System imiwnedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
System imiwnedd
Data cyffredinol
Dynodwyr
Freebase /M/03vvz edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF 5131 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun wedi'i gymryd gan feicrosgop electron o un o niwtroffils unigol (melyn) y corff a bacteria anthrax llawer cryfach yn ymosod arno (mewn oren).

Mewn anatomeg mae'r system imiwnedd yn hanfodol er mwyn amddiffyn y corff rhag clefydau, drwy adnabod a lladd pathogenau a chelloedd tiwmor. Gwaith y system yma ydy adnabod y gwahanol organebau sy'n ymosod ar y corff, megis y feirws, pryfaid parasytig ac ar adegau gall rhai gofio'r 'gelyn' sy'n ymosod; dyma sail brechu. Gan fod llawer o'r pathogenau hyn yn newid (yn esblygu) yn sydyn iawn, mae'r system imiwnedd weithiau'n cael ei ddrysu, gan ymosod ar y corff ei hun.

Mae'r system imiwnedd yn fecanwaith cymhleth a sensitif iawn. Mae ei swyddogaethau'n cynnwys cynhyrchu'r tymereddau uchel a elwir yn dwymyn, sydd hefyd yn rhan o'r ymgais i fynd i'r afael â haint, a chynhyrchu mwcws i faglu'r micro-organebau.

Yn anffodus, oherwydd ei bod mor gymhleth, gall weithiau weithredu'n anfanteisiol i'r corff, fel mewn adweithiau alergaidd a sioc anaffylactig ble mae'r system imiwnedd yn mynd i gyflwr goradweithio a all yn ei hun fygwth bywyd, hyd yn oed pan fod yr antigen ei hun yn ymddangos yn ddiberygl (er enghraifft antigenau cnau daear). Gall clefydau awtoimiwn, fel diabetes, ddigwydd pan fod y system imiwnedd yn trin proteinau arwyneb ar gorffgelloedd fel antigenau 'estron' yn amryfus. Yna mae'r system yn dechrau dinistrio’r celloedd hyn (Celloedd ynysig yn y pancreas yn achos diabetes math .[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.