Llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia

Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau (Saesneg: Federal Government of the United States) yw llywodraeth genedlaethol yr Unol Daleithiau, gweriniaeth yng Ngogledd America.

Canghennau'r llywodraeth ffederal[golygu | golygu cod]

Mae tair prif gangen i'r llywodraeth ffederal, y gangen ddeddfwriaethol, y gangen weithredol a'r gangen farnwrol.

Cangen ddeddfwriaethol[golygu | golygu cod]

Cyngres yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys Tŷ'r Cynrychiolwyr a'r Senedd, yw cangen ddeddfwriaethol y llywodraeth ffederal.

Cangen weithredol[golygu | golygu cod]

Cynhwysa'r gangen weithredol yr Arlywydd, yr Is-Arlywydd, y Cabinet, yr adrannau gweithredol a'r asiantaethau.

Cangen farnwrol[golygu | golygu cod]

Y gangen farnwrol sy'n egluro a gweithredu cyfreithiau'r wlad.