Anhwylder gorbryder

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
A. Morison "Physiognomy of mental diseases", cases Wellcome L0022722 (cropped).jpg
Paentiad o wyneb rhywun â phryder cronig arnyn nhw
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolclass of disease Edit this on Wikidata
Mathanhwylder gwybyddol, particular disease Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae anhwylderau gorbryder yn glwstwr o anhwylderau meddwl a nodweddir gan deimladau sylweddol ac afreolus o bryder ac ofn.[1] Mae hyn yn achosi nam sylweddol ar yr unigolyn yn ogystal â sut y gall gymdeithasu a gweithio.[1] Mae gorbryder yn taro pawb yn ystod eu hoes, ond nid i'r un graddau. Gall gorbryder achosi symptomau corfforol, seicosomatig a gwybyddol, megis aflonyddwch, anniddigrwydd, blinder hawdd, anhawster canolbwyntio, cyfradd curiad y galon uwch, poen yn y frest, poen yn yr abdomen, ac amrywiaeth o symptomau amrywiol eraill.[1]

A lafar, mae'r geiriau gorbryder ac ofn (anxiety a fear) yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol. Mewn defnydd clinigol, mae iddynt ystyron gwahanol: diffinnir gorbryder fel cyflwr emosiynol annymunol lle heb ei adnabod yn union, neu'n cael ei weld yn afreolus neu'n anochel, tra bod ofn yn ymateb emosiynol a ffisiolegol i fygythiad allanol cydnabyddedig.[2] Mae'r term ymbarél anhwylder gorbryder yn cyfeirio at nifer o anhwylderau penodol sy'n cynnwys ofnau (ffobiau) neu symptomau o orbryder.[1]

Mae yna sawl anhwylder gorbryder, gan gynnwys anhwylder gorbryder cyffredinol, ffobia penodol, anhwylder pryder cymdeithasol, anhwylder pryder gwahanu, agoraffobia, anhwylder panig, a mutistiaeth ddetholus.[3][4] Gellir gwneud diagnosis o'r anhwylder unigol gan ddefnyddio'r symptomau penodol ac unigryw, neu drwy edrych ar beth a sbardunodd y digwyddiadau, ac amseriad y digwyddiadau hyn.[5] Os yw person yn cael diagnosis o anhwylder o orbryder, rhaid i weithiwr meddygol proffesiynol fod wedi gwerthuso'r person i sicrhau na ellir priodoli'r pryder i salwch meddygol neu anhwylder meddwl arall. Mae’n bosibl i unigolyn gael mwy nag un anhwylder gorbryder yn ystod ei fywyd neu ar yr un pryd ac mae anhwylderau gorbryder yn cael eu nodi gan gwrs a thaflen amser perthnasol.[6] Ar gyfer unigolion â phryder, mae yna nifer o driniaethau a strategaethau a all wella eu hwyliau, eu hymddygiad, a'u gallu i weithredu ym mywyd pob dydd.

Y gwahanol fathau[golygu | golygu cod y dudalen]

Anhwylder gorbryder cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) yn anhwylder cyffredin, a nodweddir gan bryder parhaol nad yw'n canolbwyntio ar unrhyw un gwrthrych neu sefyllfa arbennig. Profa'r rhai sy'n dioddef o anhwylder gorbryder cyffredinol ofn a gorbryder parhaus ac amhenodol, gan bryderu'n ormodol am faterion bob dydd. Fe'i nodwedir gan orbryder cronig ynghyd â thri neu fwy o'r symptomau canlynol: aflonyddwch, blinder, problemau canolbwyntio, anniddigrwydd, tensiwn yn y cyhyrau, ac aflonyddwch cwsg".[7] Anhwylder gorbryder cyffredinol yw'r anhwylder gorbryder mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar oedolion hŷn.[5] Gall gorbryder fod yn symptom o broblem feddygol neu anhwylder defnyddio sylweddau, a rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol fod yn ymwybodol o hyn.

Gwneir diagnosis o GAD pan fydd person wedi bod yn poeni'n ormodol am broblem bob dydd ers chwe mis neu fwy.[8] Gall y straen hwn gynnwys bywyd teuluol, gwaith, bywyd cymdeithasol, neu eu hiechyd eu hunain.[9] Gall y person edrych ei fod o dan straen, gyda mwy o chwysu o'r dwylo a'r traed,[10] a gallant fod yn ddagreuol hefyd.[11] Cyn gwneud diagnosis o anhwylder gorbryder, rhaid i feddygon ddiystyru gorbryder a achosir gan gyffuriau ac achosion meddygol eraill.[12]

Mewn plant, gall GAD fod yn gysylltiedig â chur pen, aflonyddwch, poen yn yr abdomen, a gorurio'r galon.[13] Yn nodweddiadol mae'n dechrau tua 8 i 9 oed.[13]

