Dwight D. Eisenhower
Arlywydd Dwight David Eisenhower | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1953 – 20 Ionawr 1961 | |
Is-Arlywydd(ion) | Richard Nixon |
---|---|
Rhagflaenydd | Harry S. Truman |
Olynydd | John F. Kennedy |
Geni | 14 Hydref 1890 Denison, Texas UDA |
Marw | 28 Mawrth 1969 Washington, D.C. UDA |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethwr |
Priod | Mamie Eisenhower |
Llofnod | ![]() |
34ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1953 i 1961, oedd Dwight David "Ike" Eisenhower (14 Hydref 1890 – 28 Mawrth 1969).
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Eisenhower oedd Pencadlywydd Byddin Alldeithiol y Cynghreiriaid yn Ewrop, a oruchwyliodd glaniadau Normandi a'r symudiad tuag at yr Almaen o Ffrynt y Gorllewin. Wedi'r rhyfel, gwasanaethodd Eisenhower fel Pennaeth Staff dan yr Arlywydd Harry S. Truman a Llywydd Prifysgol Columbia. Ym 1951 daeth yn Bencadlywydd cyntaf NATO.[1]
Enillodd Eisenhower etholiad arlywyddol 1952 fel Gweriniaethwr. Fel Arlywydd dilynodd bolisïau cyfyngiant ac ataliaeth niwclear i atal ymlediad comiwnyddiaeth yn ystod y Rhyfel Oer. Daeth â therfyn i Ryfel Corea a gorchmynnodd newid llywodraeth yn Iran a Gwatemala. Ceisiodd atal effaith y dominos, er enghraifft trwy ymrwymo'r Unol Daleithiau i amddiffyn Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) yn erbyn Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Yn ystod ei arlywyddiaeth bu rhywfaint o dwf economaidd yn yr Unol Daleithiau.[2] Sefydlodd y System Priffyrdd Rhyngdaleithiol[3] a dadwahanodd y lluoedd arfog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Former SACEURs". Aco.nato.int.
- ↑ Harold G., Vatter, The U.S. Economy in the, 1950s (1963)
- ↑ Mark H. Rose, Interstate: Express Highway Politics 1939-1989 (1990)
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Bywgraffiad swyddogol
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Harry S. Truman |
Arlywydd Unol Daleithiau America 20 Ionawr 1953 – 20 Ionawr 1961 |
Olynydd: John F. Kennedy |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Thomas Dewey |
Ymgeisydd Arlywyddol y Blaid Weriniaethol 1962 (ennill); 1956 (ennill) |
Olynydd: Richard Nixon |