Afon Oren
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,400 metr |
| Cyfesurynnau | 28.89661°S 29.01794°E, 28.6308°S 16.45°E |
| Tarddiad | Drakensberg |
| Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
| Llednentydd | Afon Malibamat'so, Afon Senqunyane, Makhaleng River, Afon Caledon, Afon Vaal, Afon Fish, Afon Molopo, Gamkabrivier, Afon Kraai, Telle |
| Dalgylch | 973,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 2,200 cilometr |
| Arllwysiad | 800 metr ciwbic yr eiliad |
| Llynnoedd | Vanderkloof Dam Reservoir |
![]() | |
| Statws treftadaeth | safle Ramsar |
| Manylion | |
Afon yn Ne Affrica yw Afon Oren (Afrikaans: Oranjerivier, Saesneg: Orange River), weithiau hefyd afon Gariep. Hi yw afon hwyaf De Affrica, 1,860 km o hyd.

Ceir tarddle'r afon ym mynyddoedd y Drakensberg, ar y ffn rhwng De Affrica a Lesotho. Llifa tua'r gorllewin, gan ffurfio'r ffin rhwng De Affrica a Namibia cyn cyrraedd Cefnfor Iwerydd. Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn iddi yw afon Vaal.
Defnyddir dŵr yr afon i ddyfrhau cnydau, ac mae argae y Gariepdam (gynt yr Hendrik Verwoerddam) a'r Vanderkloofdam yn casglu dŵr yn y tymor glawog i'w ddefnyddio i ddyfrhau yn y tymor sych.