Ffobiau penodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Y categori unigol mwyaf o anhwylderau gorbryder yw ffobiau penodol, sy'n cynnwys pob achos lle mae ofn a gorbryder yn cael eu sbarduno gan ysgogiad neu sefyllfa benodol. Mae rhwng 5% a 12% o boblogaeth y byd yn dioddef o ffobia penodol.[8] Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl, ffobia yw'r ofn o wrthrychau neu sefyllfaoedd penodol.[14] Mae dioddefwyr fel arfer yn rhagweld canlyniadau brawychus o ddod ar draws gwrthrych maen nhw'n eu hofni, a all fod yn unrhyw beth o anifail i leoliad i hylif corfforol i sefyllfa benodol. Ymhlith y ffobiau mwyaf cyffredin mae: hedfan, corrod, gwaed, boddi, gyrru ar briffyrdd, a thwneli. Pan fydd pobl yn dod i gysylltiad â'u ffobia, gallant brofi cryndod, diffyg anadl, neu guriad calon cyflym.[15] Mae hyn yn golygu bod pobl â ffobiau penodol yn aml yn mynd allan o'u ffordd i osgoi dod ar eu traws.[16]

Anhwylder panig[golygu | golygu cod y dudalen]

Gydag anhwylder panig, mae person yn cael pyliau byr o arswyd a phryder dwys, a nodir yn aml gan grynu, ysgwyd, dryswch, pendro, cyfog, a / neu anhawster anadlu. Gall y pyliau panig hyn, a ddiffinnir gan yr APA fel ofn neu anghysur sy'n codi'n sydyn ac yn cyrraedd uchafbwynt mewn llai na deng munud, bara am sawl awr.[17] Gall ymosodiadau gael eu sbarduno gan straen, meddyliau afresymegol, ofn cyffredinol neu ofn yr anhysbys, yr anweledig, neu hyd yn oed ymarfer corff. Fodd bynnag, weithiau mae'r sbardun yn aneglur a gall yr ymosodiadau godi'n ddi-rybudd. Gall yr unigolyn osgoi lleoedd, pobl, mathau o ymddygiadau, neu sefyllfaoedd penodol y gwyddys eu bod yn achosi pwl o banig. Wedi dweud hyn, ni ellir atal pob ymosodiad.

Mae Anhwylder gorbryder cymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan fo rhywun yn dioddef o anhwylder pryder cymdeithasol (social anxiety disorder; SAD; a elwir hefyd yn ffobia cymdeithasol) mae ganddynt ofn go-iawn, ac maen nhw'n ceisio cael eu gweld yn gyhoeddus, sy'n embaras cyhoeddus, yn gywilydd, ac ni allen nhw ryngweithio'n gymdeithasol. Gall yr ofn hwn fod yn benodol i sefyllfaoedd cymdeithasol (fel siarad cyhoeddus) neu'n fwy cyffredinol. Mae gan tua 7% o oedolion Americanaidd anhwylder pryder cymdeithasol, ac mae mwy na 75% o bobl yn profi eu symptomau cyntaf yn eu plentyndod neu flynyddoedd cynnar eu harddegau.[18] Mae pryder cymdeithasol yn aml yn amlygu symptomau corfforol penodol, gan gynnwys gwrido, chwysu, curiad calon cyflym, ac anhawster siarad.[19] Fel gyda phob anhwylder ffobig, bydd y rhai sy'n dioddef o bryder cymdeithasol yn aml yn encilio ac mewn achosion difrifol gall arwain at ynysu cymdeithasol llwyr.

Anhwylder straen wedi trawma[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd anhwylder straen wedi trawma (post-traumatic stress disorder; PTSD) unwaith yn anhwylder gorbryder (sydd bellach wedi symud i anhwylderau cysylltiedig â thrawma a straen yn DSM-V) sy'n deillio o brofiad trawmatig. Mae PTSD yn effeithio ar tua 3.5% o oedolion yr Unol Daleithiau bob blwyddyn, ac amcangyfrifir y bydd un o bob 11 person yn cael diagnosis o PTSD yn ystod eu hoes.[20] Gall straen wedi trawma ddeillio o sefyllfa eithafol, megis ymladd, trychineb naturiol, trais rhywiol, cam-drin plant, bwlio, neu hyd yn oed ddamwain ddifrifol. Gall hefyd ddeillio o amlygiad hirdymor (cronig) i berson dan straen difrifol— [21] er enghraifft, milwyr sy'n dioddef brwydrau unigol ond na allant ymdopi â brwydro parhaus. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys gorwyliadwriaeth, ôl-fflachiau, ymddygiad drwy osgoi, gorbryder, dicter ac iselder. Yn ogystal, gall unigolion brofi aflonyddwch cwsg.[22] Mae pobl sy'n dioddef o PTSD yn aml yn ceisio datgysylltu eu hunain oddi wrth eu ffrindiau a'u teulu, ac yn cael anhawster i gynnal perthynas agos. Mae nifer o driniaethau, gan gynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), therapi amlygiad hirfaith, therapi brechu straen, meddyginiaeth, seicotherapi a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau.[8]

