Nelson Mandela

Oddi ar Wicipedia
Nelson Mandela
GanwydRolihllahla Mandela Edit this on Wikidata
18 Gorffennaf 1918 Edit this on Wikidata
Mvezo Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 2013 Edit this on Wikidata
o clefyd y system resbiradol Edit this on Wikidata
Houghton Estate Edit this on Wikidata
Man preswylHoughton Estate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, hunangofiannydd, cyfreithiwr, gweithredydd gwleidyddol, Carcharor gwleidyddol, sgriptiwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd De Affrica, Secretary General of the Non-Aligned Movement, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLong Walk to Freedom Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLuis Taruc Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAfrican National Congress, South African Communist Party Edit this on Wikidata
TadGadla Henry Mphakanyiswa Edit this on Wikidata
MamNosekeni Fanny Edit this on Wikidata
PriodEvelyn Mase, Winnie Madikizela-Mandela, Graça Machel Edit this on Wikidata
PlantMakgatho Mandela, Makaziwe Mandela, Zenani Mandela-Dlamini, Thembekile Mandela, Zindzi Mandela Edit this on Wikidata
PerthnasauNdileka Mandela Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, International Simón Bolívar Prize, Ludovic-Trarieux International Human Rights Prize, Gwobr Sakharov, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Seren Cyfeillgarwch y Bobl, Order of Friendship, Order of Eduardo Mondlane, 1st class, Grandmaster of the Order of Good Hope, Gwobr Heddwch Lennin, Urdd Lenin, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Urdd José Martí, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, honorary doctor of the Peking University, Gwobr Heddwch Nobel, Fulbright Prize, Urdd Aur yr Olympiad, Grand Cross of the National Order of Mali, Order of Augusto César Sandino, Gwobr Bruno Kreisky, honorary Canadian citizenship, Philadelphia Liberty Medal, Bharat Ratna, Arthur Ashe Courage Award, Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Ahimsa Award, Delta Prize for Global Understanding, Urdd Cyfeillgarwch, Medal Aur y Gyngres, Urdd Teilyngdod, Isitwalandwe Medal, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Urdd Stara Planina, Nishan-e-Pakistan, Urdd Playa Girón, Order of Jamaica, Urdd Seren Ghana, Urdd y Wên, Order of Agostinho Neto, Grand Cross of the Order of Liberty, honorary doctor of the Autonomous University of Barcelona, honorary doctor of the University of Hong Kong, honorary doctor of the University of Calcutta, honorary doctor of the University of Pretoria, honorary doctor of the Howard University, Bailiff Grand Cross of the Order of Saint John, Alan Paton Award, Urdd yr Eliffant, Urdd Brenhinol y Seraffim, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Order of the Nile, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Honorary Companion of the Order of Canada, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd Llew Aur Llinach Nassau, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Honorary Companion of the Order of Australia, Gandhi Peace Prize, Gwobr Four Freedoms, Order of the Lion, Platinum Order of Mapungubwe, Urdd Sant Ioan, Doethor Anrhydeddus yn Karolinska Institutet, Medal Giuseppe Motta, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Gwobr Mo Ibrahim: Arweinyddiaeth Dda yn Affrica, Uwch Groes Urdd Eryr yr Aztec, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Las Palmas, Gran Canaria, honorary citizen of Paris Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nelsonmandela.org Edit this on Wikidata
llofnod

Nelson Rolihlahla Mandela (18 Gorffennaf 19185 Rhagfyr 2013), oedd Arlywydd cyntaf De Affrica 19941999 i gael ei ethol mewn etholiadau cwbl gynrychiadol democrataidd. Cyn ei arlywyddiaeth, roedd Mandela yn ymgyrchydd gwrth-apartheid ac ef oedd arweinydd y Gynghrair Affricanaidd Cenedlaethol (ANC) a'i adain arfog sef yr Umkhonto we Sizwe. Cafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau a gyflawnwyd pan arweiniai ef y frwydr yn erbyn apartheid. Am ei ran yn y troseddau hyn, treuliodd 27 mlynedd yn y carchar gyda nifer helaeth o'r blynyddoedd hyn wedi'u treulio ar Ynys Robben.

