Fertibra
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | asgwrn afreolaidd, human bone ![]() |
Rhan o | Asgwrn cefn ![]() |
Yn cynnwys | body of vertebra, pedicle of vertebral arch, vertebral foramen, lamina of the vertebral arch, vertebral arch, transverse processes ![]() |
![]() |
Asgwrn onglog yn yr asgwrn cefn (neu'r 'llinyn arian' chwedl y Beibl) ydy fertibra (lluosog: fertibrâu). Mae 33 ohonynt o fewn asgwrn cefn bodau dynol, fel arfer wedi'u gosod mewn trefn arbennig ac sy'n eitha hyblyg er mwyn i'r corff symud. Mae 5 ohonyn nhw, fodd bynnag yn stiff, yn anhyblyg a gelwir y 5 yma yn fertibrâu y sacrwm, ac felly hefyd y pedwar ar y gwaelod un, sef fertibrâu cwtyn y cynffon (neu 'coccyx').
Mae'r tair rhan uchaf yr asgwrn cefn yn cynnwys: y fertibrâu cerfigol (7 fertibra), y fertibrâu thorasig (12 fertibra) a fertibrâu y meingefn (5 fertibra). Ar adegau, ceir un yn ormod neu un fertibra yn brin. Gellir teimlo'r rhan fwyaf ohonynt gyda'r bysedd noeth, a'u cyfri.
Dyma'r teuluoedd o fertibrâu:
- fertibrâu y sacrwm: 5 fertibra
- fertibrâu cwtyn y cynffon (neu 'coccyx'): 4 fertibra
- fertibrâu cerfigol 7 fertibra
- fertibrâu thorasig 12 fertibra
- fertibrâu y meingefn 5 fertibra