Austin
Austin | |
---|---|
Lleoliad o fewn Swydd Travis, Swydd Williamson, Swydd Hays a Texas | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Ardal | Texas |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Dinas Austin |
Maer | Steve Adler |
Pencadlys | Austin City Hall |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 704 km² |
Uchder | 149 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 885,400 (Cyfrifiad 2013) |
Dwysedd Poblogaeth | 1,065.04 /km2 |
Metro | 1,883,051 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | CST (UTC-6) |
Cod Post | 78701-78705, 78708-78739, 78741-78742, 78744-78769 |
Gwefan | http://www.austintexas.gov |
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 790,390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y 19g a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.
Gefeilldrefi Austin[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwlad | Dinas | Blwyddyn o bartneriaeth |
---|---|---|
![]() |
Adelaide | 1983 |
![]() |
Angers | 2011 |
![]() |
Koblenz | 1991 |
![]() |
Lima | 1981 |
![]() |
Maseru | 1978 |
![]() |
Ōita | 1990 |
![]() |
Saltillo | 1968 |
![]() |
Orlu | 2000 |
![]() |
Gwangmyeong | 2001 |
![]() |
Xishuangbanna | 1997 |
![]() |
Antalya | 2009 |
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan Dinas Austin