Mer esgyrn

Oddi ar Wicipedia
Mer esgyrn
Enghraifft o'r canlynolmeinwe, dosbarth o endidau anatomegol, cynnyrch bwyd Edit this on Wikidata
Mathmeinwe, zone of bone organ, blood forming organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbone marrow cells Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mêr esgyrn yw'r meinwe gyswllt meddal brasterog sy'n llenwi'r rhan fwyaf o geudodau esgyrn. Gyda bodau dynol, mae cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mêr ym mhen esgyrn hirion mewn proses a elwir yn waedfagu (hemopoiesis). Ar gyfartaledd mae mêr esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65 kg (143 lb), fyddai mêr yn cyfateb i tua 2.6 kg (5.7 lb). Mae'r cyfansoddyn gwaedfagol (hematopoietig) o mêr yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlaidd y mêr fel cwndid i system gylchredol y corff.[1] Mae mêr hefyd yn elfen allweddol i'r system lymffatig, gan gynhyrchu'r lymffosytau sy'n cefnogi system imiwnedd y corff.[2] Yn ychwanegol i'r celloedd gwaedfagol, mae'r mêr yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn meddal (trabecwlaidd). Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd gwaedfagol o fewn y gilfach bôn-gell gwaedfagol.

Gall trawsblaniad mêr cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mêr, gan gynnwys mathau penodol o canser megis lewcemia. Yn ychwanegol mae bôn-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol,[3] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus.[4]

Y ddau fath o mêr yw ‘mêr coch’ (Lladin: medulla ossium rubra), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe waedfagol [celloedd cochion y gwaed] a ‘mêr melyn’ (medwla) sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae celloedd cochion, platennau a rhan helaeth o'r celloedd gwynion i'w weld yn y mêr. Mae'r ddau fath o mêr yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilarïau. Ar eni, mae'r ddau fath o mêr yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mêr melyn; dim ond hanner o mêr oedolion sy'n goch. Mae mêr coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y pelfis, sternwm, penglog, asennau, fertebrâu a'r pedyll ysgwyddau (sgapwlâu) ag yn yr deunydd trabecwlaidd (asgwrn meddal) ar bennau ardyfiannol agosaf esgyrn hirion megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mêr melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hirion. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mêr melyn i fer coch er mwyn cynyddu cynhyrchiad celloedd cochion y gwaed.

Stroma[golygu | golygu cod]

Stroma'r mêr yw'r holl meinwe sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol a prif weithred y mêr o waedfagu (hemopoiesis). Mae mêr melyn yn cyfrannu at rhan helaeth storma'r mêr, yn ychwanegol at grynodiadau o gelloedd stroma wedi eu lleoli yn y mêr coch. Er nid yw mor weithgar a'r mêr coch parencyma, mae'r stroma yn gysylltiedig yn anuniongyrchol yn waedfagu, gan ei fod yn darparu'r micro-amgylchedd gwaedfagol sy'n hyrwyddo'r waedfagu gan y celloedd parencymol. Er enghraifft, maent yn cynhyrchu ffactorau ysgogol cytref, sy'n cael effaith sylweddol ar waedfagu. Mae'r mathau o gelloedd sy'n cynnwys y stroma mêr yn cynnwys:

  • ffibroblastau (meinwe gyswllt rhwydol)
  • macroffabau, sy'n cyfrannu'n sylweddol at gynhyrchiad cell goch y gwaed, gan eu bod yn mynd a Haearn ar gyfer cynhyrchiad hemoglobin
  • adypocytiau (celloedd bras)
  • osteoblastiau (asgwrn synseseiddio)
  • osteoclastiau (asgwrn atsugno)
  • celloedd endothelaidd, sy'n ffurfio'r sinwsoidau. Mae rhein yn deillio o'r bôn-gell endothelaidd, sydd hefyd i'w weld yn y mêr.
Cyfansoddiad celloedd y mêr parencyma coch[5]
Grwp Math o gell
Ffracsiwn

Cymedredd

Ystod

Cyfeirnod

Celloedd

Myelopoietic

Myeloblasts 0.9% 0.2–1.5
Promyelocytes 3.3% 2.1–4.1
Myelosytau niwtroffilig 12.7% 8.2–15.7
Myelosytau eosinoffilig 0.8% 0.2–1.3
Metamyelosytau niwtroffilig 15.9% 9.6–24.6
Metamyelosytau eosinoffilig 1.2% 0.4–2.2
Neutrophilic band cells 12.4% 9.5–15.3
Eosinophilic band cells 0.9% 0.2–2.4
Segmented neutrophils 7.4% 6.0–12.0
Segmented eosinophils 0.5% 0.0–1.3
Segmented basophils and mast cells 0.1% 0.0–0.2
Celloedd

Erythropoietic

Pronormoblasts 0.6% 0.2–1.3
Basophilic normoblasts 1.4% 0.5–2.4
Polychromatic normoblasts 21.6% 17.9–29.2
Orthochromatic normoblast 2.0% 0.4–4.6
Mathau eraill o

gelloedd

Megakaryocytes < 0.1% 0.0-0.4
Plasma cells 1.3% 0.4-3.9
Reticular cells 0.3% 0.0-0.9
Lymphocytes 16.2% 11.1-23.2
Monocytes 0.3% 0.0-0.8

Gweithrediad[golygu | golygu cod]

Celloedd stromol mesencymaidd[golygu | golygu cod]

Mae stroma'r mêr yn cynnwys celloedd stromol mesencymaidd (MSCau), adnabyddir hefyd fel celloedd stromol mêr. Mae rhein yn celloedd stromol amlgref sy'n gallu addasu eu hunain i nifer o wahanol fathau o gelloed. Mae'n hysbys fod MSCau yn addasu, yn vitro neu'n vivo, i osteoblastau, condrostyau (celloedd cartilag), have been shown to differentiate, yn y groth neu mewn llestr, into osteoblasts, condrosytau, myosytau, marrow adipocytes and beta-pancreatic islets cells.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Vunjak-Novakovic, G.; Tandon, N.; Godier, A.; Maidhof, R.; Marsano, A.; Martens, T. P.; Radisic, M. (2010). "Challenges in Cardiac Tissue Engineering". Tissue Engineering Part B: Reviews 16 (2): 169–187. doi:10.1089/ten.teb.2009.0352.
  2. The Lymphatic System. Allonhealth.com. Retrieved 5 December 2011.
  3. "Antibody Transforms Stem Cells Directly Into Brain Cells". Science Daily. 22 April 2013. Cyrchwyd 24 April 2013.
  4. "Research Supports Promise of Cell Therapy for Bowel Disease". Wake Forest Baptist Medical Center. 28 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 5 March 2013.
  5. Appendix A:IV in Wintrobe's clinical hematology (9th edition). Philadelphia: Lea & Febiger (1993).