John F. Kennedy

Oddi ar Wicipedia
John F. Kennedy
GanwydJohn Fitzgerald Kennedy Edit this on Wikidata
29 Mai 1917 Edit this on Wikidata
Brookline, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Parkland Memorial Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, gwladweinydd, ysgrifennwr, swyddog yn y llynges, anti-communist Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWe choose to go to the Moon, Ich bin ein Berliner, Profiles in Courage Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJoseph P. Kennedy Edit this on Wikidata
MamRose Kennedy Edit this on Wikidata
PriodJacqueline Kennedy Onassis Edit this on Wikidata
PartnerMarilyn Monroe, Inga Arvad, Gene Tierney, Gunilla von Post, Judith Exner, Mary Pinchot Meyer, Marlene Dietrich, Mimi Alford, Pamela Turnure, Florence Pritchett, Kay Stammers, Angie Dickinson, Jeanne Carmen, Frances Ann Cannon Edit this on Wikidata
PlantJohn F. Kennedy Jr., Patrick Bouvier Kennedy, Arabella Kennedy, Caroline Kennedy Edit this on Wikidata
LlinachKennedy family Edit this on Wikidata
Gwobr/auNavy and Marine Corps Medal, Calon Borffor, American Defense Service Medal, Medal Ymgyrch America, Asiatic-Pacific Campaign Medal, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Gwobr Pacem in Terris, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Grand Officer of the Order of the Star of Italian Solidarity, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Medal Laetare, Time Person of the Year, Jane Addams Children's Book Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.whitehouse.gov/about-the-white-house/presidents/john-f-kennedy/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd John Fitzgerald Kennedy, a adnabuwyd hefyd fel Jack Kennedy neu JFK (29 Mai 191722 Tachwedd 1963) ei ethol yn 35ain Arlywydd Unol Daleithiau America yn Nhachwedd 1960. Gwasanaethodd fel Arlywydd o hynny hyd ei farwolaeth sydyn yn Nhachwedd 1963. Ei obaith oedd cael gwared â thlodi ac anghydraddoldeb. Cynigiodd system uchelgeisiol o yswiriant iechyd y wladwriaeth, Mesur Cymorth Meddygol i'r Henoed a Mesur Hawliau Sifil, ond methodd gael digon o gefnogaeth yn y Gyngres. Ef, yn anad neb arall, a sefydlodd raglen ofod Apollo yn ogystal â chodi Mur Berlin, ac yn ystod ei yrfa, gwelwyd llawer o brotestiadau dros hawliau sifil. Yn gynnar yn ei arlywyddiaeth sefydlodd y Corfflu Heddwch.[1]

Ganwyd ef i deulu cyfoethog gyda chryn ddylanwad gwleidyddol yn Brookline, Massachusetts. Graddiodd o Brifysgol Harvard yn 1940 ac ymuno â Morwyr Wrth Gefn Llu Morwrol UDA y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog yn llynges yr Unol Daleithiau yn y Cefnfor Tawel, yn rheoli cyfres o gychod PT, ac enillodd Fedal y Corfflu Llyngesol a Morwrol am ei wasanaeth. Wedi cyfnod byr yn y byd newyddiaduraeth, bu Kennedy yn cynrychioli ardal ddosbarth gweithiol o ddinas Boston yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr rhwng 1947 a 1953. Cafodd ei ethol yn ddiweddarach i Senedd UDA a bu’n gwasanaethu fel is-Seneddwr Massachusetts rhwng 1953 a 1960. Tra'r oedd yn y Senedd, cyhoeddodd Kennedy ei lyfr, ‘Profiles in Courage’ a enillodd Wobr Pulitzer iddo.[2] Roedd cyfnod Kennedy fel arlywydd yn gyfnod llawn tensiynau, gyda thensiwn rhwng UDA a gwladwriaethau comiwnyddol adeg y Rhyfel Oer. O ganlyniad, cynyddodd Kennedy nifer y cynghorwyr milwrol oedd gan America yn Ne Fietnam. Yn Ebrill 1961, awdurdododd ymdrech i ddymchwel y llywodraeth yn Ciwba ar y pryd, sef llywodraeth Fidel Castro, yng ngoresgyniad Bae’r Moch. Yn ogystal, awdurdododd Kennedy y Prosiect Ciwbaidd yn Nhachwedd 1961 gyda’r bwriad o oresgyn Ciwba yn ystod haf 1962. Yn Hydref 1962, darganfu awyrennau ysbïo UDA bod canolfannau taflegrau Sofietaidd wedi cael eu hadeiladu ar ynys Ciwba, ac arweiniodd hyn at Argyfwng Taflegrau Ciwba - argyfwng a ddaeth â’r byd at drothwy rhyfel niwclear. Bu Kennedy yn llywyddu hefyd dros sefydlu'r Corfflu Heddwch a sicrhau parhad rhaglen ofod Apollo. Roedd hefyd yn gefnogol i’r Mudiad Hawliau Sifil a bu’n rhannol lwyddiannus wrth basio a gweithredu ei bolisïau domestig a adnabuwyd fel polisïau’r Ffin Newydd.

