Haint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Engraifft o haint - Malaria

Haint yw pan fydd sylwedd heintus neu afiach yn ymosod ac yn tyfu ynghylch meinweoedd corff organeb, ynghyd ag ymatebiad y meinweoedd letyol i'r tocsinau a gynhyrchir.[1][2] Gelwir anhwylderau sy'n deillio o heintiau yn glefydau heintus, neu'n afiechydon trosglwyddadwy.

Achosir heintiau gan sylweddau heintus, er enghraifft firysau, firoidau, prionau a bacteria; nematodau megis llyngyr parasitig; arthropodau megis ticiau, gwiddon, chwain, a llau; ffwng megis tarwdenni; a macroparasitiaid eraill megis mathau o llynghyren.

Gall organedd letyol frwydro heintiau'n defnyddio eu system imiwnedd. Ymateba mamaliaid letyol i heintiau mewn modd cynhenid, ac yn aml mae'r dulliau ymateb yn cynnwys llid ynghyd ag ymatebion ymaddasol eraill.[3]

Ymhlith y meddyginiaethau penodol a ddefnyddir i drin heintiau y mae gwrthfiotigau, gwrthfeirysau, meddygaeth gwrth-protosoaidd, gwrthffyngoliaid, a gwrthlynghyryddion. Arweiniodd clefydau heintus at 9.2 miliwn o farwolaethau yn 2013 (tua 17% o'r cyfanswm marwolaeth).[4] Cyfeirir at y gangen o feddyginiaethau uchod fel meddyginiaethau clefydau heintus.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Definition of "infection" from several medical dictionaries – Retrieved on 2012-04-03
  2. "Utilizing antibiotics agents effectively will preserve present day medication". News Ghana. 21 November 2015. http://newsghana.com.gh/?p=853675. Adalwyd 21 November 2015.
  3. Alberto Signore (2013). "About inflammation and infection". EJNMMI Research 8 (3). http://www.ejnmmires.com/content/pdf/2191-219X-3-8.pdf.
  4. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990-2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.
  5. "Infectious Disease, Internal Medicine". Association of American Medical Colleges. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2015-02-06. https://web.archive.org/web/20150206201010/https://www.aamc.org/cim/specialty/list/us/339608/infectious_disease_-internal_medicine.html. "Infectious disease is the subspecialty of internal medicine dealing with the diagnosis and treatment of communicable diseases of all types, in all organs, and in all ages of patients."