Asgwrn

Oddi ar Wicipedia
Asgwrn
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathorgan anifail, cynnyrch anifeiliaid, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osgerbwd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysasgwrn hir, short bone, asgwrn fflat, asgwrn afreolaidd, sesamoid bone, pneumatized bone, membranous bone, endochondral bone, accessory bone Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun o asgwrn y forddwyd o Gray's Anatomy

Mae asgwrn yn feinwe gyswllt ddwys galcheiddiedig fandyllog a lled-anhyblyg sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o sgerbwd mewnol fertebratau. Mae'n hen air Celtaidd; fe'i ceir yn ysgrifenedig yn Gymraeg am y tro cyntaf oddeutu'r 12ed ganrif yn Llyfr Du yr Waun. Eu diben yw cynorthwyo'r corff i symud, ei gynnal ac amddiffyn yr organau mewnol. Mae hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu celloedd amrywiol y gwaed ac am storio mwynau. Mae 'na esgyrn o siapau amrywiol hefyd ac fe'i gwneir i fod yn du hwnt o ysgafn, ond eto'n gryf.

Un o'r meinweoedd sy'n creu'r asgwrn yw'r 'meinwe'r asgwrn' sy'n rhoi iddo'r priodwedd arbennig o gryfder oherwydd ffurf crwybr gwenyn sydd iddynt (ffurf chweonglog tri dimensiwn). Y mathau eraill o feinwe y gellir ei ganfod yn yr asgwrn yw'r mêr, yr endostëwm, y periostëwm, y nerfau, y pibellau gwaed a'r cartilag. Mae 206 asgwrn gwahanol yn y sgerbwd oedolyn a 270 mewn babi.

Chwiliwch am asgwrn
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.