Yn Ne Affrica ac yn rhyngwladol, daeth Mandela yn symbol o ryddid a chyfiawnder yn sgîl ei wrthwynebiad i apartheid, tra bod y llywodraeth apartheid a gwledydd a oedd yn cefnogi'r system hwn yn condemnio Mandela ac yn ei alw ef a'i gefnogwyr yn gomiwnyddion ac yn derfysgwyr. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar ar yr 11eg o Chwefror, 1990, arweiniodd ei gefnogaeth o drafodaeth at ddemocratiaeth aml-hîl yn Ne Affrica. Ers diwedd apartheid, mae Mandela wedi derbyn canmoliaeth fawr gan ei gyn-wrthwynebwyr hyd yn oed.

Derbyniodd Mandela dros gant o wobrau gwahanol dros bedwar degawd, gan gynnwys Gwobr Nobel am Heddwch ym 1993 a Gwobr Sakharov yn 1988. Ystyriwyd Mandela yn ystod ei flynyddoedd olaf fel un a oedd yn parhau i leisio'i farn am faterion cyfoes. Yn aml yn Ne Affrica, galwyd ef yn "Madiba", teitl anrhydeddus a fabwysiadwyd gan gyn-deidiau Mandela. Mae'r teitl bellach yn gyfystyr ag enw Nelson Mandela.

Ei Enedigaeth a'i Linach[golygu | golygu cod]

Nelson Mandela ifanc tua 1939

Mae Mandela yn perthyn i'r dynasty Thembu a reolai yn Nhiriogaethau Transkeian yn Nhalaith Cape yn Ne Affrica.[1]

Cafodd ei eni yn Mvezo yn y rhanbarth Umtata, sef prif ddinas Transkei. Enw ei hen-dadcu oedd Ngubengcuka (Anhysbys – 1832), ac ef oedd y Inkosi Enkhulu neu Frenin y Bobl Thembu, nes iddynt ddod o dan reolaeth ymerodraethol Brydeinig. Daeth un o feibion y brenin, a alwyd yn Mandela, yn dadcu i Nelson ac o'i herwydd ef cafodd y cyfenw Mandela. Fodd bynnag, am mai plentyn o wraig Inkosi o glan Ixhiba ydoedd, nid oedd gan y disgynyddion o'i rhan hi o'r teulu brenhinol yr hawl i orsedd Thembu. Roedd gan dad Mandela bedwar gwraig a chafodd 13 o blant gyda hwy (pedwar bachgen a naw merch). Ganwyd Mandela i drydedd gwraig Gadla. Golyga ei enw enedigol Rolihlahla "i dynnu cangen o goeden", neu mwy iaith bob dydd, "achoswr trwbwl".

Ei Addysg[golygu | golygu cod]

Rolihlahla Mandela oedd aelod cyntaf ei deulu i fynd i'r ysgol, a rhoddodd un o'i athrawon yr enw Saesneg "Nelson" iddo. Bu farw ei dad o'r diciau pan oedd Rolihlahla yn naw oed a daeth y rhaglyw Jongintaba yn warcheidwad drosto. Mynychodd Mandela ysgol genhadol Wesleaidd drws nesaf i balas y llywodraeth. Yn unol â thraddodiadau'r Thembu, cafodd ynydu pan oedd yn un ar bymtheg oed a mynychodd Athrofa Clarkebury. Cwblhaodd ei Dystysgrif Iau mewn dwy flynedd, yn hytrach na'r dair arferol. Ym 1937 symudodd Mandela i Healdtown, y coleg Wesleaidd yn Fort Beaufort lle'r arferai teulu brenhinol y Thembu fynychu. Pan oedd yn bedair ar bymtheg, dechreuodd Mandela ymddiddori mewn bocsio a rhedeg.