Ar ddechrau ei ymgyrch i'w ailethol yn Arlywydd, ar 22 Tachwedd 1963, aeth gyda'i wraig Jackie i Dallas, Texas. Wrth deithio mewn car to agored yno, fe'i saethwyd ddwywaith. Cludwyd ef i Ysbyty Parkland, lle bu farw am 13:00. Ar ei farwolaeth olynwyd ef gan y Dirprwy Arlywydd, sef Lyndon Johnson, a dyngodd lw fel yr arlywydd newydd yn syth wedi llofruddiaeth JFK. Cafodd Lee Harvey Oswald, cyn aelod o'r Llu Morwrol (Marines) gyda thueddiadau Marcsaidd, ei gyhuddo o ladd Kennedy, ond cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby ar 24 Tachwedd 1963, cyn iddo sefyll ei brawf. Arweiniodd hyn at amryw o theorïau ynglŷn â llofruddiaeth John F. Kennedy.

Daeth yr FBI a Chomisiwn y Barnwr Warren i’r casgliad bod Oswald wedi gweithredu yn annibynnol wrth lofruddio’r arlywydd, ond roedd llawer o grwpiau yn cwestiynu penderfyniad Comisiwn Warren ac yn credu bod Kennedy wedi bod yn darged cynllwyn. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd llawer o gynlluniau Kennedy eu gweithredu gan Lywodraeth Johnson, gan gynnwys Deddfau Hawliau Sifil 1964 a 1965 a Deddf Incwm 1964. Bu ei fywyd personol yn destun trafodaeth ddwys ar ôl i wybodaeth newydd am ei wahanol gyflyrau iechyd a sawl perthynas y tu allan i’w briodas ddod i’r amlwg yn ystod y 1970au.

Un o'i blant sydd wedi goroesi, sef Caroline Kennedy, sy'n gyfreithwraig, yn wleidydd ac yn awdur.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd John Fitzgerald Kennedy yn 83 Beals Street, yn Brookline, ger Boston, Massachusetts, ar 29 Mai 1917, yn fab i'r gŵr busnes a'r gwleidydd Joseph Patrick "Joe" Kennedy (1888–1969) a'r dyngarwr Rose Elizabeth Fitzgerald-Kennedy (1890–1995). Ei dad oedd mab hynaf y gŵr busnes a'r gwleidydd Patrick Joseph "P. J." Kennedy (1858–1929) a Mary Augusta Hickey-Kennedy (1857–1923). Roedd ei fam yn ferch i Faer Boston, sef John Francis "Honey Fitz" Fitzgerald (1863–1950) a Mary Josephine "Josie" Hannon-Fitzgerald (1865–1964). Roedd gan ei daid a'i nain o'r ddwy ochr gysylltiadau teuluol ag Iwerddon.[3]

Roedd JFK yn un o naw o blant, sef Joseph Jnr, ei frawd hynaf, a’i frodyr a'i chwiorydd iau, sef Rosemary, Kathleen, Eunice, Patricia, Robert (Bobby), Jean ac Edward (Ted).

