George Washington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
George Washington
George Washington


Cyfnod yn y swydd
30 Ebrill 1789 – 2 Mawrth 1797
Is-Arlywydd(ion)   John Adams
Rhagflaenydd Dim
Olynydd John Adams

Geni 22 Chwefror 1732
Swydd Westmoreland, Virginia
Marw 14 Rhagfyr 1799(1799-12-14) (67 oed)
Mynydd Vernon, Virginia
Plaid wleidyddol Ffederalwr
Priod Martha Washington
Llofnod George Washington Signature.png

George Washington (22 Chwefror 173214 Rhagfyr 1799) oedd arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America; fe'i ganwyd yn Swydd Westmoreland, Virginia. Arweiniodd Byddin Cyfandirol America i fuddugoliaeth yn erbyn Prydain yn Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783). Gelwir Washington weithiau "Tad ei Wlad" am iddo chwarae rhan mor ganolog yn sefydlu'r Unol Daleithiau.

Ei fywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ddyn ifanc, gweithiai Washington fel tirfesurydd cefn gwlad gan ennill dealltwriaeth a fyddai'n bwysig iawn yn ddiweddarach o ddaearyddiaeth ei dalaith enedigol.

Cafodd ei brofiad cyntaf fel arweinydd milwrol yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a'r brodorion Americanaidd (17541763). Oherwydd ei brofiad a'i wybodaeth o dir Virginia, fe'i etholwyd yn arweinydd pennaf y lluoedd Americanaidd yn 1775 gan yr Ail Gyngres Gyfandirol ar ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America. Cliriodd y Prydeinwyr allan o Boston yn 1776 ond bu bron iddo gael ei ddal ar ôl colli Efrog Newydd gyda cholledion trymion yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Gwnaeth i fyny am hynny trwy groesi Afon Delaware yn y gaeaf a threchu unedau Prydeinig yn New Jersey. Aeth yn ei flaen i drechu a dal y ddwy brif fyddin Brydeinig yn Saratoga (1777) ac wedyn yn Yorktown (1781).

Roedd yn trafod y berthynas rhwng y taleithiau a'u milisias, yn gweithio gyda Congress i gynnal y fyddin Gyfandirol, yn trafod â'r cynghreiriaid Ffrengig ac yn delio â dadlau rhwng staff y fyddin, a daeth i gynrychioli yn ei berson nerth milwrol a gwleidyddol y genedl newydd.

Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn 1783 ymddeolodd Washington i'w ystâd yn Mount Vernon. Ymyrodd yn bersonol i lywio'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a ddrafftiodd fersiwn cryfach o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1787.

Ar 30 Ebrill 1789, daeth Washington yn Arlywydd yr Unol Daleithiau newydd a chreodd system o lywodraethu trwy gabinet a dorodd â'r traddodiad seneddol. Bu ganddo ran flaenllaw mewn creu arferion a rheolau y llywodraeth newydd a detholwyd ei harweinwyr cyntaf i gyd ganddo yn bersonol. Cefnogai gynlluniau Alexander Hamilton i greu llywodraeth ganolog rymus trwy ariannu'r holl ddyledion cenedlaethol a thaleithiol, creu system treth canolog a sefydlu banc cenedlaethol. Nid oedd pawb o blaid y canoli grym hynny a phan wrthryfelodd Pennsylvania yn y Chwyldro Chwisgi bu rhaid i Washington arwain byddin i'w thawelu. Arwyddodd Gytundeb Jay yn 1795 i osgoi rhyfel bellach â Phrydain, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig pleidwyr Thomas Jefferson. Cefnogai'r Blaid Ffederal (rhagflaenydd y Blaid Weriniaethol) er nad oedd yn aelod ohoni. Sefydlodd yr arfer nad oedd arlywydd i wasanaethu am fwy na ddau dymor ac ymddeolodd unwaith yn rhagor i'w ystâd yn Virginia yn 1797, lle bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1799.

Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "Nid oes yr un genedl yn ddigon da i lywodraethu cenedl arall".