Pwl o banig

Oddi ar Wicipedia
Pwl o banig
Enghraifft o'r canlynolclefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd meddwl, panig Edit this on Wikidata

Cyfnod sydyn o ofn dwys yw pwl o banig neu ymosodiad panig ac mae modd iddo arwain at grychguriadau, chwysu, cryndod ac ysgwyd, diffyg anadl, dideimladrwydd, neu ofid bod rhywbeth drwg ar ddigwydd.[1] Mae'r symptomau mwyaf difrifol yn digwydd o fewn munudau. Fel arfer maent yn para am tua 30 munud ond gall y cyfnod hwnnw amrywio o eiliadau i oriau.[2] Efallai y bydd dioddefwr yn ofni colli rheolaeth neu gall achosi poen ynghylch y frest. Nid yw ymosodiadau panig eu hunain yn beryglus yn gorfforol.

Achosir ymosodiadau panig gan nifer o anhwylderau gwahanol, er enghraifft anhwylder pryder cymdeithasol, anhwylder straen ôl-drawmatig, anhwylder dibyniaeth cyffuriau, iselder ysbryd a phroblemau meddygol.[3] Gallant naill ai gael eu sbarduno neu eu hachosi'n ddirybudd. Mae ffactorau risg yn cynnwys ysmygu a straen seicolegol. Wrth wneud diagnosis dylid diystyrir amodau eraill sy'n achosi symptomau tebyg, gan gynnwys gorthyroidedd, gorbarathyroidedd, clefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint, a defnyddio cyffuriau.

Wrth drin pwl o banig dylid darganfod ei achos sylfaenol.[4] Yn achos dioddefwr â phwysau cyson, gellir cynnig cwnsela neu weithiau meddyginiaethau.[5] Gall hyfforddiant anadlu a thechnegau ymlacio cyhyrau gynorthwyo hefyd.[6] Mae dioddefwyr pwl o banig yn fwy tebygol o hunanladd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anxiety Disorders". NIMH. March 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2016. Cyrchwyd 1 October 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Bandelow, Borwin; Domschke, Katharina; Baldwin, David (2013). Panic Disorder and Agoraphobia (yn Saesneg). OUP Oxford. t. Chapter 1. ISBN 9780191004261. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Craske, MG; Stein, MB (24 June 2016). "Anxiety.". Lancet. doi:10.1016/S0140-6736(16)30381-6. PMID 27349358.
  4. Geddes, John; Price, Jonathan; McKnight, Rebecca (2012). Psychiatry (yn Saesneg). OUP Oxford. t. 298. ISBN 9780199233960. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Panic Disorder: When Fear Overwhelms". NIMH. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 October 2016. Cyrchwyd 1 October 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Roth, WT (2010). "Diversity of effective treatments of panic attacks: what do they have in common?". Depression and anxiety 27 (1): 5–11. doi:10.1002/da.20601. PMID 20049938.