Diemwnt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Diemyntau

Maen neu garreg yw Diemwnt, sy'n alotrop o garbon lle mae'r atomau carbon wedi eu trefnu mewn ffurf dellten o grisialau isomedrig-hecsoctahedraidd. Mae ei galetrwydd a'i gwasgariad uchel o olau yn ei wneud yn ddefnyddiol ar gyfer diwylliant a gemwaith. Hon yw'r mwyn caletaf sy'n digwydd yn naturiol. Mae'n bosib trin diemyntau arferol o dan gyfuniad o bwysedd a thymheredd uchel er mwyn creu diemyntau Math-II, sy'n galetach na'r diemyntau a ddefnyddir mewn medryddion mesur caletwch.[1]

Daw'r gair diemwnt (neu "diamwnd") o'r Groeg hynafol ἀδάμας (adámas) "anorchfygol", "di-ddofi", o ἀ- (a-), "di-" + δαμάω (damáō), "i drechu, i ddofi". Maent wedi cael eu trysori fel cerrig gemau ers eu defnydd yn yr eiconau crefyddol yn India hynafol ac mae eu defnydd mewn offer ysgythru yn dyddio o hanes dyn cynnar.[2][3] Mae poblogrwydd diemyntau wedi cynyddu ers yr 19eg ganrif oherwydd cynnydd yn y cyflenwad, a gwelliannau yn nhechnoleg torri a sgleinio, twf economi'r byd, ac ymgyrchau hysbysebu arloesol a llwyddianus.

Gweler hefyd[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. Ulrich Boser (Mehefin 2008). "Diamonds on Demand" : Smithsonian, tud. 52–59
  2. Pliny the Elder. Natural History: A Selection. Penguin Classics, tud. 371. ISBN 0140444130
  3.  Chinese made first use of diamond. BBC (2005-05-17).

Ffynonellau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: