Homeostasis
Gwedd
| Enghraifft o: | math o gydbwysedd |
|---|---|
| Math | cydbwysedd, rheolaeth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03mqq |
| Thesawrws y BNCF | 4554 |
| Quora | Homeostasis |
Homeostasis yw'r enw a roddir ar y broses a ddefnyddir gan organebau byw i reoli eu cyflyrau ffisiolegol a chemegol eu hunain i'w galluogi i weithredu ar y lefel optimwm. Mae angen cadw llawer o newidynnau o fewn ffiniau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys tymheredd y corff, pwysedd gwaed, cydbwysedd hylif, lefel pH yn hylif allgellog, crynodiadau ïonau sodiwm, potasiwm a chalsiwm, a lefel y siwgr yn y gwaed. Er mwyn cynnal bywyd mae angen cadw'r holl ffactorau hyn yn weddol gyson er gwaethaf newidiadau yn yr amgylchedd, amrywiadau mewn maethiad, a lefel gweithgaredd corfforol.[1]