Cafodd ei addysg gychwynnol yn ardal Boston, ac yna ym mis Medi 1927 symudodd y teulu o Boston i gymdogaeth Riverdale yn ninas Efrog Newydd.[4][5] Byddai’r teulu yn treulio hafau a chychwyn yr hydref mewn tŷ roeddent yn berchen arno yn Hyannis Port, Massachusetts, pentref ger Cape Cod, lle byddent yn mwynhau nofio a hwylio.[6] Adeg y Nadolig a Phasg byddai’r teulu yn treulio'r gwyliau yn eu tŷ gaeaf yn Palm Beach, Florida.[7][8]

Kennedy[dolen marw] ar ei gwch patrol llynges, y PT-109, 1943

Bu’n ddisgybl yn ysgol breifat Riverdale Country School i fechgyn ac yna yn Ysgol Canterbury, New Milford, Conneticut.[9][10] Ym mis Medi 1931 dechreuodd astudio yn ysgol breswyl Choate yn Wallingford, Conneticut, gan raddio yno ym Mehefin 1935.[5] Graddiodd o Goleg Harvard yn 1940 gyda gradd mewn llywodraeth a materion rhyngwladol. Y mis hydref dilynol cofrestrodd yn Ysgol Graddedigion Busnes Stanford ond gadawodd yn gynnar yn 1941 i helpu ei dad i ysgrifennu ei hunangofiant am y cyfnod pan oedd yn llysgennad America. Yna, bu JFK yn teithio drwy Dde America, ac ymwelodd â Cholombia, Ecwador a Pheriw.[11]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn 1946, gyda’i dad yn ei gyllido ac yn rheoli ei ymgyrch o dan y slogan “Mae'r genhedlaeth newydd yn cynnig arweinydd", enillodd Kennedy rownd gyntaf enwebiad y Democratiaid gyda 42% o’r bleidlais, a threchu deg ymgeisydd arall.[12] Wrth ganfasio o gwmpas Boston, roedd maniffesto Kennedy yn galw am dai o safon well i gyn-filwyr, gwell gwasanaeth iechyd i bawb, cefnogaeth i’r undebau oedd yn ymgyrchu dros oriau gwaith rhesymol, gweithle iachus a’r hawl i drefnu, bargeinio a streicio.[13] Ynghyd â Richard Nixon a Joseph McCarthy, roedd Kennedy ymhlith nifer o gyn-filwyr a fu’n ymladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a etholwyd i’r Gyngres y flwyddyn honno.[14]

Bu’n gwasanaethu yn y Tŷ am chwe blynedd, ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Addysg a Gwaith a'r Pwyllgor Materion Cyn-filwyr.

Dechreuodd baratoi yn 1949 ar gyfer ei gais i gael ei ethol i’r Senedd yn 1952 yn erbyn y Gweriniaethwr Henry Cabot Lodge Jr. a oedd wedi bod yn y swydd eisoes am dri thymor.[14] Unwaith eto, Joseph Kennedy oedd yn ariannu ymgyrch ei fab, tra'r oedd ei frawd iau, Robert F. Kennedy, yn rheoli’r ymgyrch. Yn Etholiad Arlywyddol 1952, trechodd y Gweriniaethwr, Dwight D. Eisenhower, ei wrthwynebydd i gael ei ethol yn Arlywydd, ond llwyddodd Kennedy i drechu Lodge gyda chymaint â 70,000 o bleidleisiau i ennill sedd yn y Senedd.[15] Y flwyddyn ganlynol, priododd Jacqueline Bouvier.[11]

