Trawsblannu organau

Oddi ar Wicipedia
Trawsblannu organau
Enghraifft o'r canlynolsurgical procedure type Edit this on Wikidata
Mathsurgical operation, llawdriniaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trawsblannu organau yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o organau anifail neu ddyn o'r rhoddwr i'r derbynnydd, fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu meinwe hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn meddygaeth, yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.[1] Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.[2]

Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw had gelloedd person sy'n dioddef o lwcimia mewn labordy, dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy radiotherapi a cimotherapi ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn autograft a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn allograft. Gall trawsblaniad o'r math hwn (allograft) olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.[3] Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i Lywodraeth Cymru basio bil (Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013) sy'n caniatáu i ysbytu ddefnyddio organau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2015.

Y prif organau dynol

Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".[4]

Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a'r coluddyn bach.

Mae rhoi meinweoedd yn golygu defnyddio celloedd corff iach fel cornbilennau, croen, esgyrn, gewynnau, cartilag a falfiau'r galon. Mae esgyrn, tendonau a chartilag yn cael eu defnyddio ar gyfer ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawdriniaeth i osod cymal newydd. Mae impiadau (neu grafft) croen yn cael eu defnyddio i drin pobl â llosgiadau difrifol.

Cymru[golygu | golygu cod]

Cafodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013. Mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyfreithiol ar gyfer sut y dylid rhoi cydsyniad yng Nghymru i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu i gorff arall. Mae’n ymdrin â gweithgareddau trawsblannu ar gyfer rhoddwyr byw a rhoddwyr sydd wedi marw yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn creu dau fath newydd o gydsyniad cyfreithiol – sef cydsyniad datganedig a chydsyniad tybiedig. Nid yw cydsyniad tybiedig yn gymwys ond i rodd gan berson sydd wedi marw. I gydsyniad tybiedig fod yn gymwys, bydd angen i bobl farw yng Nghymru, bod dros 18 oed ac wedi ‘preswylio fel arfer’ yng Nghymru am 12 mis neu fwy.[5]

Bernir bod oedolion wedi rhoi cydsyniad i roi organau a meinweoedd oni bai:

  • eu bod eisoes wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig eu hunain trwy ddweud nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio i mewn');
  • eu bod eisoes wedi datgan nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio allan');
  • eu bod wedi penodi cynrychiolydd i wneud penderfyniad drostynt;
  • nad oedd ganddynt y gallu i ddeall y drefn hon y gallai cydsyniad fod yn gydsyniad tybiedig (ee person gyda phroblemau meddyliol) neu
  • fod person sydd mewn perthynas â hwy neu sy’n perthyn iddynt yn gwrthwynebu ar sail dymuniadau’r person sydd wedi marw

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H (February 2001). "The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection". Nephrol. Dial. Transplant. 16 (2): 355–60. doi:10.1093/ndt/16.2.355. PMID 11158412. http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355.
  2. Gweler am ragor o fanylion; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: Bulletin of the World Health Organization; Organ trafficking and transplantation pose new challenges; adalwyd 22 Tachwedd 2015.
  3. Manara, A. R.; Murphy, P. G.; O'Callaghan, G. (2011). "Donation after circulatory death". British Journal of Anaesthesia 108: i108–i121. doi:10.1093/bja/aer357. PMID 22194426.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback. Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: "any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."; adalwyd 22 Tachwedd 2015
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback. Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; adalwyd 22 Tachwedd 2015

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]