Wedi iddo orffen ei astudiaethau yn yr ysgol, dechreuodd Mandela astudio ar gyfer gradd B.A. ym Mhrifysgol Fort Hare, lle cyfarfu ag Oliver Tambo a daeth y ddau yn ffrindiau gydol oes. Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Nelson, daeth ynghlwm â boicot Cyngor Cynrychiolaeth y Myfyrwyr (CMM) yn erbyn polisïau'r brifysgol. Dywedwyd wrtho i adael Fort Hare ac na allai ddychwelyd oni bai ei fod yn derbyn ei etholaeth i'r CCM. Yn hwyrach yn ei fywyd, tra yn y carchar, astudiodd Mandela Fagloriaeth y Gyfraith yng nghynllun allanol Prifysgol Llundain.

Symud i Johannesburg[golygu | golygu cod]

Yn fuan wedi iddo adael Fort Hare, cyhoeddodd Jongintaba i Mandela a Justice (mab y brenin ac etifedd yr orsedd) ei fod wedi trefnu priodasau ar eu cyfer. Am nad oedd y ddau yn hapus gyda hyn, penderfynasant i roi'r gorau i foethusrwydd y bywyd brenhinol a symud i Johannesburg, yn hytrach na phriodi. Ychydig wedi iddo gyrraedd yn Johannesburg, dechreuodd Mandela weithio fel swyddog diogelwch mewn ardal mwyngloddio. Gweithiodd hefyd fel clerc gyda chwmni cyfreithiol o ganlyniad i'w gysylltiadau gyda'i ffrind a'i fentor, Walter Sisulu. Tra'n gweithio yno, cwblhaodd ei radd B.A. gyda Phrifysgol De Affrica cyn dechrau astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Witwatersrand. Yno, cyfarfu â chyd-fyfyrwyr ac ymgyrchwyr gwleidyddol gwrth-apartheid fel Joe Slovo, Harry Schwarz a Ruth First. Yn ystod y cyfnod hwn, trigai Mandela yn ardal Alexandra, i'r gogledd o Johannesburg.

Gweithredu Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar ôl buddugoliaeth y Blaid Genedlaethol (Afrikaner yn bennaf) yn etholiad 1948 gyda'i pholisi apartheid o rannu ar sail hîl, daeth Mandela'n amlwg yn Ymgyrch Herio yr ANC ym 1952 a Chynghrair y Bobl ym 1955. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithredai Mandela a'i gyd-gyfreithiwr Oliver Tambo gwmni cyfreithiol Mandela and Tambo a oedd yn darparu cyngor cyfreithiol rhad neu am ddim i bobl dduon a fyddai wedi bod heb gynrychiolaeth gyfreithiol heblaw am hynny.

Dylanwadwyd ar syniadaeth Mandela gan Mahatma Gandhi a ysbrydolodd ef a'r cenedlaethau nesaf o ymgyrchwyr gwrth-apartheid yn Ne Affrica. Yn wir, cymerodd Mandela ran yng nghynhadledd 29-30 Ionawr, 2007 yn Delhi i ddynodi can mlwyddiant cyflwyno satyagraha Gandhi yn Ne Affrica.

Yn wreiddiol, roedd Mandela'n gryf o blaid protestiadau torfol di-drias. Cafodd ei arestio ynghyd â 150 o bobl eraill ar y 5ed o Ragfyr 1956 a'i gyhuddo o deyrnfradwriaeth. Parhaodd yr achos llys o 1956–61 a chafodd pawb eu ffeindio'n ddi-euog. Rhwng 1952–59, profodd yr ANC amhariaeth wrth i garfan newydd o ymgyrchwyr duon (yr Africanists) fynnu camau mwy eithafol yn erbyn y Blaid Genedlaethol. Teimlai arweinwyr yr ANC, Albert Luthuli, Oliver Tambo a Walter Sisulu nid yn unig fod pethau'n symud yn rhy gyflym, ond bod eu harweinyddiaeth yn cael ei gwestiynu hefyd. Mewn ymgais i hybu eu safle, crëwyd cynghreiriau gyda phleidiau gwleidyddol Gwyn, Indiaidd a lleiafrifoedd ethnig bychain eraill er mwyn ceisio apelio at fwy o bobl na'r Africanists.