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, cafodd Kennedy nifer o lawdriniaethau ar ei gefn. Yn aml iawn, byddai’n absennol o’r Senedd, yn ddifrifol wael ar brydiau, a chafodd yr eneiniad Catholig olaf, hyd yn oed, ar rai achlysuron. Tra'r oedd yn gwella yn 1956, cyhoeddodd ‘Profiles in Courage’, sef llyfr am Seneddwr yn UDA a oedd yn fodlon cymryd risg oherwydd daliadau personol. Enillodd y gyfrol Wobr Pulitzer yn y categori Hunangofiant yn 1957.[16]

Arlywyddiaeth[golygu | golygu cod]

Kennedy[dolen marw] yn siarad yng Ngorllewin Berlin yn 1963

Ar 17 Rhagfyr 1959, cafodd llythyr oddi wrth staff Kennedy ei ddatgelu, a oedd i fod i gael ei anfon at Ddemocratiaid dylanwadol yn unig, a ddangosai ei fod yn bwriadu cyhoeddi ei ymgyrch am yr arlywyddiaeth ar 2 Ionawr 1960. Felly, ar 2 Ionawr 1960, cyhoeddodd Kennedy ei gais am enwebiad y Democratiaid ar gyfer swydd Arlywydd UDA.[17] Er bod rhai yn cwestiynu oedran a phrofiad Kennedy, roedd ei garisma a’i allu fel siaradwr huawdl wedi ennill nifer o gefnogwyr i’w achos. Roedd llawer o Americaniaid yn arddel rhagfarn yn erbyn Catholigion ond fe wnaeth cefnogaeth Kennedy i’r syniad o wahanu'r eglwys oddi wrth y wladwriaeth ddiffiwsio sefyllfa a allai fod wedi achosi llawer o wrthdaro.

Teithiodd Kennedy yn eang er mwyn cynyddu ei gefnogaeth ymhlith pleidleiswyr Democrataidd a Democratiaid dylanwadol. Ceisiodd Kennedy ennill cymaint â phosib o’r rhagetholiadau er mwyn gwella ei siawns o ennill yr enwebiad. Yn ei brawf pwysig cyntaf, enillodd Kennedy ragetholiad Wisconsin.

Kennedy yn siarad ym Mhrifysgol Rice ar 12 Medi 1962

Enillodd ymgyrch Kennedy fomentwm ar ôl y ddadl gyntaf, gan fynd ar y blaen i Nixon. Yn 1960 enillodd Kennedy gefnogaeth y Democratiaid fel ymgeisydd y blaid ar gyfer swydd Arlywydd UDA. Dewisodd JFK Lyndon Johnson fel ei gyd-ymgeisydd ar gyfer swydd y Dirprwy Arlywydd oherwydd credai y gallai’r Seneddwr o Texas ei helpu i ennill cefnogaeth yn y de. Ar gychwyn yr ymgyrch etholiadol am yr Arlywyddiaeth, roedd ymgeisydd y gweriniaethwyr, sef Richard Nixon, a oedd hefyd yn ddirprwy arlywydd ar y pryd, tua chwe phwynt o flaen Kennedy yn y polau piniwn.[14] Yn ystod Medi a Hydref 1960, darlledwyd y trafodaethau arlywyddol rhwng Nixon a Kennedy. Rhain oedd y rhai cyntaf erioed i gael eu darlledu yn hanes UDA. Ymddangosai bod y gwylwyr teledu yn credu mai Kennedy oedd enillydd y dadleuon, tra bod y gwrandawyr radio yn credu mai Nixon oedd y buddugwr, neu ei fod ef a Kennedy yn gydradd. Bellach, mae’r dadleuon rhwng y ddau yn cael eu hystyried yn drobwynt pwysig yn hanes gwleidyddol America oherwydd dechreuwyd sylweddoli pa mor bwysig oedd teledu fel cyfrwng cyfathrebu mewn materion gwleidyddol.[16][18]

Ar Ddiwrnod yr Etholiad, trechodd Kennedy Nixon yn un o’r etholiadau arlywyddol mwyaf agos yn hanes yr 20g. Ymhlith yr etholwyr, roedd pleidlais Kennedy yn 49.7% o gymharu â Nixon, a oedd wedi sicrhau 49.5% o'r bleidlais, tra yn y Coleg Etholiadol enillodd Kennedy 303 o bleidleisiau o gymharu â’r 219 o bleidleisiau a gafodd Nixon.[19] Gwrthododd pedwar ar ddeg o etholwyr Mississippi ac Alabama gefnogi Kennedy oherwydd ei fod yn cefnogi’r Mudiad Hawliau Sifil. Pleidleisiodd y pedwar ar ddeg dros y Seneddwr Harry F. Byrd o Virginia, fel y gwnaeth etholwr o Oklahoma.[20] Kennedy oedd yr arlywydd ieuengaf yn hanes UDA, er roedd Theodore Roosevelt flwyddyn yn iau, sef 42 mlwydd oed, pan ymgymerodd â swydd yr Arlywydd yn dilyn llofruddiaeth William McKinley yn 1901.[21]

Tyngodd John F. Kennedy y llw arlywyddol fel 35ain Arlywydd UDA am 12 o’r gloch ar 20 Ionawr 1961. Yn ei araith gychwynnol, galwodd ar ddinasyddion America i fod yn ddinasyddion gweithgar gan ddweud, ‘Peidiwch â gofyn beth all eich gwlad wneud drosoch chi. Gofynnwch beth allwch chi ei wneud dros eich gwlad’.[22] Yn ei araith gofynnodd i wledydd ar draws y byd ymuno i frwydro yn erbyn yr hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel ‘gelynion cyffredin dynoliaeth: tlodi, afiechyd a rhyfel ei hun’.

Bu argyfwng yn gynnar yn ei bolisi tramor pan gytunwyd yn Ebrill 1961 ar gynllun gan Kennedy a fyddai’n caniatâu glanio 1,400 o gyn-alltudion o Ciwba, wedi eu hyfforddi gan y CIA, i oresgyn Ciwba o’r môr. Byddai’r milwyr yn glanio ym Mae’r Moch, Ciwba. Bwriad y goresgyniad oedd achosi gwrthryfel a fyddai’n dymchwel llywodraeth gomiwnyddol Fidel Castro. Methiant fu’r cynllwyn, gyda bron pob un o’r alltudion yn cael eu cipio neu eu lladd. Ym Mehefin 1961, cyfarfu Kennedy â'r arweinydd Sofietaidd, Nikita Khruschev, yn Fienna er mwyn trafod dinas Berlin, a oedd wedi cael ei rhannu ar ôl yr Ail Ryfel Byd rhwng y Cynghreiriaid a’r Undeb Sofietaidd. Ddeufis yn ddiweddarach, gorymdeithiodd milwyr Dwyrain yr Almaen i mewn i’r ddinas a chodi mur oedd yn rhannu’r ddinas, sef Mur Berlin.[23] Mewn ymateb i hyn, anfonodd Kennedy gonfoi o filwyr i ddangos i drigolion Gorllewin Berlin bod UDA yn eu cefnogi, ac yn ninas Berlin ym Mehefin 1963 traddododd Kennedy un o’i areithiau enwocaf.[24]

Bu cyfnod Kennedy fel arlywydd yn gyfnod pan aethpwyd ati i geisio trafod a datrys rhai o brif bynciau’r cyfnod – Argyfwng Taflegrau Ciwba, America Ladin a thwf Comiwnyddiaeth, sefydlu'r Corfflu Heddwch, Fietnam, Mudiad Hawliau Sifil, y ras i’r gofod a llawer o faterion eraill.

Araith gan John F. Kennedy, 10 Mehefin 1963 (hyd y clip: 26:47)

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Llofnododd Kennedy Waharddiad Prawf Niwclear a oedd yn gwahardd profi arfau niwclear yn yr amgylchedd, yn y môr ac ar y tir. Cyflwynodd hefyd argymhelliad a fyddai’n gweddnewid polisi mewnfudo America – a adnabuwyd yn ddiweddarach fel Deddf Mewnfudo a Chenedligrwydd 1965. Roedd y ddeddf hon yn newid y pwyslais ar fewnfudo o wledydd Ewropeaidd i America Ladin ac Asia. Roedd hefyd yn newid y pwyslais o ddewis mewnfudwyr tuag at uno teuluoedd yn hytrach na chwrdd â chwotâu mewnfudo o wledydd penodol.