Diagnosis[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae diagnosis o anhwylder gorbryder yn cael ei wneud gan symptomau, y sbardunau, a hanes personol a theuluol y person. Nid oes biofarcwyr gwrthrychol na phrofion labordy a all wneud diagnosis o orbryder. Mae'n bwysig i weithiwr meddygol proffesiynol werthuso person ar gyfer achosion meddygol a meddyliol eraill ar gyfer gorbryder hir oherwydd bydd triniaethau'n amrywio'n sylweddol.[1]

Epidemioleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2010, yn fyd-eang, roedd tua 273 miliwn (4.5% o'r boblogaeth) ag anhwylder gorbryder.[23] Mae'n fwy cyffredin ymhlith merched (5.2%) na gwrywod (2.8%).[23]

Yn Ewrop, Affrica ac Asia, mae cyfraddau oes anhwylderau gorbryder rhwng 9% ac 16%, ac mae cyfraddau blynyddol rhwng 4 a 7%.[24] Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cyfraddau oes tua 29%[25] ac mae gan rhwng 11 a 18% o oedolion y cyflwr - ar gytfartaledd - mewn unrhyw flwyddyn benodol.[24] Effeithir ar y gwahaniaeth hwn gan yr amrywiaeth o ffyrdd y mae diwylliannau gwahanol yn dehongli symptomau gorbryder a'r hyn y maent yn ei ystyried yn ymddygiad normadol.[26][27] Yn gyffredinol, anhwylderau pryder yw'r cyflwr seiciatrig mwyaf cyffredin yn yr Unol Daleithiau, ar ol anhwylder defnyddio sylweddau.[28]

Mae amrywiaeth o achosion i orbryderu mewn plant; weithiau mae gorbryder wedi'i wreiddio mewn bioleg, a gall fod yn gynnyrch cyflwr arall sy'n bodoli, fel anhwylder ar y sbectrwm awtistig.[29] Mae plant dawnus hefyd yn aml yn fwy tueddol o orbryderu na phlant nad ydynt yn ddawnus.[30] Coda achosion eraill o orbryder yn y plentyn yn dilyn digwyddiad trawmatig o ryw fath, ac mewn rhai achosion, ni ellir nodi achos y gorbryder hwn.[31]

