De Affrica
- Mae'r erthygl yma am y wlad. Am yr ardal o'r cyfandir Affrica, gwelwch De Affrica (rhanbarth).
| |||||
Arwyddair: !ke e: ǀxarra ǁke (Xam: "Undod mewn Amrywiaeth") | |||||
Anthem: National anthem of South Africa | |||||
Prifddinas | Pretoria (gweinyddol)
Cape Town (deddfwriaethol) Bloemfontein (cyfreithiol) | ||||
Dinas fwyaf | Johannesburg | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Affricaneg, Saesneg, Swlw, Xhosa, Swati, Ndebele, Sesotho (Sotho'r De), Sotho'r Gogledd, Tsonga, Tswana, Venda | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd | Jacob Zuma | ||||
Annibyniaeth • Undeb • Statud Westminster |
o'r Deyrnas Unedig 31 May 1910 11 Rhagfyr 1931 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,122,037 km² (25fed) Dim | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
47,432,000 (26fed) 44,819,278 39/km² (163fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $570.2 biliwn (18fed) $12,161 (55fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.658 (120ain) – canolig | ||||
Arian cyfred | Rand De Affrica (ZAR )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
SAST (UTC+2) | ||||
Côd ISO y wlad | .za | ||||
Côd ffôn | +27
|
Gweriniaeth yn Affrica sydd yn cynnwys Penrhyn Gobaith Dda yw De Affrica neu De'r Affrig. Gwledydd cyfagos yw Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic, Gwlad Swasi a Lesotho.
O holl wledydd cyfandir Affrica, De Affrica yw'r wlad sydd wedi gweld y mewnfudiad mwyaf o bobl o Ewrop, yn arbennig o'r Iseldiroedd a Phrydain, ond hefyd o Ffrainc a'r Almaen. Trefedigaeth Iseldiraidd oedd yna yn y dechreuad,[1] ond cafodd Prydain Fawr Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Dda o'r Iseldiroedd ar ôl cytundeb Amiens yn 1805. Yn y 1830au a'r 1840au symudodd ymsefydlwyr Iseldiraidd i barthau y tu fewn yr wlad i sefydlu y Gweriniaethau Boer yn Nhransvaal a'r Dalaith Rydd Oren.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Saif De Affrica ar ran deheuol cyfandir Affrica, wedi ei hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. Mae gan y wlad dros 2,500 km (1,553 milltir) o arfordir. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic a Gwlad Swasi, tra mae Lesotho yn cael ei hamgylchynu gan Dde Affrica.
O gwmpas yr arfordir mae rhimyn gweddol gul o dir isel, er ei fod yn lletach mewn ambell fan, megis talaith KwaZulu-Natal yn y dwyrain. Yng nghanol y wlad mae llwyfandir uchel. Yn rhan orllewinol y llwyfandir yma, ceir y Karoo, sy'n boeth iawn yn yr haf ond yn oer iawn yn y gaeaf. Dim ond dwy afon fawr sydd gan Dde Affrica, Afon Limpopo ac Afon Oren.
Mynydd uchaf y wlad yw Njesuthi, sy'n 3,410 metr o uchder. Saif yng ngorllewin y wlad, ar y ffîn â Lesotho.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir tystiolaeth archaeolegol fod yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un grud esblygiad pobol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn ôl tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf yno rhwng 125 000 a 50 000 o flynyddoedd yn ôl.
Trigolion cyntaf De Affrica oedd pobl Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu (hynafiaid y mwyafrif o bobl duon y Dde Affrica fodern) gyrraed tua 100 OC, gan ddod â dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi).
Y sefydlwyr Ewropeaidd cyntaf yn Ne Affrica oedd yr Iseldirwyr. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Gwladfa'r Penrhyn o'r Iseldirwyr am £6 miliwn. Ar ôl 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833. Yn yr un cyfnod, ymestynnodd y Zulu, dan eu brenin Shaka, eu hawdurdod dros ran helaeth o'r hyn sy'n awr yn Dde Affrica.
Teimladau chwerw oedd gan y trigolion o dras Iseldiraedd, a ddaeth i'w handnabod fel y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10 000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Oren, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843.
Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Gwladfa'r Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Oren yn 1848. Ond gwadwyd ei bolisïau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854.
Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny. Ymladdwyd Ail Ryfel y Boer rhwng 1899 a 1902. Ceisiodd yr Ymerodraeth Brydeinig feddiannu tiriogaethau gweriniaethau annibynnol y Boeriaid. Disgwylid y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond llwyddodd y Boeriaid i wrthsefyll byddinoedd yr ymerodraeth am dair blynedd. Yn y diwedd, ymgorfforwyd y gweriniaethau yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd". Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dŵf wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais. Daeth Nelson Mandela yn Arlywydd, a pharhaodd yn y swydd hyd 1999, pan olynwyd ef gan Thabo Mbeki.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ers 1994, mae naw talaith (gyda'u prifddinasoedd):
- Gauteng (Johannesburg)
- KwaZulu-Natal (Pietermaritzburg)
- Limpopo (Pietersburg)
- Mpumalanga (Nelspruit)
- Noord-Kaap (Kimberley)
- Noordwes (Mafikeng)
- Oos-Kaap (Bisho)
- Vrystaat (Bloemfontein)
- Wes-Kaap (Tref y Penrhyn)
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfrifiad 2001 | Amcangyfrif 2006 | |
---|---|---|
Poblogaeth | 44,819,778 | 47,390,900 |
Grŵp ethnig (%) | ||
Du Affricanaidd Gwyn Cymysg Indiaidd neu Asiaidd |
79.0 9.6 8.9 2.5 |
79.5 9.2 8.9 2.5 |
Iaith Gartref (%) | ||
Swlw Xhosa Afrikaans Sotho'r Gogledd Saesneg Tswana Sesotho (Sotho'r De) Tsonga Swati Venda Ndebele |
23.8 17.6 13.3 9.4 8.2 8.2 7.9 4.4 2.7 2.3 1.6 |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "African History Timeline". Prifysgol West Chester, Pennsylvania.