Ysgythru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwasg ysgythru yn Amgueddfa Tŷ Rembrandt.

Proses brintio drwy endorri'r ddelwedd ag asid ar wyneb metel, copr gan amlaf, yw ysgythru.[1] Câi'r plât ei orchuddio'n gyntaf gyda sylwedd diddos rhag asid, gan amlaf cyfansawdd o gwyr gwenyn, bitwmen, a resin. Tynnir llun y dyluniad ar y grwnd ysgythru hwn gyda nodwydd neu offeryn miniog arall. Yna, rhoddir asid nitrig neu Dutch mordant (toddiant o asid hydroclorig a photasiwm clorad) i gael gwared ar y rhannau na amddiffynir gan y grwnd, ac o ganlyniad mae patrwm o linellau cilfachog ar hyd y dyluniad. Rhoddir yr inc yn y llinellau hwn, a gwasgir y plât ar bapur i drosglwyddo'r dyluniad a chreu'r print.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  ysgythru. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
  2. (Saesneg) Etching. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.