Baltimore, Maryland
| |
Math |
dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas annibynnol, dinas fawr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Cecil Calvert, 2nd Baron Baltimore ![]() |
| |
Poblogaeth |
622,104 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Bernard C. Young ![]() |
Cylchfa amser |
Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/New_York ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Baltimore metropolitan area ![]() |
Sir |
Maryland ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
238.411179 km² ![]() |
Uwch y môr |
10 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Patapsco, Jones Falls ![]() |
Yn ffinio gyda |
Baltimore County, Anne Arundel County, Catonsville ![]() |
Cyfesurynnau |
39.2864°N 76.615°W ![]() |
Cod post |
21201–21231, 21233–21237, 21239–21241, 21244, 21250–21252, 21263–21265, 21268, 21270, 21273–21275, 21278–21290, 21297–21298 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Dinas Baltimore ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Bernard C. Young ![]() |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America, yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.
Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cofeb Washington
- Neuadd Dinas
- Tŵr Emerson Bromo-Seltzer
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Babe Ruth (1895–1948), chwaraewr pêl fas
- Larry Adler (1914–2001), cerddor
- Frank Zappa (1940–1993), cerddor
- Tom Clancy (1947–2013), nofelydd
- Pam Shriver (g. 1962), chwaraewr tenis
Gefeillddinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr Aifft - Alexandria (1995)
Israel - Ashkelon (2005)
Yr Almaen - Bremerhaven (2007)
Liberia - Gbarnga (1973)
Yr Eidal - Genova (1985)
Japan - Kawasaki (1978)
Yr Aifft - Luxor (1982)
Wcráin - Odessa (1974)
Gwlad Groeg - Piraeus (1982)
Yr Iseldiroedd - Rotterdam (1985)
Tsieina - Xiamen, Gweriniaeth Pobl Tsieina (1985)
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas