Jacqueline Kennedy Onassis

Oddi ar Wicipedia
Jacqueline Kennedy Onassis
GanwydJacqueline Lee Bouvier Edit this on Wikidata
28 Gorffennaf 1929 Edit this on Wikidata
Southampton, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1994 Edit this on Wikidata
o lymffoma ddi-Hodgkin Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgNewyddiaduraeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Vassar
  • Prifysgol Paris
  • Prifysgol George Washington
  • Prifysgol Smith, Massachusetts
  • Ysgol Miss Porter's
  • Prifysgol Georgetown Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd llenyddol, cymdeithaswr, ysgrifennwr, model Edit this on Wikidata
SwyddPrif Foneddiges yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Smith, Massachusetts Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJohn Vernou Bouvier III Edit this on Wikidata
MamJanet Lee Bouvier Edit this on Wikidata
PriodJohn F. Kennedy, Aristoteles Onassis Edit this on Wikidata
PartnerMaurice Tempelsman Edit this on Wikidata
PlantArabella Kennedy, Caroline Kennedy, John F. Kennedy Jr., Patrick Bouvier Kennedy Edit this on Wikidata
PerthnasauAlexandros Onassis, Christina Onassis Edit this on Wikidata
LlinachKennedy family Edit this on Wikidata
Gwobr/auEllis Island Medal of Honor, Trustees Award Edit this on Wikidata
llofnod
Jacqueline Kennedy Onassis

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1961 – 22 Tachwedd 1963
Arlywydd John F. Kennedy
Rhagflaenydd Mamie Eisenhower
Olynydd Lady Bird Johnson

Geni

Roedd Jacqueline Lee "Jackie" Kennedy Onassis (Bouvier yn gynt; 28 Gorffennaf 192919 Mai 1994) yn wraig i'r 35ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, John F. Kennedy, ac yn Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1961 tan llofruddiaeth ei gŵr yn 1963.

Bouvier oedd merch hynaf y brocer stoc Wall Street John Vernou Bouvier III a'r gymdetihaswraig Janet Lee Bouvier. Yn 1951, graddiodd gyda gradd Baglor y Celfyddydau mewn llenyddiaeth Ffrangeg o Brifysgol George Washington, ac aeth yn ei blaen i weithio fel ffotograffydd ymchwiliol i'r Washington Times-Herald.

Yn 1952, cyfarfu Bouvier â'r Cyngreswr John F. Kennedy mewn cinio. Yn Nhachwedd y flwyddyn honno, fe'i etholwyd yn Seneddwr yr Unol Daleithiau o Massachusetts, a phriododd y cwpl ym 1953. Cawsant bedwar o blant, bu farw dau ohonynt fel babanod. Fel y Brif Foneddiges, roedd yn adnabyddus am adfer y Tŷ Gwyn a'i phwyslais ar y celfyddydau a diwylliant. Ar 22 Tachwed 1963, roedd yn eistedd gyda'r Arlywydd mewn modurgad yn Dallas, Texas pan y llofruddiwyd. Tynnodd hi a'i phlant yn ôl o olwg y cyhoedd ar ôl ei angladd, ac ym 1968 priododd Aristotle Onassis.

Yn dilyn marwolaeth ei hail ŵr yn 1975, gweithiodd fel golygydd llyfrau am ddau ddegawd olaf ei bywyd. Fe'i chofir am ei chyfraniadau gydol oes i'r celfyddydau ac i gadwraeth pensaernïaeth hanesyddol, yn ogystal â'i steil, ceinder a gras.[1][2] Roedd yn eicon ffasiwn, ac mae ei gwisg enwog sy'n cynnwys y siwt binc Chanel a'r het pillbox wedi dod yn symbol o lofruddiaeth ei gŵr. Fe'i chydnabyddir fel un o'r Prif Foneddigesau mwyaf poblogaidd ac ym 1999 fe'i henwyd ar restr Gallup o'r Dynion a Merched Uchaf eu Parch yn America yr 20fed ganrif.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hall, Mimi. "Jackie Kennedy Onassis: America's Quintessential Icon of Style and Grace'. USA Today. Retrieved Chwefror 13, 2011.
  2. Circa 1961: The Kennedy White House Interior by Elaine Rice Bachmann. Quote: "The prescience of her words is remarkable given the influence she ultimately had on fashion, interior decoration, and architectural preservation from the early 1960s until her death in 1994. A disappointing visit to the Executive Mansion when she was 11 left a deep impression, one she immediately acted upon when she knew she was to become first lady..." Retrieved Chwefror 13, 2011.
  3. "Gallup Most Admired Women, 1948–1998". Gallup. Cyrchwyd August 18, 2009.
Rhagflaenydd:
Mamie Eisenhower
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
19611963
Olynydd:
Lady Bird Johnson