Cell gwaed gwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwaed normal drwy feicroscop; yn ogystal â'r celloedd gwyn (siâp afreolaidd) (leukocytes) ceir celloedd coch a phlatennau siap platiau.

Cell fiolegol yng ngwaed y corff yw cell gwaed gwyn (neu'n feddygol: leukocytes neu leucocytes); lluosog: celloedd gwaed gwyn, sy'n rhan o'r system imiwnedd sy'n gyfrifol am amddiffyn y corff drwy ymladd organebau drwg a chlefydau heintus. Cynhyrchir y gell wen ym mêr yr asgwrn. Mae'r gell yn tarddu o'r fôn-gell (stem cell) a elwir yn fôn-gell hematopoietig. Maent i'w cael ym mhob rhan o'r corff gan gynnwys y gwaed a'r system lymff.[1]

Ceir pum math o gell wen[2] a chânt eu dosbarthu a'u gwahaniaethu drwy faint a siâp y gell yn ogystal â'u gwaith.

Mae eu nifer yn dangos cyflwr y corff; gall ormod neu ddim digon ohonyn nhw fod yn arwydd o Liwcemia neu ddiffyg haearn yn y corff. Gellir dweud, felly, fod y gell wen yn ddangosydd afiechyd. Mae'r gell iach rhwng 4 ac 119/L. Yn yr Unol Daleithiau, caiff ei fynegi fel 4,000–11,000 cell wen / microlitr o waed.[3] Dyma 1% o holl waed corff dynol oedolyn iach.[4] Pan fo nifer y celloedd gwyn yn uwch na'r norm, ceir leukocytosis a phan fo'r nifer yn is, ceir leukopenia.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r enw o liw'r gell, wedi i waed gael ei gylchdroi ar beiriant mewn labordy. Dônt at ei gilydd yn haen denau rhwng y celloedd coch a'r plasma gwaed. Y gair gwyddonol yw leukocytes sydd hefyd yn tarddu o liw'r celloedd: y Groeg am 'wyn' yw leuko-' ac ystyr kytos yw llestr wag; trydydd rhan o'r gair yw -cyte sy'n cyfeirio at y gell ei hun. Ar adegau ceir gwawr werdd i'r lliw gwyn yn enwedig pan fo llawer o neutroffiliau yn y sampl oherwydd eu bod yn cynhyrchu cryn dipyn o'r ensym myeloperoxidase.

Mathau[golygu | golygu cod y dudalen]

Math Ymddangosiad meicrosgopic Diagram %
amcang.
mewn oedolyn
Diametr (micrometr mewn μm)[5] Prif darged/au[4] Cnewyllyn[4] Gronyn/nau[4] Einioes[5]
Niwtroffil PBNeutrophil.jpg Neutrophil.png 62% 10–12 Amryw-labed Mân, gyda gwawr binc 6 awr - ychydig ddyddiau
Eosinoffil PBEosinophil.jpg Eosinophil 1.png 2.3% 10–12

Parasytig a llidiol

Deulabed Pinc-oren 8–12 diwrnod
Basoffil PBBasophil.jpg Basophil.png 0.4% 12–15

Cynhyrchu histamin

Deulabed neu 3-labed Mawr, glas Oriau - dyddiau
Lymffoseit (Lymphocyte) Lymphocyte2.jpg Lymphocyte.png 30% Bach: 7–8
Mawr: 12–15

Celloedd B a T: rhyddhau gwrthgyrff (antibodies); ceir eraill.

Ecsentrig Celloedd-NK a cytotoxic (CD8+) celloedd-T Celloedd yr ymennydd: blynyddoedd. Gweddill: wythnosau.
Monoseit Monocyte.jpg Monocyte.png 5.3% 12–15[6] Gallant symud o'r gwaed i feinweoedd amrywiol y corff ee i'r iau. Siap iau Dim Oriau - dyddiau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Maton, D., Hopkins, J., McLaughlin, Ch. W., Johnson, S., Warner, M. Q., LaHart, D., & Wright, J. D., Deep V. Kulkarni (1997). Human Biology and Health. Englewood Cliffs, New Jersey, US: Prentice Hall. ISBN 0-13-981176-1. 
  2. LaFleur-Brooks, M. (2008). Exploring Medical Language: A Student-Directed Approach (7th ed.). St. Louis, Missouri, US: Mosby Elsevier. p. 398. ISBN 978-0-323-04950-4. 
  3. "Vital and Health Statistics Series 11, Rhif. 247 (03/2005)" (PDF). http://www.cdc.gov/nchs/data/series/sr_11/sr11_247.pdf. Adalwyd 2014-02-02.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Bruce Alberts, Alexander Johnson, Julian Lewis, Martin Raff, Keith Roberts, and Peter Walter (2002). "Leukocyte functions and percentage breakdown". Molecular Biology of the Cell (4th ed.). Efrog Newydd: Garland Science. ISBN 0-8153-4072-9. 
  5. 5.0 5.1 Daniels, V. G., Wheater, P. R., & Burkitt, H.G. (1979). Functional histology: A text and colour atlas. Edinburgh: Churchill Livingstone. ISBN 0-443-01657-7. 
  6. Handin, Robert I.; Samuel E. Lux; Thomas P. Stossel (2003). Blood: Principles and Practice of Hematology (2nd ed.). Philadelphia: Lippincott Williams and Wilkins. p. 471. ISBN 9780781719933. Adalwyd 2013-06-18.