Penglog
Gwedd
| Delwedd:Aardwolf Skull.JPG, A2613-Museum Geologi-Fosil Tengkorak.jpg | |
| Enghraifft o: | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | structure with developmental contribution from neural crest, endid anatomegol arbennig, subdivision of skeletal system |
| Rhan o | axial skeleton |
| Cysylltir gyda | cervical spine |
| Yn cynnwys | craniwm, mandibl dynol, niwrocraniwm, facial skeleton, calvaria, base of skull, parietal bone |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws y BNCF | 5120 |
| UMLS CUI | C0037303 |
Fframwaith esgyrnog neu gartilagaidd pen y fertebratau ydy penglog, a hwnnw'n rhoi ffurf ac amddiffyniad i'r pen. Yn ogystal ag amddiffyn yr ymennydd yn y pen rhag niwed mae siâp y benglog yn pennu pellter y llygaid oddi wrth ei gilydd ac yn lleoli'r clustiau yn y fath fodd fel y gall y clyw farnu cyfeiriad a phellter sŵn.
Mae dwy ran iddi sef y creuan (craniwm) ac asgwrn yr ên (genogl, mandibl). Creuanogion yw'r cordogion hynny sydd â chreuan ac fe'i defnyddir fel cyfystyr am ‘fertebratau’ mewn rhai trefnau dosbarthu. Ymhellach isrannir y creuan yn badell yr ymennydd (niwrocraniwm) ac yn sgerbwd yr wyneb (fiscerocraniwm) sy'n cynnwys cwpanau esgyrnog yr organau synhwyro.