Ffobia

Oddi ar Wicipedia
Ffobia
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder gorbryder, Ofn, gordyndra, neurosis, clefyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebphilia Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolSeiciatreg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o anhwylder gorbryder yw ffobia, ac fe'i diffinnir fel ymdeimlad o ofn parhaus, naill ai at wrthrych neu sefyllfa.[1] Mae'r ffobia fel arfer yn arwain at ymdeimlad o ofn enbyd a gall fod yn bresennol am fwy na chwe mis. Ai dioddefwr i raddau helaeth er mwyn osgoi'r sefyllfa neu'r gwrthrych oddi tan sylw, graddfa sydd fel arfer yn fwy na'r perygl gwirioneddol. Os na ellir osgoi'r gwrthrych neu'r sefyllfa a ofnir, bydd dioddefwr yn gofidio neu'n profi panig sylweddol. Gall ffobia o waed neu anaf arwain at lewygu. Mae agoraffobia yn gysylltiedig â phyliau panig. Fel arfer mae gan berson ffobia i nifer o wrthrychau neu sefyllfaoedd.

Gellir rhannu ffobiâu yn gategorïau; ffobiâu penodol, ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia.[2] Ymhlith y ffobiâu penodol yma y mae ofni anifeiliaid, sefyllfaoedd amgylchoedd naturiol, ofni gwaed neu anafiadau, a sefyllfaoedd eraill. Mae'r ffobiâu penodol mwyaf cyffredin yn cynnwys ofni pryfed cop, nadroedd, ac uchder.[3] O bryd i'w gilydd sbardunir ffobia gan brofiadau negyddol, naill ai gyda'r gwrthrychau neu mewn sefyllfaodd penodol. Diffinnir ffobia cymdeithasol fel proses o ofni sefyllfa a all arwain, yn llygaid y dioddefwr, at eraill yn eu barnu. Agoraphobia yw ofni sefyllfa na ellir dianc ohono'n hawdd.

Dylid trin ffobiâu penodol â therapi amlygiad, sef cyflwyno dioddefwr i'r sefyllfa neu'r gwrthrych dan sylw nes bod ei ofn yn cilio. Nid yw meddyginiaethau'n ddefnyddiol yn y math hwn o ffobia. Caiff ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia eu trin yn aml wrth gyfuno rhaglenni cwnsela a meddyginiaeth.[4][5] Defnyddir meddyginiaethau gwrth-iselder, bensodiasepinau, neu beta-atalyddion i drin y cyflwr.[4]

Effeithir oddeutu 6-8% o boblogaeth y byd gorllewinol fan ffobiâu penodol yn flynyddol a 2-4% o boblogaeth Asia, Affrica, ac America Ladin. Mae ffobia cymdeithasol yn effeithio ar oddeutu 7% o boblogaeth yr Unol Daleithiau, tra effeithia 0.5-2.5% o'r boblogaeth ryngwladol. Mae oddeutu 1.7% o boblogaeth y byd yn datblygu'r cyflwr agoraffobia.[6] Caiff dwbl y menywod eu heffeithio gan y cyflwr i gymharu â dynion. Mae ffobia fel arfer yn dechrau tra bod unigolyn rhwng 10 ac 17 mlwydd oed. Ceir cyfraddau is mewn unigolion hŷn. Mae pobl â ffobiâu yn fwy tebygol o hunanladd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. American Psychiatric Association (2013), Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (5th ed.), Arlington: American Psychiatric Publishing, pp. 190, 197–202, ISBN 0890425558
  2. Hamm, AO (September 2009). "Specific phobias.". The Psychiatric clinics of North America 32 (3): 577–91. doi:10.1016/j.psc.2009.05.008. PMID 19716991. https://archive.org/details/sim_psychiatric-clinics-of-north-america_2009-09_32_3/page/577.
  3. "Specific Phobias". USVA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2016. Cyrchwyd 26 July 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 "Anxiety Disorders". NIMH. March 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 July 2016. Cyrchwyd 27 July 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Perugi, G; Frare, F; Toni, C (2007). "Diagnosis and treatment of agoraphobia with panic disorder.". CNS Drugs 21 (9): 741–64. doi:10.2165/00023210-200721090-00004. PMID 17696574.
  6. American Psychiatric Association (2013), Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (5th ed.), Arlington: American Psychiatric Publishing, pp. 204, 218–219, ISBN 0890425558