Ym 1959, collodd yr ANC ei chefnogaeth mwyaf militant pan grëodd yr Africanists y Gynghrair Pan Africanist, gyda chefnogaeth ariannol o Ghana a chryn dipyn o gefnogaeth gwleidyddol wrth y Basotho yn Transvaal.

Arwydd o'r cyfnod Apartheid.

Gweithredu Gerila[golygu | golygu cod]

Ym 1961, daeth Mandela yn arweinydd adain arfog yr ANC, Umkhonto we Sizwe (cyfieithir fel Gwaywffon y Genedl, talfyrir fel MK), adain a sefydlwyd ganddo ar y cyd. Cyd-lynodd ymgyrchoedd o ddifrodi targedau milwrol a llywodraethol, gan wneud cynlluniau ar gyfer rhyfela gerila posib pe na bai'r difrodi hwn yn llwyddo i ddod ag apartheid i ben. Roedd Mandela hefyd yn codi arian dramor ar gyfer yr MK gan drefnu hyfforddiant milwrol ar gyfer y grŵp.

Esboniodd un o'i gyd-aelodau o'r ANC, Wolfie Kadesh, yr ymgyrch fomio a arweiniwyd gan Mandela, gan ddweud "When we knew that we going to start on 16 December 1961, to blast the symbolic places of apartheid, like pass offices, native magistrates courts, and things like that ... post offices and ... the government offices. But we were to do it in such a way that nobody would be hurt, nobody would get killed". Dywedodd Mandela am Wolfie: "His knowledge of warfare and his first hand battle experience were extremely helpful to me".

Disgrifiodd Mandela y symudiad tuag at frwydro arfog fel yr opsiwn olaf; roedd y blynyddoedd o orthrwm cynyddol a thrais gan y wladwriaeth wedi ei argyhoeddi fod y blynyddoedd o ymgyrchu di-drais yn erbyn apartheid heb gyflawni dim ac na fyddai'n cyflawni dim chwaith.

Yn ddiweddarch, yn ystod y 1980au yn bennaf, bu'r MK mewn rhyfel gerila yn erbyn y gyfundrefn apartheid a dioddefodd nifer o silifiaid. Cyfaddefodd Mandela'n hwyrach fod yr ANC, tra'n brwydro yn erbyn apartheid, wedi mynd yn groes i hawliau dynol. Beirniadodd Mandela y bobl hynny yn ei blaid ei hun a oedd wedi ceisio gwaredu'r datganiadau hyn o adroddiad y Comisiwn Gwirionedd a Chymodi.

Tan mis Gorffennaf 2008, roedd Mandela ac aelodau'r ANC wedi'u gwahardd rhag mynd i mewn i'r Unol Daleithiau heblaw am bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Manhattan – heb ganiatad arbennig wrth Ysgrifennydd Gwladol yr UD, am fod y cyfnod o gyfundrefn apartheid De Affrica yn eu hystyried yn derfysgwyr.

Arestio ac Achos Llys Rivonia
Cell Mandela yng y carchar ar Ynys Robben.

Ar y 5ed o Awst, 1962, arestiwyd Mandela ar ôl cyfnod o ddau fis ar bymtheg yn cuddio o'r heddlu. Cafodd ei garcharu yn Amddiffynfa Johannesburg. Llwyddwyd i'w arestio ar ôl i Asiantaeth Cudd Canolog yr Unol Daleithiau (y CIA) hysbysu'r heddlu diogelwch am leoliad a phryd a gwedd Mandela. Tridiau yn ddiweddarach, cafodd ei gyhuddo o arwain gweithwyr i streicio a gadael y wlad yn anghyfreithlon mewn achos llys. Ar y 25ain o Hydref 1962, dedfrydwyd Mandela i bum mlynedd o garachar. Dwy flynedd yn ddiweddarach, ar yr 11eg o Fehefin, daethpwyd i benderfyniad am ei weithredu blaenorol gyda'r ANC.

