Franklin D. Roosevelt
Franklin D. Roosevelt | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1933 – 12 Ebrill 1945 | |
Is-Arlywydd(ion) | John N. Garner (1933–1941) Henry A. Wallace (1941–1945) Harry S. Truman (1945) |
---|---|
Rhagflaenydd | Herbert Hoover |
Olynydd | Harry S. Truman |
Cyfnod yn y swydd 1 Ionawr 1929 – 31 Rhagfyr 1932 | |
Rhagflaenydd | Alfred E. Smith |
Olynydd | Herbert H. Lehman |
Geni | 30 Ionawr 1882 Hyde Park, Efrog Newydd |
Marw | 12 Ebrill 1945 (63 oed) Warm Springs, Georgia |
Plaid wleidyddol | Democratwr |
Priod | Eleanor Roosevelt |
Crefydd | Esgobaidd |
Llofnod | ![]() |
32ain Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd Franklin Delano Roosevelt neu FDR (30 Ionawr 1882 – 12 Ebrill 1945). Etholwyd i bedair tymor yn y swydd, rhwng 1933 a 1945: ef yw'r unig arlywydd i weinyddu mwy na dau dymor. Roedd yn berson canolog yn yr 20g yn ystod adeg o argyfwng economaidd byd-eang a Rhyfel Byd. Er iddo fod yn gyfrifol am arwain yr Undol Daleithiau yn ystod y Rhyfel, bu farw cyn i'r Rhyfel orffen a methodd a weld gwaddol ei fuddugoliaeth yng Nghynhadledd Potsdam a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 1945, na chwaith buddugoliaeth terfynol y Cynghreiriaid dros luoedd Siapan.
Salwch Parlys[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn mis Awst 1921, tra roedd y teulu Roosevelt ar wyliau yn Campobello Island, New Brunswick, cafodd Roosevelt salwch. Credwyd ar y pryd mai polio oedd hi, ac arweiniodd at barlysu Roosevelt yn barhaol o'r wast i lawr. Am weddill ei fywyd, gwrthododd Roosevelt gredu fod yn barlys yn barhaol ac arbrofodd gyda amrywiaeth eang o therapïau gan gynnwys therapi dŵr, ac, ym 1926, prynodd gyrchfan yn Warm Springs, Georgia, lle sefydlodd ganolfan therapi dŵr ar gyfer cleifion polio, ac mae'n gweithredu dan yr enw Roosevelt Warm Springs Institute for Rehabilitation hyd heddiw. Ar ôl dod yn arlywydd, helpodd i sefydlu'r National Foundation for Infantile Paralysis (adnabyddir dan yr enw March of Dimes erbyn hyn). Ei arweiniad wrth sefydlu'r gymdeithas hon yw'r rheswm y ceir ei lun ar y darn pres, y dime.
Ar y pryd, roedd llai o archwilio ar fywydau preifat unigolion cyhoeddus nag y sydd heddiw, ac roedd Roosevelt yn gallu argyhoeddi i'r cyhoedd ei fod yn gwella. Credodd Roosevelt fod hyn yn angenrheidiol os oedd am sefyll mewn etholiad. Gan ffitio bresys haearn i'w goesau a'i gluniau, dysgodd ei hun sut i gerdded pellter byr, gan droi ei dorso tra'n cynnal ei hun gyda ffon. Defnyddiodd gadair olwyn yn breifat, ond roedd yn ofalus i beidio byth a gael ei weld ynddi yn gyhoeddus, ymddangosodd yn sefyll gan amlaf, ond wedi ei gynnal ar un ochr gan gynorthwywr neu un o'i feibion.
Yn 2003, canfu astudiaeth adolygiad-cyfoedion ei fod yn fwy tebygol mai Syndrom Guillain-Barré oedd salwch parlys Roosevelt ac nid poliomyelitis.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ What was the cause of Franklin Delano Roosevelt's paralytic illness? Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback. Goldman, AS et al, J Med Biogr. 11: 232–240 (2003)