Lady Bird Johnson
| Lady Bird Johnson | |
|---|---|
| Ganwyd | Claudia Alta Taylor 22 Rhagfyr 1912 Karnack |
| Bu farw | 11 Gorffennaf 2007 Austin |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | entrepreneur, gwleidydd |
| Swydd | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau, Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Tad | Thomas Jefferson Taylor, II |
| Mam | Minnie Pattillo |
| Priod | Lyndon B. Johnson |
| Plant | Lynda Bird Johnson Robb, Luci Baines Johnson |
| Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Texas, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Rachel Carson, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal |
| llofnod | |
| Lady Bird Johnson | |
| Cyfnod yn y swydd 22 Tachwedd 1963 – 20 Ionawr 1969 | |
| Arlywydd | Lyndon B. Johnson |
|---|---|
| Rhagflaenydd | Jackie Kennedy |
| Olynydd | Pat Nixon |
| Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1961 – 22 Tachwedd 1963 | |
| Arlywydd | John F. Kennedy |
| Rhagflaenydd | Pat Nixon |
| Olynydd | Muriel Humphrey |
| Geni | |
Roedd Claudia Alta "Lady Bird" Johnson (Taylor yn gynt; 22 Rhagfyr 1912 – 11 Gorffennaf 2007) yn Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1963 i 1969, yn briod i'r 36ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, Lyndon B. Johnson.
Pan yn ifanc, bu'n ffuddsoddwr da, a gwariodd $10,000 ar ymgyrch ei gŵr ym myd gwleidyddiaeth a rheolodd llawer o'i benderfyniadau. Prynnodd orsaf radio ac yna gorsaf deledu a oedd yn broffidiol iawn. Torrodd dir newydd pan oedd yn Brif Foneddiges, gan ddeolio'n uniongyrchol gyda Chyngres yr Unol Daleithiau, a chyflogodd ysgrifennydd y wasg iddi hi ei hun.
Ymgyrchodd yn llwyddiannus i ddileu llawer o hysbysebion a thomenni bler o ymylon ffyrdd a phasiwyd Deddf arbennig i orfodi hyn sef The Highway Beautification Act.[1]
Addysg
[golygu | golygu cod]Roedd yn ferch i ffermwr cyfoethog, o dras Seisnig, Cymreig a Danaidd, ac fe'i haddysgwyd mewn ysgol breifat ac yna ym Mhrifysgolion Alabama. Gadawodd yn ystod y cwrs gan ymuno â St. Mary's Episcopal College for Women gan raddio ym Mai 1930. Aeth yn ei blaen i ddilyn cwrs pellach mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Texas, lle derbyniodd radd baglor mewn hanes yn 1933 a gradd arall mewn newyddiaduraeth yn 1934.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How the Highway Beautification Act Became a Law"
- ↑ Russell (1999), p. 88
| Rhagflaenydd: Jackie Kennedy |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1963 – 1969 |
Olynydd: Pat Nixon |