Tra'r oedd Mandela wedi'i garcharu, arestiodd yr heddlu arweinwyr blaenllaw yr ANC ar yr 11eg o Orffennaf 1963, ar Fferm Liliesleaf, Rivonia, i'r gogledd o Johannesburg. Daethbwyd a Mandela i mewn ac, yn yr achos llys Rivonia Trial, cawsant eu cyhuddo gan y prif erlynydd Dr. Percy Yutar o ddifrodi a throseddau eraill a oedd yn gyfatebol i deyrnfradwriaeth, ond yn haws i'r llywodraeth brofi. Cyfaddefodd Mandela i'r cyhuddiad o ddifrod troseddol. Yr ail gyhuddiad oedd eu bod yn cynllwynio ymosod ar dir De Affrica, cyhuddiad a wadwyd gan Mandela.

Yn ei ddatganiad yn Uchel-Lys Pretoria ar yr 20fed o Ebrill 1964, esboniodd Mandela resymeg yr ANC dros ddefnyddio trais fel ffordd o ymgyrchu. Dangosodd ei ddatganiad sut y defnyddiodd yr ANC dactegau di-drais am flynyddoedd er mwyn brwydro yn erbyn apartheid, tan Gyflafan Sharpeville. Roedd y digwyddiad hwn, ynghyd â'r refferendwm yn sefydlu De Affrica, y Datganiad o Gyflwr Argyfyngus yn ogystal â gwahardd yr ANC wedi ei wneud yn glir mai'r unig opsiwn a oedd ar ôl ganddynt oedd drwy ymgyrch o ddifrodi. Pe na baent wedi gwneud hynny, byddai'n gyfatebol i ildio diamod. Parhaodd Mandela drwy esbonio sut yr aethant ati i ddatblygu Maniffesto'r Umkhonto we Sizwe ar yr 16eg o Ragfyr 1961, gyda'r nod o amlygu methiannau polisïau'r Blaid Genedlaethol am y byddai tramorwyr yn gwrthod buddsoddi yn y wlad ac felly'n cael effaith negyddol ar yr economi. Gorffennodd ei ddatganiad gyda'r geiriau canlynol:

"During my lifetime I have dedicated myself to the struggle of the African people. I have fought against white domination, and I have fought against black domination. I have cherished the ideal of a democratic and free society in which all persons live together in harmony and with equal opportunities. It is an ideal which I hope to live for and to achieve. But if needs be, it is an ideal for which I am prepared to die".

RoeddBram Fischer, Vernon Berrange, Harry Schwarz, Joel Joffe, Arthur Chaskalson a George Bizos i gyd yn rhan o'r tîm cyfreithiol a oedd yn amddiffyn y cyhuddiedig. Cafwyd pob un heblaw am Rusty Bernstein eu dyfarnu'n euog ar y 12fed o Fehefin 1964, ond llwyddasant i osgoi'r grocbren trwy dderbyn dedfryd o oes yn y carchar.

Hunangofiant[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd hunangofiant Mandela, Long Walk to Freedom ym 1994. Dechreuodd Mandela ei ysgrifennu'n gyfrinachol pan oedd yn y carchar. Yn y llyfr hwnnw, ni ddatgelodd Mandela unrhyw gysylltiad honedig rhwng F.W. de Klerk nac ychwaith rôl ei gyn-wraig Winnie Mandela yn y tywallt gwaed a ddigwyddodd yn ystod y 1980au a'r 1990au. Yn ddiweddarach fodd bynnag, cyd-weithiodd Mandela gyda'i ffrind, y newyddiadurwr Anthony Sampson a drafododd y materion hyn yn ei lyfr "Mandela: The Authorised Biography". Ffaith arall a hepgorwyd oedd y llyfr a honwys i fod yn dwyllodrus, "Goodbye Bafana". Honnodd awdur y llyfr, James Gregory, warden yn Robben Island, fod Mandela'n rhannu cyfrinachau ag ef a chyhoeddodd fanylion am faterion teuluol y carcharor. Mynnai Sampson nad oedd Mandela'n adnabod Gregory yn dda iawn, ond bod Gregory yn sensro llythyron a ddanfonwyd at y arlywydd nesaf ac felly darganfyddodd fanylion am fywyd personol Mandela. Honnodd Sampson hefyd fod y wardeniaid eraill yn amau fod Gregory yn ysbio ar ran y llywodraeth a bod Mandela yn ystyried mynd a Gregory i'r llys.

