Theodore Roosevelt

Oddi ar Wicipedia
Theodore Roosevelt
LlaisTheodore Roosevelt "The liberty of the people" speech.ogg Edit this on Wikidata
GanwydTheodore Roosevelt Jr. Edit this on Wikidata
27 Hydref 1858 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Manhattan Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 1919 Edit this on Wikidata
Sagamore Hill Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd, Oyster Bay, Washington, Sagamore Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, hanesydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, gwleidydd, hunangofiannydd, ranshwr, naturiaethydd, gwladweinydd, cadwriaethydd, adaregydd, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Governor of New York, Assistant Secretary of the Navy, Governor-General of the Philippines, member of the New York State Assembly Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAfrican game trails : an account of the African wanderings of an American hunter-naturalist, Hunting trips of a ranchman, sketches of sport on the northern cattle plains;, The wilderness hunter; an account of the big game of the United States and its chase with horse, hound, and rifle; Edit this on Wikidata
Taldra179 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol, Progressive Party Edit this on Wikidata
TadTheodore Roosevelt Sr. Edit this on Wikidata
MamMartha Bulloch Roosevelt Edit this on Wikidata
PriodAlice Hathaway Lee Roosevelt, Edith Roosevelt Edit this on Wikidata
PlantAlice Lee Roosevelt, Theodore Roosevelt Jr., Kermit Roosevelt, Ethel Roosevelt Derby, Archibald Roosevelt, Quentin Roosevelt Edit this on Wikidata
LlinachRoosevelt family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Medal anrhydedd, Medal Canmlwyddiant David Livingstone, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Honorary doctorate from the University of Cairo Edit this on Wikidata
llofnod

Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 14 Medi 1901 a 3 Mawrth 1909 oedd Theodore Roosevelt, Jr. (27 Hydref 18586 Ionawr 1919), neu T.R. neu Teddy.

Mae'r tegan meddal ar ffurf arth, y tedi bêr, yn tarddu o enw Theodore Roosevelt ym 1902.[1]

Teulu a bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Theodore Roosevelt Jr. ar 27 Hydref 1858 yn nhŷ rhif 28, East 20th Street, Dinas Efrog Newydd, yn fab i Theodore Roosevelt Sr. a Martha (Bulloch).[2] Disgynnai'r teulu Roosevelt o Klaes Martenszen van Rosenvelt, a ymfudodd i Amsterdam Newydd ym 1649.[3] Yr unig berthynas ar ochr ei dad nad oedd o dras Iseldiraidd oedd ei nain, a oedd yn Grynwraig o linach Gymreig, Seisnig, Gwyddelig, Sgot-Wyddelig, ac Almaenig. Ar ochr ei fam, disgynnai o fewnfudwyr Albanaidd a Hiwgenotiaid.[4]

Teulu cefnog a gwaraidd oedd y Roosevelts, ac ymdrechodd Theodore yr hynaf a Martha i ddarparu addysg dda a phrofiadau diwylliedig i siapio meddwl a chymeriad eu plant. Ym 1869–70, aethant ar "Daith Fawr" i Ewrop, gan ymweld â Phrydain, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, ac Awstria. Yn Rhufain, cyfarfu Theodore â'r Pab Pïws IX.[5] Derbyniodd Theodore wersi gan diwtor preifat yn yr ieithoedd Ffrangeg, Almaeneg, a Lladin.[6] Er yr oedd yn ddisgybl deallus, bachgen gwan oedd Theodore, ac ar anogaeth ei dad fe gychwynnodd ar raglen o addysg gorfforol er mwyn cryfhau ei gorff a gwella ei iechyd. Siapiodd ei gyhyrau gyda phwysau yn Wood's Gymnasium, ac yn 13 oed dechreuodd hyfforddi paffio.[7][8] Yn Hydref 1872, dychwelodd y teulu i Ewrop, a theithiant hefyd i'r Aifft, Palesteina, Syria, Twrci, a Gwlad Groeg.[8] Treuliant ddeufis yng ngaeaf 1872–73 yn hwylio ar hyd Afon Nîl ar gwch dahabeah.[9] Penderfynodd y rhieni adael Theodore, ei frawd Elliott, a'i chwaer Corrinne yn Dresden am bum mis ym 1873 er mwyn astudio'r Almaeneg a'r Ffrangeg yn drylwyr, cyn iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau.[10]

Cafodd ei diwtora ar gyfer arholiadau mynediad Prifysgol Harvard gan Arthur Cutler, a'i dderbyn i Harvard ym 1876. Yn y cyfnod hwn, symudodd y teulu i gartref newydd yn rhif 6 West 57th Street, gyda campfa ar y llawr uchaf ac amgueddfa yn y nenlofft er difyrrwch Theodore.[11] Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, bu Theodore yn ymwneud â nifer fawr o weithgareddau a diddordebau: cadwodd anifeiliaid yn ei ystafell a bu'n arfer dyrannu a thacsidermi; mynychodd sesiynau darllen barddoniaeth, gwersi dawnsio, perfformiadau prynhawn, partïon theatr a dawnsfeydd; parhaodd i baffio, ymgodymu, corfflunio, a hela yn ei amser rhydd; a gwirfoddolodd i fod yn athro ysgol Sul.[12] Ymaelododd â nifer o gymdeithasau, gan gynnwys yr Hasty Pudding Club, un o brif gymdeithasau myfyrwyr Harvard; y clwb chwist; Cymdeithas Byd Natur Harvard; Clwb Adaregol Nuttall; y Clwb Arianneg; a'r Institute of 1770, cymdeithas siarad a oedd yn gysylltiedig â'r Hasty Pudding.[13] Yn ei flwyddyn olaf, yn nhymor yr hydref 1878, cafodd ei dderbyn i'r Porcellian Club; wedi iddo or-yfed alcohol yn ystod ei ynydu, addawodd Roosevelt na fyddai byth eto yn meddwi, ac mae'n debyg iddo gadw'r adduned honno am weddill ei oes.[14]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Hunter" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-14. Cyrchwyd 8 Ionawr 2019.
  2. Edmund Morris, The Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 3.
  3. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 6–7.
  4. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 7.
  5. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 21–23.
  6. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 34.
  7. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 32.
  8. 8.0 8.1 Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 35.
  9. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 38.
  10. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 43–44.
  11. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 48.
  12. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 62
  13. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 86.
  14. Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 77–79.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Morris, Edmund. The Rise of Theodore Roosevelt (1979).
  • Morris, Edmund. Colonel Roosevelt (2001).
  • Morris, Edmund. Theodore Rex (2010).
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.