Metel

Oddi ar Wicipedia
Metel
Mathdeunydd, deunydd hydrin, aloi Edit this on Wikidata
Yn cynnwysElfen drosiannol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae metel (lluosog: metalau) yn fath o elfen (caled fel arfer) gyda phriodweddau penodol. Mae metelau yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad isel, sy'n eu galluogi i ffurfio catïonau yn hawdd ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn bondio metelig. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau nodweddiadol. Er bod anfetelau yn bresennol mewn canrannau uwch ar y ddaear, mae dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Yn y tabl cyfnodol mae'r metelau ar y chwith gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r anfetelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn lled-fetelau.

Crisial Galiwm

Priodweddau ffisegol[golygu | golygu cod]

Mae'r metelau yn solidau sgleiniog, fel arfer. Arian byw yw'r unig un nad yw'n solid, gan ei fod yn hylif trwm yn ei gyflwr safonol. Mae'r mwyafrif yn arian o ran eu lliw, ond mae gan rai ohonynt liwiau gwahanol gyda lliwiau copr ac aur mor nodweddiadol nes bod enw'r metelau yn dod o enw'r lliw.

Maent hefyd yn:

  • Dargludyddion trydanol gyda chopr ac aur ymysg y dargludyddion gorau
Oherwydd bod yr ïonau positif mewn môr o electronau, ac felly gall yr electronau rhydd yma llifo pan roddir foltedd ar draws yr adeiledd metel. Arian yw'r defnydd sy'n dargludo fwyaf, ond oherwydd ei phris uchel, defnyddir copr.
  • Dargludyddion thermol
Mae'r gwres yn gwneud i'r electronau rhydd i ddirgrynu, mae'r egni dirgrynu yma yn trosglwyddo i wres ac yn teithio trwy'r ddellten.
  • Deunyddiau hydrin
Mae hyn meddwl bod modd eu plygu a gwasgu i siâp. Mae'r haenau yn llithro dros ei gilydd heb dorri'r bond metelig.
  • Deunyddiau hydwyth,
Mae hyn meddwl bod modd tynnu i wifrau yn hawdd. Mae'r haenau yn llithro dros ei gilydd heb dorri'r bond metelig.
  • Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel iawn
Mae angen egni mawr i dorri'r ddellten ïonig. Heblaw am un eithriad, sef Mercwri, sy'n ymdoddi ar -39°C ac yn hylif ar dymheredd ystafell.

Priodweddau cemegol[golygu | golygu cod]

Mae metelau yn colli electronau yn hawdd ffurfio catïonau, felly maent yn adweithio gydag anfetelau i ffurfio cyfansoddion ïonig. Maent yn ffurfio ocsidau basig trwy adweithio gydag ocsigen.

Bondio yn yr elfen[golygu | golygu cod]

Tarddiad y bondio mewn metelau yw eu hegnïon ïoneiddiad isel. Yn yr elfen mae'r atomau yn colli eu helectronau allanol i ffurfio dellten o gatïonau. Mae'r electronau allanol yn ffurfio môr o electronau dadleoledig sy'n rhydd i symud o amgylch yr ïonau positif. Mae hwn yn arwain at sglein a dargludedd yr elfennau. Nid yw'r cymoedd yn gyfeiriadol, felly mae modd newid eu siapau yn hawdd sy'n eu gwneud yn hydrin a hydwyth. Yn ogystal, mae'r môr o electronau yn gallu arwain cerrynt trydanol yn hawdd trwy'r metel.

Ar lefel fwy dwfn gellid disgrifio metel yn nhermau'r lefelau egni ar gyfer yr electronau dadleoledig. Maent yn ffurfio bandiau o lefelau egni, gyda'r band falens a'r band dargludiad yn orgyffwrdd. Mae'r broses yn galluogi'r electronau falens i gael eu trosglwyddo i'r band dargludiad lle gallant symud. Mae'r diffiniad hwn yn agor y posibilrwydd o fetelau nad ydynt yn elfennau neu gymysgedd o fetelau elfennol (aloi). Mae rhai polymerau organig sydd yn cynnwys electronau dadleoledig yn dangos priodweddau metel a gelwir y rhain yn fetelau organig.