Caethwasiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r darlun yma'n dangos y fasnach o'r Unol Daleithiau. Yn yr un modd byddai llongau yn hwylio o borthladdoedd yn Lloegr, Portiwgal, Sbaen a Ffrainc i orllewin Affrica gydag amrywiol nwyddau. Defnyddid y nwyddau yma i brynu caethion, fyddai'n cael eu cludo i gyfandir America i'w gwerthu. Byddai'r llongau wedyn yn dychwelyd i Ewrop gyda llwythi o siwgwr a chynnych arall

Mae caethwasiaeth yn berthynas lle mae un person yn cael ei ystyried yn eiddo i berson arall. Gorfodir y caethwas i weithio i'w berchennog heb gael tâl am hynny.

Caethwasiaeth yn yr Henfyd[golygu]

Roedd caethwasiaeth yn gyffredin yn yr henfyd, ac yn sail gwareiddiadau megis Yr Hen Aifft, Groeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig ymysg eraill. Yn aml, roedd caethweision yn garcharorion rhyfel, neu'n blant i gaethweision ac felly'n gaethweision eu hunain. Weithiau gellid gwerthu dyledwr fel caethwas os na allai dalu ei ddyledion. Fel rheol yr oedd deddfau yn rheoli sut y cai meistr drin ei gaethweision, a gallai caethwas gael ei ryddhau gan ei feist, un ai trwy brynu ei ryddid neu fel gwobr am flynyddoedd o wasanaeth.

Yn raddol, daeth caethwasiaeth yn llai cyffredin yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac roedd yn weddol brin erbyn diwedd y 15fed ganrif.

Y fasnach o Affrica[golygu]

Gyda darganfyddiad a choloneiddio America gan wahanol wledydd Ewropeaidd, oedd angen llafur i dyfu cnydau ac i weithio mwynfeydd. Dechreuodd yr arferiad o ddod a chaethion o Affrica i wneud y gwaith yma yn y 16eg ganrif, a thyfodd yn raddol ar y cyntaf, yna'n gyflymach yn y 18fed ganrif. O orllewin Affica y deuai'r rhan fwyaf o'r caethion hyn. Credir i dua 30 miliwn o Affricanwyr gael ei cario dros Fôr Iwerydd cyn i'r fasnach ddod i ben yn y 19eg ganrif. Y prif wledydd oedd yn gyfrifol am y fasnach oedd:

Tua diwedd y 18fed ganrif dechreuodd symudiad i roi diwedd ar gaethwasiaeth. Yn 1807, ar gymhelliad William Wilberforce ac eraill, pasiwyd deddf yn y Deyrnas Unedig i roi diwedd ar y fasnach mewn caethion, ond nid ar gaethwasiaeth ei hun. Pasiwyd deddf i roi diwedd ar gaethwasiaeth yn Mexico yn 1810. Yn yr Unol Daleithiau, roedd caethwasiaeth yn un o'r ffactorau a arweiniodd at Ryfel Catref America, ac yn ystod y rhyfel hwnnw cyhoeddodd Abraham Lincoln y byddai'r caethion yn cael ei rhyddhau.

Caethwasiaeth heddiw[golygu]

Credir fod nifer sylweddol o bobl yn gaethweision heddiw, yn enwedig yn rhai o wledydd Affrica. Enwir Mauritania fel un gwlad lle mae hynny'n wir.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • E. Wyn James, ‘Caethwasanaeth a’r Beirdd, 1790-1840’, Taliesin, 119 (2003), tt.37-60. ISSN 0049-2884.
  • E. Wyn James, ‘Welsh Ballads and American Slavery’, Welsh Journal of Religious History, 2 (2007), tt.59-86. ISSN 0967-3938.
  • D. Hugh Matthews, 'Bedyddwyr Cymraeg a Chaethwasiaeth', Y Traethodydd, Ebrill 2004, tt.84-91. ISSN 0969-8930.
  • Daniel Williams, 'Hil, Iaith a Chaethwasanaeth; Samuel Roberts a "Chymysgiad Achau" ', Y Traethodydd, Ebrill 2004, tt.92-106. ISSN 0969-8930.
  • Daniel G. Williams (gol.), Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010). ISBN 978-1-84851-206-1.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am caethwasiaeth
yn Wiciadur.