Plasma gwaed
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Y rhan hylifol o waed yw plasma gwaed sy'n cludo maetholion i gelloedd yr organau, yn cludo gwastraff metabolaidd i'r arennau, yr afu a'r ysgyfaint, ac yn cludo'r celloedd gwaed o amgylch y corff.[1] Dŵr sy'n cyfri am 92% o blasma, ac mae'r hylif hefyd yn cynnwys siwgr, braster, protein, a thoddiant halen sy'n cludo'r celloedd coch, y celloedd gwyn, a'r platennau. Mae'n cyfri am ryw 55% o gyfaint gwaed y corff dynol.[2] Mae plasma hefyd yn dosbarthu gwres trwy'r corff ac yn bwysig wrth gynnal pwysedd gwaed ac homeostasis.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) plasma (biology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) Human Blood: Blood Components Archifwyd 2013-06-05 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd ar 31 Mawrth 2017.