Maseru
Gwedd
| Math | dinas, tref ar y ffin, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 343,541 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Austin, Koblenz |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Sesotho |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Maseru District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 138 km² |
| Uwch y môr | 1,600 metr |
| Gerllaw | Afon Caledon |
| Cyfesurynnau | 29.31°S 27.48°E |
| Cod post | 100 |
![]() | |
Prifddinas a dinas fwyaf Lesotho yw Maseru. Fe'i lleolir yng ngorllewin y deyrnas, ger y ffin â De Affrica.
Yn gorwedd ar lan Afon Mohokare, Maseru yw'r unig ddinas sylweddol yn Lesotho, gyda phoblogaeth o tua 227,880 (2006). Sefydlwyd y ddinas fel gwersyll heddlu a chafodd ei chyhoeddi yn brifddinas Lesotho pan ddaeth y wlad honno yn brotectoriaeth dan ofal Prydain yn 1869. Pan enillodd Lesotho ei hannibyniaeth yn 1966, parhaodd Maseru yn brifddinas y wladwriaeth newydd. Ystyr yr enw yn yr iaith leol yw "(Lle) Tywodfaen Coch".


Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys gadeiriol
- Maes awyren Mejametalana
- Palas brenhinol
- Senedd
- Stadiwm Setsoto
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Mots'eoa Senyane (g. 1968), diplomydd
- Lerato Bereng (g. 1986), arlunydd