Mae gorbryder mewn plant yn dueddol o amlygu ar hyd themâu sy’n briodol i’w hoedran, megis ofn mynd i’r ysgol (ddim yn gysylltiedig â bwlio) neu beidio â pherfformio’n ddigon da yn yr ysgol, ofn cael eu gwrthod gan eu ffrindiau, ofn y bydd rhywbeth yn digwydd i anwyliaid, ac ati. Yr hyn sy'n gwahanu pryder anhrefnus oddi wrth bryder arferol plentyndod yw hyd a dwyster yr ofnau dan sylw.[32]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Diagnostic and statistical manual of mental disorders 5th edition: DSM-5. American Psychiatric Association,American Psychiatric Association. 2013. t. 189–195. ISBN 978-0-89042-555-8. OCLC 830807378. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "DSM5" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  2. World Health Organization (2009). Pharmacological Treatment of Mental Disorders in Primary Health Care (PDF). Geneva. ISBN 978-92-4-154769-7.
  3. Schacter, D. L., Gilbert, D. T., & Wegner, D.M. (2011). Psychology: Second Edition. New York, NY: Worth.
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' DSM52
  5. 5.0 5.1 "Anxiety Disorders in Later Life: Differentiated Diagnosis and Treatment Strategies". Psychiatric Times 26 (8). 2008. http://www.psychiatrictimes.com/display/article/10168/1166976. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Calleo" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  6. Hovenkamp-Hermelink (2021). "Predictors of persistence of anxiety disorders across the lifespan: a systematic review". The Lancet Psychiatry 8 (5): 428–443. doi:10.1016/S2215-0366(20)30433-8. PMID 33581052. https://doi.org/10.1016/S2215-0366(20)30433-8.
  7. Schacter, D. L., Gilbert, D. T., & Wegner, D.M. (2011).
  8. 8.0 8.1 8.2 Phil Barker (7 October 2003). Psychiatric and mental health nursing: the craft of caring. London: Arnold. ISBN 978-0-340-81026-2. Cyrchwyd 17 December 2010. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Barker2003" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Barker2003" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  9. Psychology, Michael Passer, Ronald Smith, Nigel Holt, Andy Bremner, Ed Sutherland, Michael Vliek (2009) McGrath Hill Education, UK: McGrath Hill Companies Inc. p 790
  10. "All About Anxiety Disorders: From Causes to Treatment and Prevention". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 February 2016. Cyrchwyd 2016-02-18.
  11. Psychiatry, Michael Gelder, Richard Mayou, John Geddes 3rd ed.
  12. Varcarolis.
  13. 13.0 13.1 Keeton, CP; Kolos, AC; Walkup, JT (2009). "Pediatric generalized anxiety disorder: epidemiology, diagnosis, and management.". Paediatric Drugs 11 (3): 171–83. doi:10.2165/00148581-200911030-00003. PMID 19445546.
  14. "NIMH » Anxiety Disorders". www.nimh.nih.gov. Cyrchwyd 2020-11-16.
  15. U.S. Department of Health & Human Services (2017). "Phobias". www.mentalhealth.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 May 2017. Cyrchwyd 2017-12-01.
  16. Psychology.
  17. "Panic Disorder". Center for the Treatment and Study of Anxiety, University of Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 May 2015.
  18. "Social Anxiety Disorder". Mental Health America (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-16.
  19. "NIMH » Social Anxiety Disorder: More Than Just Shyness". www.nimh.nih.gov. Cyrchwyd 2020-12-01.
  20. "What Is PTSD?". www.psychiatry.org. Cyrchwyd 2020-11-16.
  21. Post-Traumatic Stress Disorder and the Family. Veterans Affairs Canada. 2006. ISBN 978-0-662-42627-1. Cyrchwyd 8 September 2017.
  22. Shalev, Arieh; Liberzon, Israel; Marmar, Charles (2017). "Post-Traumatic Stress Disorder". New England Journal of Medicine 376 (25): 2459–2469. doi:10.1056/nejmra1612499. PMID 28636846.
  23. 23.0 23.1 Vos, T; Flaxman, AD; Naghavi, M; Lozano, R; Michaud, C; Ezzati, M; Shibuya, K; Salomon, JA et al. (15 December 2012). "Years lived with disability (YLDs) for 1160 sequelae of 289 diseases and injuries 1990–2010: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2010". Lancet 380 (9859): 2163–96. doi:10.1016/S0140-6736(12)61729-2. PMC 6350784. PMID 23245607. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6350784.
  24. 24.0 24.1 Simpson, Helen Blair, gol. (2010). Anxiety disorders : theory, research, and clinical perspectives (arg. 1. publ.). Cambridge, UK: Cambridge University Press. t. 7. ISBN 978-0-521-51557-3.
  25. "Lifetime prevalence and age-of-onset distributions of DSM-IV disorders in the National Comorbidity Survey Replication". Arch. Gen. Psychiatry 62 (6): 593–602. June 2005. doi:10.1001/archpsyc.62.6.593. PMID 15939837.
  26. Brockveld, Kelia C.; Perini, Sarah J.; Rapee, Ronald M. (2014). "6". In Hofmann, Stefan G.; DiBartolo, Patricia M. (gol.). Social Anxiety: Clinical, Developmental, and Social Perspectives (arg. 3). Elsevier. doi:10.1016/B978-0-12-394427-6.00006-6. ISBN 978-0-12-394427-6.
  27. Hofmann, Stefan G.; Asnaani, Anu (December 2010). "Cultural Aspects in Social Anxiety and Social Anxiety Disorder". Depress Anxiety 27 (12): 1117–1127. doi:10.1002/da.20759. PMC 3075954. PMID 21132847. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3075954.
  28. Fricchione, Gregory (12 August 2004). "Generalized Anxiety Disorder". New England Journal of Medicine 351 (7): 675–682. doi:10.1056/NEJMcp022342. PMID 15306669.
  29. Merrill, Anna. "Anxiety and Autism Spectrum Disorders". Indiana Resource Center for Autism. Indiana Resource Center for Autism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 June 2015. Cyrchwyd 10 June 2015.
  30. Guignard, Jacques-Henri; Jacquet, Anne-Yvonne; Lubart, Todd I. (2012). "Perfectionism and Anxiety: A Paradox in Intellectual Giftedness?". PLOS ONE 7 (7): e41043. Bibcode 2012PLoSO...741043G. doi:10.1371/journal.pone.0041043. PMC 3408483. PMID 22859964. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3408483.
  31. Rapee, Ronald M.; Schniering, Carolyn A.; Hudson, Jennifer L. "Anxiety Disorders During Childhood and Adolescence: Origins and Treatment" (PDF). Annual Review of Clinical Psychology. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 11 June 2015.
  32. AnxietyBC (2014-11-14). "GENERALIZED ANXIETY". AnxietyBC. AnxietyBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 June 2015. Cyrchwyd 11 June 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]