawr, a bu'n brifddinas yr Aifft am bron i fil o flynyddoedd ar ôl hynny, nes i'r Arabiaid oresgyn yr Aifft yn 641 OC a sefydlu prifddinas newydd yn Fustat (sydd heddiw'n rhan o Gairo). Roedd Alexandria yn enwog am Oleudy Alecsandria (un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd), Llyfrgell Alexandria (llyfrgell fwyaf yr Henfyd) a Catacombs Kom el Shoqafa. Mae gwaith archaeolegol parhaol yn harbwr Alexandria (a ddechreuwyd yn 1994) yn datgelu gwybodaeth am Alexandria cyn cyfnod Alecsander Fawr, pan oedd dinas Rhakotis ar y safle, ac yng nghyfnod brenhinllin y Ptolemïaid ar ôl hynny.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Alexandria
- Mosg Abu El Abbas Masjid
- Palas yr Arlywydd
- Palas Montaza
- Palas Ras el-Tin
- Pont Stanley
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Konstantinos Tsaldaris (1884-1970), gwleidydd
- Issy Smith (1890-1940), milwr
- Youssef Chahine (1926-2008), cyfarwyddwr ffilm
- Omar Sharif (g. 1932), actor