Credai Kennedy yn gryf mai UDA oedd i fod i arwain y ras i’r gofod. I’r diben hwnnw, awgrymodd wrth Nikita Khruschev ym Mehefin 1961 ac yna yn nes ymlaen yn nhymor yr Hydref 1963, y gallai UDA a’r Undeb Sofietaidd gydlynu prosiect gyda’i gilydd er mwyn fforio i’r gofod. Yn y cyfarfod cyntaf, daeth i’r amlwg bod yr Undeb Sofietaidd ymhell ar y blaen i UDA yn nhechnoleg y gofod. Ar yr ail dro pan gyfarfu’r ddau, roedd rhaglen ofod America yn fwy blaengar nag un yr Undeb Sofietaidd, a sylweddolodd Khruschev bod mantais wrth rannu’r gost ariannol, ond llofruddiwyd Kennedy cyn i gytundeb swyddogol gael ei lunio.[25]

Mewn sesiwn o’r Gyngres ar 25 Mai 1961 amlinellodd Kennedy ei fwriad mai UDA fyddai’r wlad gyntaf i lanio dyn ar y lleuad.[25]

Yn ystod ei arlywyddiaeth wynebodd Kennedy lawer o broblemau yn ymwneud â materion hawliau sifil a oedd yn deillio o Ddyfarniad y Llys Goruchaf yn 1954, a ddyfarnodd bod arwahanu hiliol yn yr ysgolion yn anghyfansoddiadol. Teimlai Kennedy fod y sefyllfa a fodolai yn y taleithiau deheuol yn rhai a allai achosi problemau dirfawr, ac yn aml iawn ymddangosai fel petai ei fod wedi datgysylltu oddi wrth y Mudiad Hawliau Sifil.[26]

Llofruddiwyd Kennedy ar 22 Tachwedd 1963 yn Dallas, Texas, brin tair blynedd wedi iddo ddechrau yn swydd yr arlywydd.

