Cyngres yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sêl Cyngres yr Unol Daleithiau

Deddfwriaeth dwy siambr llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America ydy Cyngres yr Unol Daleithiau. Mae'n cynnwys dau dŷ sef y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Dewisir seneddwyr a chynrychiolwyr drwy etholiadau uniongyrchol.

Cynrychiola pob un o'r 435 aelod o Dy'r Cynrychiolwyr ardal ac maent yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd. Rhennir seddau'r tŷ ymysg y taleithiau yn ôl poblogaeth. Mae'r 100 o Seneddwyr yn gwasanaethu am gyfnodau o chwe mlynedd. Mae gan bob talaith ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau. Bob dwy flynedd, etholir tua traean o'r Senedd ymhob etholiad.

Rhydd Erthygl I o'r Cyfansoddiad pŵerau deddfwriaethol i'r Gyngres. Mae'r Tŷ a'r Senedd yn bartneriaid cyfartal yn y broses deddfwriaethol (ni ellir gwireddu deddfwriaeth heb gytundeb rhwng y ddwy siambr); fodd bynnag, rhydd y Cyfansoddiad rhai pŵerau unigryw i bob siambr. Dim ond gan y Senedd y mae'r pŵer i gadarnhau cytundebau a chytuno i apwyntiadau arlywyddol. Rhaid i fesurau codi-cyllid ddeillio o Dŷ'r Cynrychiolwyr, sydd hefyd yn meddu ar y pŵer i ddwyn ag achos o uchelgyhuddo yn erbyn rhywun, tra bod gan y Senedd yn unig y pŵer i rhoi rhywun ar brawf mewn achos o uchelgyhuddo.

Mae'r Gyngres yn cyfarfod yn Capitol yn Washington, D.C.

Yn aml, defnyddir y term Cyngres i gyfeirio at gyfarfod penodol am ddeddfwriaeth cenedlaethol, yn unol a thermau'r cynrychiolwyr. O ganlyniad, mae "Cyngres" yn para am ddwy flynedd. Cyfarfu'r 111fed Gyngres presennol ar 6 Ionawr, 2009.

US Congress stub.PNG Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.