Symptom

Oddi ar Wicipedia

Arwydd o afiechyd ydy symptom. Daw'r gair o'r iaith Roeg σύμπτωμα sef "damwain ac aflwydd ar berson".[1] Gall y symptom ymwneud ag unrhyw beth gwahanol i'r arfer: arwydd gweledol neu deimlad gwahanol i'r arfer, gan y claf, sy'n arwydd o afiechyd neu haint. Er enghraifft, un o'r symptomau cynharaf o lid y freithell (meningitis) ydy cur pen.

Tystiolaeth oddrychol o glefyd fel y canfyddir gan glaf yw symptom, ac felly mae'n wahanol i arwydd meddygol sef tystiolaeth wrthrychol a ddarganfyddir gan feddyg.[2]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Nid ydy'r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr. Mae'r rhifau mewn cromfachau'n cyfeirio at godau ICD-10.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

colli pwysau (R63.4), colli awch bwyd (R63.0), rhoi pwysau (R63.5), ceg sych (R68.2), blinder (R53), cyhyrau'n gwanhau (M62.8), clefyd melyn (jaundice) (M62.8), poen yn y bol (R10), poen yn y frest (R07), cleisio, anafiadau (R25.1), tyndra’r cyhyrau (cramp) (R25.2), sŵn yn y glust (tinnitus) (H93.1), y bendro (R42), oerfel (ar berson) (hypothermia) (T68), gorboethi (hyperthermia) T670), gwaedu, chwydd, chwysu, cryndod (rigor)

Niwrolegol a seicolegol[golygu | golygu cod]

acroffobia, gordynydra (anxiety), hunan-anafu (self harm), iselder ysbryd, rhith-weld (hallucinations), cur pen, diffyg cwsg (F51.0, G47.0), y parlys (paralysis), ffobia, tic

Y golwg[golygu | golygu cod]

golwg dwbwl (H53.2), golwg niwlog (blured vision)

Y stumog a'r perfedd[golygu | golygu cod]

anorecsia (R63.0), chwydd y boten (neu bola chwyddo) (R63.0), torri gwynt (R14), troeth-waedu (melena) (K92.1), rhwymedd (constipation) (K59.0), dolur rhydd (diarrhea) (A09, K58, K59.1), diffyg traul (K30), gwynt (flatulence) (R14), teimlo fel chwydu (nausea) (R11), dŵr poeth (pyrosis) (R12), chwydu (R11)

Cardiofasgwlaidd[golygu | golygu cod]

poen yn y frest (R07), gorguro'r galon (palpitations) (R00.2), chwimguro'r galon (tachycardia) (R00.0), tan-guro'r galon (bradycardia) (R00.1)

Wroleg (urology)[golygu | golygu cod]

tostedd (dysuria) (R30.0)

Yr ysgyfaint[golygu | golygu cod]

goranadlu (hyperventilation), tananadlu (hypoventilation), peswch

Pilynnol (Integumentary)[golygu | golygu cod]

crafiadau (abrasions), swigen (meddygol) (T14.0), cosi (meddygol) (L29), brech (R21)

Obstetreg a gynecolegol[golygu | golygu cod]

anffrwythlondeb, poenau geni

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]