Ymosodiad a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau ei ymgyrch etholiadol, ar 22 Tachwedd 1963, aeth gyda'i wraig Jackie i Dallas, Texas. Wrth deithio mewn car to agored yno, fe'i saethwyd ddwywaith. Fe'i cludwyd i Ysbyty Parkland, lle bu farw am 13:00. Cafodd Lee Harvey Oswald, cyn aelod o'r Marines gyda thueddiadau Marcsaidd, ei gyhuddo o ladd Kennedy, ond cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby ar 24 Tachwedd 1963, cyn iddo sefyll ei brawf, gan esgor ar amryw theorïau ynglŷn â llofruddiaeth John F. Kennedy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John F. Kennedy Miscellaneous Information". John F. Kennedy Presidential Library & Museum. Adalwyd 22 Chwefror 2012.
  2. "Maes y Gad i Les y Wlad: 1939-1959 | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-07.
  3. De Quesada, A. M. (2009). The Bay of Pigs : Cuba, 1961. Walsh, Stephen, 1966-. Oxford: Osprey Pub. ISBN 978-1-84603-323-0. OCLC 260208882.
  4. O'Brien, Michael, 1943- (2005). John F. Kennedy : a biography (arg. 1st U.S. ed). New York: Thomas Dunne Books/St. Martin's Press. ISBN 0-312-28129-3. OCLC 56413426.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  5. 5.0 5.1 "John F. Kennedy: Early Years | SparkNotes". www.sparknotes.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
  6. "Life of John F. Kennedy | JFK Library". www.jfklibrary.org. Cyrchwyd 2020-09-07.
  7. Kennedy, Edward M. (Edward Moore), 1932-2009, (2009). True compass : a memoir (arg. 1st ed). New York: Twelve. ISBN 978-0-446-53925-8. OCLC 434905205.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  8. "Fast Facts about John F. Kennedy | JFK Library". www.jfklibrary.org. Cyrchwyd 2020-09-07.
  9. "Looking Back On JFK's Time In Bronxville". Bronxville Daily Voice (yn Saesneg). 2013-11-18. Cyrchwyd 2020-09-07.
  10. Dallek, Robert. (2003). An unfinished life : John F. Kennedy, 1917-1963 (arg. 1st ed). Boston: Little, Brown, and Co. ISBN 0-316-17238-3. OCLC 52220148.CS1 maint: extra text (link)
  11. 11.0 11.1 Kenney, Charles. (2000). John F. Kennedy : the presidential portfolio : history as told through the collection of the John F. Kennedy Library and Museum. John F. Kennedy Library and Museum. (arg. 1st ed). New York: PublicAffairs. ISBN 1-891620-36-3. OCLC 44613066.CS1 maint: extra text (link)
  12. George, Christopher (2016-03-21). ""The New Generation Offers a Leader"". Fans in a Flashbulb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
  13. Massachusetts. Secretary of the Commonwealth (1946–1948). Election statistics. Boston Public Library. [Boston : The Office.CS1 maint: date format (link)
  14. 14.0 14.1 14.2 Brinkley, Alan. (2012). John F. Kennedy (arg. 1st ed). New York: Times Books. ISBN 978-0-8050-8349-1. OCLC 759491808.CS1 maint: extra text (link)
  15. "John F. Kennedy | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
  16. 16.0 16.1 "Kennedy and Defense". web.archive.org. 2008-12-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-12. Cyrchwyd 2020-09-07.
  17. "Clipped From Tampa Bay Times". Tampa Bay Times. 1959-12-18. t. 1. Cyrchwyd 2020-09-07.
  18. "Kennedy-Nixon Presidential Debates, 1960". web.archive.org. 2008-07-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-27. Cyrchwyd 2020-09-07.
  19. Dudley, Robert L. (2008). Counting every vote : the most contentious elections in American history. Shiraev, Eric, 1960- (arg. 1st ed). Washington, D.C.: Potomac Books. ISBN 978-1-59797-645-9. OCLC 755597307.CS1 maint: extra text (link)
  20. Dudley, Robert L. (2008). Counting every vote : the most contentious elections in American history. Shiraev, Eric, 1960- (arg. 1st ed). Washington, D.C.: Potomac Books. t. 83. ISBN 978-1-59797-645-9. OCLC 755597307.CS1 maint: extra text (link)
  21. Reeves, Richard, 1936-2020. President Kennedy : profile of power (arg. First Touchstone edition). New York. t. 21. ISBN 0-671-64879-9. OCLC 28257477.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  22. "Inaugural Address - John F. Kennedy Presidential Library & Museum". web.archive.org. 2012-01-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-11. Cyrchwyd 2020-09-07.
  23. Kempe, Frederick. (2011). Berlin 1961 : Kennedy, Khrushchev, and the most dangerous place on earth. New York: G.P. Putnam's Sons. tt. 76–78. ISBN 978-0-399-15729-5. OCLC 657270821.
  24. Editors, History com. "John F. Kennedy". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  25. 25.0 25.1 "Apollo Expeditions to the Moon: Chapter 2". history.nasa.gov. Cyrchwyd 2020-09-07.
  26. "John F Kennedy: A Summary of His Presidency" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
Rhagflaenydd:
Adlai Stevenson
Ymgeisydd Arlywyddol y Plaid Democrataidd
1960 (ennill)
Olynydd:
Lyndon B. Johnson
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Henry Cabot Lodge, Jr.
Seneddwr dros Massachusetts
gyda Leverett Saltonstall

19531960
Olynydd:
Benjamin A. Smith
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Dwight D. Eisenhower
Arlywydd yr Unol Daleithiau
20 Ionawr 196122 Tachwedd 1963
Olynydd:
Lyndon B. Johnson


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.