Lymffoma ddi-Hodgkin
| Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
|---|---|
| Math | lymffoma, neoplasm, clefyd y system hematopoietig, clefyd |
| Y gwrthwyneb | Hodgkin lymphoma |
| Arbenigedd meddygol | Hematoleg |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jdj1, /m/02vn0j |
| Thesawrws y BNCF | 10771 |
| OMIM | 605027 |
| MeSH | D008228 |
| UMLS CUI | C0024305 |
| Quora | Non-hodgkins-lymphoma |
Mae Lymffoma di-Hodgkin (NHL) yn grŵp o ganserau gwaed sy'n cynnwys pob math o lymffoma ac eithrio lymffomata Hodgkin. Gellir adnabod y cyflwr drwy symptomau megis nodau lymff chwyddedig, twymyn, chwysu nosol, colli pwysau a blinder. Ymhlith y symptomau eraill y mae poen ynghylch yr esgyrn, poen yn y frest, neu ymdeimlad o gosi. Mae rhai ffurfiau'n tyfu'n araf tra bod eraill yn tyfu'n gyflym.[1]
Lymffomata yw mathau o ganser sy'n datblygu o lymffosytau, ffurf o gelloedd gwaed gwyn. Mae ffactorau risg yn cynnwys system imiwnedd gwan, afiechydon hunanimíwn, haint Helicobacter pylori, hepatitis C, gordewdra, a'r firws Epstein-Barr.[2] Dosbarthir lymffoma i mewn i bum prif grŵp gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a chlustnodwyd un ar gyfer lymffoma Hodgkin.[3] Ymhlith y pedwar grŵp sy'n weddill (NHL) ceir dros 60 math penodol o lymffoma.[4][5] Gwneir diagnosis drwy archwilio biopsi mêr esgyrn neu nodau lymff. Gellir defnyddio dulliau delweddu meddygol er mwyn canfod penodau a lledaeniad y canser.
Mae'r driniaeth a roddir yn ddibynnol ar natur y lymffoma, hynny yw cyflymder ei dyfiant a'i lledaeniad. Ymhlith y triniaethau posib y mae cemotherapi, therapi ymbelydredd, imiwnotherapi, therapi targedig, trawsblannu celloedd bonyn, llawdriniaeth, neu archwiliadau cyson. Os ceir tewhad ormodol yn y gwaed o ganlyniad i wrthgorffynnau, gellir defnyddio plasmapheresis. Rhaid nodi hefyd bod therapïau ymbelydredd a rhai rhaglenni cemotherapi'n medru cynyddu'r risg o ddatblygu canser eraill, ynghyd â chlefyd y galon neu broblemau nerfol dros gyfnod o ddegawdau wedi'r driniaeth.
Yn 2015 roedd gan oddeutu 4.3 miliwn o bobl yn dioddef o Lymffoma ddi-Hodgkin yn fyd-eang, a bu farw 231,400 ohonynt yn yr un flwyddyn. Mae'r cyflwr yn effeithio ar 2.1% o boblogaeth yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod o'u bywyd. Yn fwy aml na pheidio, gwneir diagnosis mewn unigolion rhwng 65 a 75 mlwydd oed. Mae 71% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adult Non-Hodgkin Lymphoma Treatment (PDQ®)–Patient Version". NCI. August 3, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2016. Cyrchwyd 13 August 2016.
- ↑ World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 2.4, 2.6. ISBN 9283204298.
- ↑ "Adult Non-Hodgkin Lymphoma Treatment (PDQ®)–Health Professional Version". NCI. 1 Mehefin 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2016. Cyrchwyd 13 August 2016.
- ↑ "Different types of non Hodgkin lymphoma". Cancer Research UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Awst 2016. Cyrchwyd 13 Awst 2016.
- ↑ Bope, Edward T.; Kellerman, Rick D. (2015). Conn's Current Therapy 2016 (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. 878. ISBN 9780323355353. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-10.
- ↑ "SEER Stat Fact Sheets: Non-Hodgkin Lymphoma". NCI. April 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2016.