Arlywyddiaeth De Affrica[golygu | golygu cod]

Baner drilliw Cyngres Genedlaethol Affrica

Cynhaliwyd etholiadau aml-hil cyntaf De Affrica ar y 27ain o Ebrill 1994. Enillodd yr ANC 62% o'r holl bleidleisiau yn yr etholiad a gwnaed Mandela, fel arweinydd yr ANC, yn Arlywydd du cyntaf y wlad ar y 10fed o Fai 1994. Gwnaed de Klerk o'r Blaid Genedlaethol yn îs-arlywydd a Thabo Mbeki yn ail yn y Llywodraeth o Undod Cenedlaethol.

Polisi o Gymodi[golygu | golygu cod]

Yn ei rôl fel Arlywydd o fis Mai 1994 tan Fehefin 1999, rheolodd Mandela y broses bontio o reolaeth lleiafrifol ac apartheid, gan ennyn parch rhyngwladol tuag at ei bolisi o gymodi cenedlaethol a rhyngwladol.

Annogodd Mandela bobl dduon De Affrica i gefnogi'r Springboks (tîm rygbi cenedlaethol De Affrica), wrth i Dde Affrica gynnal Cwpan Rygbi'r Byd ym 1995. Pan enillodd y Springboks mewn gêm derfynol epig yn erbyn Seland Newydd, cyflwynodd Mandela'r tlws i'r capten Francois Pienaar tra'n gwisgo crys Springbok. Gwelwyd hyn fel cam mawr yn y broses o gymodi rhwng y bobl wynion a'r bobl dduon.

Tra yn ei swydd fel Arlywydd, un o nodweddion Mandela oedd ei ddefnydd o grysau batik, a elwir yn "grysau Madiba", hyd yn oed ar achlysuron ffurfiol.

Cyrchu Lesotho[golygu | golygu cod]

Cyrch filwrol gyntaf De Affrica ar ôl apartheid oedd pan orchmynnodd Mandela'r lluoedd arfog i mewn i Lesotho ym mis Medi 1998 er mwyn amddiffyn llywodraeth y Prif Weinidog Pakalitha Mosisili. Digwyddodd hyn pan gwestiynwyd canlyniadau etholiad a arweiniodd at wrthwynebiad chwyrn a beryglai sefydlogrwydd y llywodraeth.

Beirniadaeth i'w Ymateb i'r Argyfwng AIDS[golygu | golygu cod]

Mae beirniaid a sylwebyddion gan gynnwys ymgyrchwyr AIDS megis Edwin Cameron wedi beirniadu Mandela am aneffeithiolrwydd ei lywodraeth i atal yr argyfwng AIDS. Ar ôl iddo ymddeol, cyfaddefodd Mandela efallai ei fod wedi gadael ei wlad i lawr drwy beidio a thalu mwy o sylw i'r epidemig HIV/AIDS. Ers hynny, mae wedi ceisio tynnu sylw De Affrica a'r byd at y sefyllfa drychinebus yn ei wlad.

Ei Briodasau a'i Deulu[golygu | golygu cod]

Ei briodas ag Evelyn, 1944

Mae Mandela wedi bod yn briod teirgwaith ac mae'n dad i chwech o blant, ugain o wyron a nifer cynyddol o or-wyron. Mae ei wyr, Mandla Mandela, yn bennaeth ar Gyngor Traddodiadol Mveso.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Long Walk to Freedom (1995)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) De Affrica: Dathlu Mandela yn 90 oed. AllAfrica.com (July 17, 2008). Adalwyd ar 28 Hydref, 2008.
  2. (Saesneg) Mandela's grandson a Xhosa chief. bbc.co.uk (Ebrill 16, 2007). Adalwyd ar 16 Rhagfyr, 2008.
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
F. W. de Klerk
Arlywydd De Affrica
19941999
Olynydd:
Thabo Mbeki